Mae Amgueddfa Ceredigion wedi bod yn gweithio gyda Prosiect Ysgolion Ohio i ddathlu daucanmlwyddiant yr allfudo cyntaf o Geredigion i Ohio ar 1 Ebrill 1818.

Yn 1818, hwyliodd chwe theulu o ardal Cilcennin yn Sir Aberteifi, allan o Aberaeron, gan allfudo i America a setlo yn Ohio yn yr Unol Daleithiau. Y nhw oedd y teuluoedd cyntaf i allfudo o’r sir i De Ddwyrain Ohio. Wedi hynny, dilynodd 3,000 o drigolion eraill o ganol Sir Aberteifi ôl troed yr allfudwyr cyntaf o Gilcennin.

Yn y gwanwyn, ymwelodd naw ysgol gynradd leol ag Amgueddfa Ceredigion yn Aberystwyth, i edrych ar yr hanes y tu ôl i’r mudo. Cafodd 300 o ddisgyblion y cyfle i drin a thrafod gwrthrychau’r amgueddfa, gwisgo gwisgoedd o’r 19eg ganrif ac ail-ddychmygu’r profiad o fwy mewn bwthyn gwledig. Dysgodd y disgyblion am galedi bywyd yng nghefn gwlad Ceredigion 200 mlynedd yn ôl a’r rhesymau dros yr allfudo yn 1818.

Dywedodd Anna Evans, Swyddog Dysgu Amgueddfa Ceredigion, “Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda thîm Prosiect Ysgolion Ohio, yn enwedig ysbrydoli meddyliau ifanc i ddychmygu’r gorffennol. Roedd y plant yn llawn chwilfrydedd, yn enwedig wrth archwilio replica’r Amgueddfa o fwthyn, ac yn gofyn pob math o gwestiynau diddorol am arferion byw preswylwyr bwthyn o’r 19eg ganrif.”

Yn dilyn y sesiynau yn yr amgueddfa, cynhaliwyd gweithdai celf yn yr holl ysgolion a fu’n cymryd rhan yn y prosiect. Cynhyrchodd y disgyblion panoramâu’n darlunio bywyd mewn bythynnod gwledig, gweithio ar y fferm, a’r siwrnai tri mis beryglus o Aberaeron i Baltimore. Cafodd yr holl waith celf a grëwyd ei arddangos ar gyfer y cyhoedd yn Neuadd Bentref Llangeitho am rai diwrnodau ym mis Mehefin.

Ychwanegodd Anna, “Roedd e’n ffantastig i weld y gwaith celf anhygoel wnaeth y plant eu creu. Mae bob amser yn dda gweld sut y gall casgliad yr amgueddfa ysgogi’r dysgu ar draws y cwricwlwm, gan annog pobl ifanc i ymarfer eu llythrennedd a’u rhifedd wrth ddysgu am hanes eu cymunedau eu hunain”.

Roedd yr arddangosfa o waith celf yn rhan o wythnos o ddigwyddiadau a gweithgareddau a drefnwyd i nodi’r daucanmlwyddiant, a oedd yn cynnwys, arddangosfeydd, gŵyl emynau ar Fynydd Bach, a chyngerdd yn y Cae Sgwâr yn Aberaeron.

Dywedodd y Cynghorydd Rhodri Evans, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros yr Economi ac Adfywio, “Mae hwn wedi bod yn gyfle gwych i blant Ceredigion ddysgu mwy am hanes lleol mewn ffordd hwyliog a diddorol, ac mae’n wych bod Amgueddfa Ceredigion yn gallu darparu’r profiadau hyn. Roedd yr arddangosfa yn Neuadd Bentref Llangeitho yn gyfle ardderchog i’r disgyblion a’u hathrawon i rannu’r hyn maent wedi’i greu gyda’r gymuned leol.”

I cael gwybod mwy, dilynwch y prosiect Cymru - Ohio 2018 ar Facebook neu ewch i’r wefan; http://www.cilcennin.wales/cy/wales-celebrations-ohio-2018/

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch a Anna Evans ar anna.evans@ceredigion.gov.uk / 01970 633088.

02/07/2018