Heb gymorth a chefnogaeth eu gwirfoddolwyr ymroddgar, medrus a brwdfrydig ni fyddai Tîm Hawliau Tramwy Cyhoeddus Cyngor Sir Ceredigion yn medru gwneud y gwaith cynnal a chadw ar lwybrau troed a llwybrau ceffylau.

Jill Lowry, Swyddog Mynediad Cyhoeddus, sy’n myfyrio ar y gwaith hwn ac yn rhoi hanes prosiect heriol ond gwerth chweil y bu hi’n rhan ohono.

“Nid wy’n fenyw glyfar. Ni allaf gynnig geiriau doeth na chyngor call. Rwy’n gwneud camgymeriadau’n rheolaidd. Fodd bynnag, un peth a ddysgais yw os ydy Ceidwad Ardal Hawliau Tramwy yn gofyn i chi a ydych chi’n teimlo’n gryf, meddyliwch yn ofalus cyn ateb. Yn anffodus, mae hon yn wers a ddysgais drwy brofiad, a hynny’n rhy hwyr i wrthod gwahoddiad i helpu adeiladu pont droed ar lwybr troed wrth ymyl Afon Teifi yn Henllan.

Gan fod cyn lleied o oriau o olau yn y gaeaf, roedd Osian Jones y Ceidwad Ardal wedi trefnu bod y diwrnod yn dechrau’n gynnar, gyda’r pren yn cyrraedd y safle yn fuan ar ôl 8:30yb. Pan ofynnodd y gyrrwr a ddaeth â’r pren, “faint o’r gloch y mae eich peiriant yn cyrraedd i ddadlwytho’r trawstiau?”, cefais yr arwydd cyntaf o’r fath o ddiwrnod a oedd yn wynebu Osian, pedwar o’i wirfoddolwyr, fi a’m chwaer, a oedd wedi bod yn ddigon ffôl i gyfaddef fod ganddi ddiwrnod bant o’r gwaith ac wedi cynnig dod â chyflenwad o fisgedi i’n cadw ni i fynd.

Roeddwn i’n meddwl bod y pren ar gyfer croesi a oedd yn 5 metr o hyd ac yn eithaf sylweddol, yn edrych yn frawychus pan roeddent ar y ffrâm ar y lori ac rwy’n siŵr fod y gyrrwr yn meddwl ein bod ni’n wallgof am hyd yn oed meddwl am symud y pren heb gymorth mecanyddol. Roedd yn amlwg nad oedd y gwirfoddolwyr yn meddwl hynny. Neidiodd dau ohonynt ac Osian i fyny a dechrau pasio’r pren i lawr i’r gweddill ohonom ni. Unwaith roeddent wedi’u dadlwytho a’u gosod ar arwyneb gwastad ac yn sefydlog, roedd modd cychwyn ar y pethau technegol gydag Osian yn mesur ac un o’r gwirfoddolwyr yn cychwyn y gwaith drilio.

Y dasg nesaf, a’r rheswm y cefais y gwahoddiad, oedd cario pob trawst am bellter o 300m ar hyd y llwybr hyd at y man lle’r oedd angen gosod y bont. Hwyluswyd y broses o gario’r trawstiau drwy ddefnyddio gefeiliau, gan weithio mewn parau a chyda parau ychwanegol o ddwylo i gyfnewid fel bod coesau a breichiau blinedig yn medru cael saib heb arafu’r gwaith. Fel bob amser, gwnaed y gwaith o adeiladu a gosod y bont ar y safle yn gynt diolch i’r gwirfoddolwyr brwdfrydig, medrus a dyfeisgar.

Cwblhawyd y gwaith wrth i olau’r dydd wanhau o dan y canopi o goed ffawydd. Roedd y siwrne yn ôl at y tryc tipyn yn haws heb bwysau’r pren yr oedd yn rhaid i ni eu cludo ar ddechrau’r dydd. Fel bob amser, hyd yn oed ar ôl tasg mor anodd â hwn, roedd y wefr ar ôl gwneud gwaith da yn golygu bod y tîm wedi cwblhau’r diwrnod gyda gwên ar eu hwynebau a theimlad o lwyddiant aruthrol.
Erbyn hyn, gall defnyddwyr y llwybr hynod boblogaidd hwn yn Henllan groesi’r nant sy’n torri ar draws y llwybr heb gael eu traed yn wlyb a heb droedio’r planc.”

Ewch i’r dudalen ‘Crwydro a Marchogaeth’ ar wefan y Cyngor i weld y rhwydwaith o lwybrau cyhoeddus sy’n cynnig ffordd ardderchog o archwilio Ceredigion. Mae natur amrywiol cefn gwlad yn cynnig ystod o gyfleoedd ar gyfer cerddwyr, marchogwyr a seiclwyr, o lwybrau hamddenol ar hyd yr arfordir i lwybrau garw ar y mynyddoedd www.ceredigion.gov.uk.

Am ragor o wybodaeth am Hawliau Tramwy Cyhoeddus, ewch i http://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/yr-arfordir-a-chefn-gwlad/hawliau-tramwy-cyhoeddus/

Os hoffech chi helpu’r Tîm Hawliau Tramwy, beth am ymuno â’n cynllun Meddiannu Llwybr? Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Jill Lowry ar 01545 574140 neu ewch i: http://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/yr-arfordir-a-chefn-gwlad/hawliau-tramwy-cyhoeddus/cynllun-meddiannu-llwybr/

 

 

02/03/2018