Cynhelir noson o gomedi stand-yp Cymraeg gyda Noel James, Sion Owens a’r Welsh Whisperer yn Theatr Felinfach ar Nos Sadwrn, 24 Mawrth am 8:00yh.

Dywedodd Rhian Dafydd, Rheolwr Busnes a Marchnata Theatr Felinfach, “Os ydych yn un o ddilynwyr y Welsh Whisperer, byddwch yn gwybod bod, ...y tanc y Welsh Whisperer yn llawn o ddisel coch a bod y ‘Mansel Davies Man’ yn beilo nawr! Dewch i glywed ei ganeuon clap a chân am fywyd ling di long cefn gwlad Cymru, caneuon a hiwmor Gorllewinol yn ffresh o’r sîn ‘Cymru & Western’. Mae gwisgo i fyny fel y Welsh Whisperer ar gyfer y noson yn opsiynol ond yn cael ei argymell.

Ar ôl troedio’r byrddau stand-yp yn Lloegr yn y 90au, dychwelodd Noel James i Gymru, a dechreuodd ysgrifennu deunydd trwy gyfrwng ei famiaith. Sioe ffraeth, ddeinamig a gwreiddiol yw’r canlyniad sy’n cynnwys jôcs, miwsig, a sylwebaeth anochel ar gyflwr presennol Gwalia. Eirwyn Pontsian yr unfed ganrif ar hugain.

Yn dilyn ei lansiad i'r byd comedi yn 'Cymryd y Mic' ar rhaglen 'Y Lle', mae Siôn Owens yn prysur gwneud enw i'w hun fel un o ddigrifwyr newydd mwyaf cyffrous Cymru. Cofi Dre o Gaernarfon yw e’n wreiddiol, ond erbyn hyn yn byw a bod yng Nghaerdydd. Peidiwch a cholli'r talent newydd hyn na'i steil egnïol.

Bydd rhywbeth at ddant pawb yma, ac mae ‘na groeso i’r teulu cyfan, hen ac ifanc, wel dim rhy ifanc!” Canllaw Oedran o 16+ .

Tocynnau ar gael o’r Swyddfa Docynnau 01570 470697 neu ymwelwch theatrfelinfach.cymru. Maent yn £10 o flaen llaw neu £12 wrth y drws.

12/03/2018