Fe fydd Cered: Menter Iaith Ceredigion yn brysur rhwng 1 a 4 Mawrth gyda digwyddiadau i ddathlu Gŵyl Dewi yn Aberystwyth a Llambed.

Cynhelir Parêd Gŵyl Dewi Llambed ar ddydd Gwener, 2 Mawrth ac mae disgwyl i gannoedd o drigolion lleol o bob oed orymdeithio drwy strydoedd y dref i gyfeiliant cerddoriaeth Gymraeg a chwifio baneri. Ymhlith y gorymdeithwyr fydd ysgolion, cymdeithasau, clybiau ac eglwysi’r cylch. Gofynnir i bob ysgol a chymdeithas arddangos baner eu mudiad a gwisgo gwisg Gymreig traddodiadol neu’r lliw coch.

Fe fydd y Parêd yn dechrau am 12.45yp yn Ysgol Bro Pedr gan orffen gyda seremoni arbennig ym Mharc yr Orsedd. Yn annerch y gorymdeithwyr fydd Ben Lake AS, Elin Jones AC a Chyngor Tref Llambed. Bydd adloniant gan siaradwyr, Côr Cwmann a’r Cylch ac ensemble o Ysgol Bro Pedr. Yn dilyn y Parêd fe fydd sesiwn dawns i ddisgyblion blynyddoedd 5 a 6 y cylch gyda Sally Saunders a Sioned Rees.

Esboniodd Owain Llŷr, Uwch Swyddog Datblygu Cered, sut datblygwyd y cynllun i gynnal Parêd, “Yn ystod 2017, fe wnaeth Cered gynnal grwpiau ffocws fel rhan o gynllun Pwerdy Iaith Llambed a’r Cylch er mwyn mynd ati i asesu sefyllfa’r Gymraeg yn y cylch ac i feddwl am brosiectau i’w datblygu er mwyn rhoi hwb i’r iaith yn lleol. Un o’r syniadau a drafodwyd oedd sefydlu Parêd Gŵyl Dewi yn y dref gan ddilyn esiamplau trefi megis Aberystwyth a Chaerfyrddin sydd wedi datblygu gorymdeithiau o’r fath dros y blynyddoedd diwethaf. Yn dilyn y grwpiau ffocws yma fe wnaeth aelodau o Gyngor Tref Llambed drefnu pwyllgor er mwyn mynd ati i drefnu Parêd. Mae Cered wedi cefnogi’r gwaith yma fel rhan o waith cymunedol y fenter.”

Yn rhan o’r dathliadau yn Llambed, fe fydd holl gaffis y dref yn cynnig bwydydd Cymreig ar Ddydd Gŵyl Dewi ei hun sef dydd Iau, 1 Mawrth ac mae cystadleuaeth addurno ffenestr siop i fusnesau’r dref. Bydd gwobr i'r busnes buddugol yn rhoddedig gan y Cyngor Tref. I gloi’r dathlu, cynhelir Gig Gŵyl Dewi ar nos Sadwrn, 3 Mawrth. Yn perfformio bydd Fleur de Lys, Mei Emrys a’r Band, Bwca a DJs Ysgol Bro Pedr. Mae’r tocynnau yn £8 o flaen llaw trwy gysylltu gyda Cered ar 01545 572350 neu ebostiwch cered@ceredigion.gov.uk, a £10 wrth y drws.

Noddir y Parêd gan Gyngor Tref Llambed, Cered, LAS, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, W. D. Lewis, Clwb Rotari Llambed, Pedr a Chlwb Cinio Llambed.

Yn ogystal â chwarae rhan flaenllaw yn trefnu dathliadau Gŵyl Dewi Llambed, mae Cered hefyd wedi bod yn brysur yn trefnu gweithgareddau arbennig yn Aberystwyth. Ar ddydd Sadwrn, 3 Mawrth fe fydd Cered yn cynnal diwrnod o weithgareddau ac adloniant Cymraeg i’r teulu oll fel rhan o ddiwrnod Parêd Gŵyl Aberystwyth. Fe fydd ‘Cered ar y Prom’ yn cael ei gynnal rhwng 9.30yb a 4yp yn y Bandstand ac yn cynnwys perfformiad gan y Welsh Whisperer, y diddanwr hynod o boblogaidd am 2yp.

Bydd bandiau rhai o ysgolion cynradd y cylch a fu’n cymryd rhan mewn gweithdai cyfansoddi cân bop gyda Steff Rees o Bwca a hefyd un o Swyddogion Datblygu Cymunedol Cered, yn perfformio. Bydd nifer o weithdai yn cael eu cynnal i gyd yn rhad ac am ddim i fynychu. Bydd gweithdy celf gyda’r artist Meinir Mathias, sesiwn stori i fabanod, gweithdy creu gwisgoedd gydag Arad Goch a gweithdy clocsio i blant gyda Tasgu.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, “Mae’r Cyngor yn falch o gefnogi Cered, sy’n gweithio’n ddiwyd i ddylanwadu a datblygu’r defnydd o’r Gymraeg yng Ngheredigion. Trwy’r digwyddiadau a threfnwyd fel rhain, gall pawb sy’n caru Cymru ac am weld Cymru’n ffynnu, beth bynnag eu cefndir, yn cael siawns i ddathlu a mwynhau dydd Gŵyl Dewi gyda’n gilydd.”

Am fwy o wybodaeth am y digwyddiadau yma neu am waith ehangach Cered, hoffwch eu tudalen Facebook, @ceredmenteriaith, dilynwch nhw ar Twitter, @MICered, neu ymwelwch â’u gwefan sef www.cered.cymru.

12/02/2018