Fel rhan o ddathliadau Wythnos Gwaith Ieuenctid 2018, cynhaliwyd noson agored, gan Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn eu Canolfan yn Aberteifi.

Ar nos Fercher, 27 Mehefin 2018, agorodd Canolfan Ieuenctid Aberteifi ei ddrysau i deuluoedd, thrigolion lleol a phartneriaid. Roedd y noson agored yn gyfle i gymryd golwg o gwmpas y ganolfan, cwrdd â’r Gweithwyr Ieuenctid a mwynhau lluniaeth ysgafn a ddarparwyd yn garedig iawn gan Crwst, The Queens Bakery ac Aldi Aberteifi.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, Aelod Cabinet gyda chyfrifoldeb dros y Gwasanaethau Dysgu, “Mae Canolfan Ieuenctid Aberteifi yn chwarae rôl ganolog mewn cynnig cyfleoedd eang i blant a phobl ifanc yn lleol, felly roedd hi’n bleser cael y cyfle i gymryd golwg o gwmpas y Ganolfan Ieuenctid ac i fod yn rhan o ddathliadau Wythnos Gwaith Ieuenctid Ceredigion. Mae’r ardd yn y ganolfan wedi cael trawsnewidiad yn ddiweddar trwy dderbyn grant gan Raglen Ymestyn yn Ehangach y Gogledd a’r Canolbarth. Cafodd y bobl ifanc gyfle i greu mainc bicnic a murluniau celf liwgar. Roedd hi’n braf gweld bod y ganolfan yn ymfalchïo mewn man i’r gymuned gyfan fwynhau.”

Am fwy o wybodaeth, neu i ddysgu mwy am gyfleoedd sydd ar gael i chi, ewch draw i’r tudalennau Facebook, Twitter neu Instagram trwy @GICeredigionYS, wefan www.giceredigionys.co.uk/hafan neu cysylltwch â’r Tîm ar youth@ceredigion.gov.uk.

 

03/07/2018