Enillodd pedwar Arweinydd Ifanc o Geredigion Wobr Arloesol Genedlaethol am eu gwaith fel Llysgenhadon Ifanc Efydd dros y flwyddyn ddiwethaf.

Rhoddwyd cydnabyddiaeth i Elan Jones, Mackenzie Lawlor, Mili Davies a Yazmin Bonner-Miah, sydd nawr wedi symud ymlaen i Ysgol Penglais, am eu gwaith yn hybu gweithgaredd corfforol ac i gael plant yn actif yn Ysgol Gynradd Gymunedol Plascrug.

Dywedodd Alwyn Davies, Rheolwr Pobl Ifanc Egnïol, “Mae hyn yn gydnabyddiaeth wych i Elan, Mackenzie, Mili a Yazmin am eu hymroddiad a’u gwaith caled yn y rôl o Lysgennad Ifanc Efydd. Fe wnaethon nhw oll gymryd y fenter a roddwyd iddynt gan Ceredigion Actif a gweithio gyda staff yr ysgol i weithredu’r gweithgareddau. Mae hyn wedi cael effaith gadarnhaol ar y disgyblion yn gorfforol ac yn gymdeithasol.”

Roedd gan y grŵp fenter arbennig drwy ffilmio 36 fideo byr o sgiliau corfforol. Cafodd y fideos eu rhannu gyda ddisgyblion, athrawon a rhieni yn yr ysgol trwy godau QR. Cafodd y fenter eu rhannu ymhellach i ysgolion Ceredigion.

Mae’r fenter nawr wedi ei gydnabod a’i ddewis fel ennillydd Gwobr Arloesol Genedlaethol gan yr Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ifanc a Chwaraeon Cymru trwy’r rhaglen Llysgennad Ifanc.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am Wasanaethu Dysgu a Dysgu Gydol Oes, “Mae’r Rhaglen Arweinyddiaeth yn cael eu darparu trwy ysgolion yng Nghymru. Mae’n hyfryd gweld cydnabyddiaeth i Ysgol Gynradd yng Ngheredigion a’i Llysgenhadon Ifanc yn genedlaethol gyda’r fenter arloesol arweiniol yma.”

Trefnodd y grŵp hefyd gemau amser cinio ac ar ôl ysgol, rhedeg menter Ffit mewn 5 a helpu trefnu’r Ffair Haf.

 

27/11/2018