Ar 09 Tachwedd, cynhaliwyd noson deyrnged i ddathlu dau seren theatr leol, Aeron Davies a Grett Jenkins.

Cafodd Aeron a Grett eu geni yn Nyffryn Aeron o fewn wythnos o’i gilydd yn ystod y 1920’au. Daethant yn boblogaidd ar ôl perfformio mewn theatrau ar draws Cymru dros gyfnod o 50 mlynedd.

Trefnwyd y noson gan Theatr Felinfach mewn cydweithrediad â Theatr Gydweithredol Troedyrhiw, gyda phob sedd yn llawn. Fe edrychwyd yn ôl ar waith a bywydau Aeron a Grett yn ystod y noson.

O barch i’r genhedlaeth o bobl ifanc a gollwyd yn y Rhyfel Mawr, codwyd Neuadd Goffa yn Felin-fach. O 1927, defnyddiodd Cwmni Drama Tyngwndwn y neuadd fel theatr ar gyfer perfformiadau Nadolig gan ddenu cynulleidfaoedd helaeth. I Aeron a Grett, y neuadd hon oedd eu coleg drama ac actorion dim nonsens Tyngwndwn oedd eu hathrawon.

Erbyn canol y pumdegau, roedd y ddau wedi ‘graddio’ ac yn prysur ennill edmygedd cynulleidfaoedd helaeth a deallus cefn gwlad y gorllewin. Ym 1973, penderfynodd Cwmni Tyngwndwn gau pen y mwdwl ar dros hanner canrif o deithio a pherfformio. I Aeron a Grett, dim ond dechrau stori nhw oedd hwn. Heb wastraffu eiliad, camodd Aeron a Grett yn hyderus o lwyfan neuadd bentref Felin-fach i ofod creadigol mawr y theatr newydd gyfagos, Theatr Felinfach.

Dywedodd Hywel Evans, Darlithydd-mewn-Gofal Theatr Felin-fach y 1970au, “I un o blant y ddinas fel fi, roedd gweld Aeron a Grett a’u cyd-actorion wrth eu gwaith yn agoriad llygad.”

Fis Mehefin eleni, ymadawodd y ddau oddi wrth byd y llwyfan o fewn wythnos i’w gilydd, wedi serennu yn theatr y werin am dros 60 mlynedd.

Dywedodd Euros Lewis, a ddechreuodd weithio yn Felin-fach yn yr un cyfnod, “Roedd Aeron a Grett yn bobol enwog am eu direidi a’u drygioni, hyd yn oed. Ond roedd y busnes actio yma yn un ro’n nhw’n cymryd yn gwbl-gwbl o ddifrif. Nid ‘hobby’ a rhywbeth i’w wneud yn eu hamser hamdden oedd y gwaith yma. Roedd y broses o greu yn hollol ganolog i’w bywydau; rhan annatod o bwy o’n nhw a’u hawydd a’u gallu i gyfrannu at y gwaith creadigol pwysicaf oll: creu a chynnal cymdeithas.”

---DIWEDD---

Llun: Noson deyrnged Aeron a Grett, Theatr Felinfach.

Linc ar-lein:

 

 

13/11/2018