Cynhyrfu’r cof a goglis y cyhyre wherthin - dyna fydd digwyddiad cyntaf Yr Ŵyl Ddrama eleni yn ei wneud, sef cydweithredu rhwng Theatr Felinfach a Theatr Gydweithredol Troedyrhiw.

Mae 30 mlynedd wedi pasio ers i ffarmwr ifanc ar fynydd Tregaron stopio’r tractor yn sydyn a rhedeg i’r tŷ i sgriblan ar y tamed cyntaf o bapur wrth law y syniadau rhyfedd yn ei ben am ffarm gyffredin yn wynebu problemau cyffredin â help gwas, wel, anghyffredin.

Enw’r ffarm – fel ma’ sawl cenhedlaeth o wylwyr S4C yn gwybod yn iawn – o’dd Nyth Cacwn, a’r gwas, wrth gwrs, o’dd Wiliam.

Bydd Nefi Bananas! ymlaen nos Wener, 05 Hydref, am 19:30, lle bydd Wiliam ac ambell i un arall o blith pobol Nyth Cacwn yn cwrdd yn Theatr Felinfach i wylio dwy bennod o’r gomedi sefyllfa unigryw ac i rannu a’r gynulleidfa storïau am y profiad o ddod a Nyth Cacwn bob cam o ddychymyg Ifan i’r sgrîn fach.

Ond nid cofio a joio ’mond er mwyn cofio a joio fydd y noswaith. Yn gynharach eleni bu farw Grett Jenkins sef ‘Brenhines y Ddrama’ yng nghefn gwlad Ceredigion a’r actores a roddodd gig go dwff a gwaed go dew i gymeriad Gwyneth sef ‘Mam’ a bos Nyth Cacwn.

Medd Ifan Gruffydd, “Mi o’dd Grett yn actores arbennig iawn. O’dd hi’n agos at 70 oed pan ddechreuodd weithio ar Nyth Cacwn sef y tro cyntaf iddi actio ar y teledu. Ond ag oes o brofiad ar lwyfannau Cymru y tu cefn iddi, doedd newid cyfrwng yn ddim problem yn y byd iddi.”

Yn arwain y sgwrs ag Ifan a Gwyneth Hopkins (‘Delyth’) fydd Cennydd Jones, Pontsian – un o ffans mawr y gyfres er nad oedd wedi’i eni pan ddarlledwyd hi gyntaf. Medd Cennydd, “Fy ngwaith i yw gwneud yn siŵr fod pawb yn cofio a joio wrth wylio gyda’i gilydd. Ond ma’ ’na jobyn arall ’da fi i ’neud hefyd. Mae’r Ŵyl Ddrama ise defnyddio’r noswaith hon yn ddrws i bobol o ’nghenhedlaeth i gamu drwyddo er mwyn cael cip ar y theatr Gymraeg fyrlymus honno a roddodd i Grett a’i thebyg y fath ddyfnder o ddeallusrwydd artistig a chreadigol.”

Medd Euros Lewis, un o drefnwyr yr ŵyl a chyd-sgriptiwr Nyth Cacwn, “Â help Cennydd, Ifan, Gwyneth a phawb fydd yn bresennol, ein gobaith yw ysgogi criw ifanc o blith y gynulleidfa i ddod ynghyd i’n helpu i lunio digwyddiad mawr nesaf Yr Ŵyl Ddrama (ganol mis Tachwedd), sef Noson Deyrnged i Grett ac Aeron Davies (cyd-actor iddi a fu farw’n gynharach eleni hefyd.”

Gwta mis fydd gan bwy bynnag ddaw ynghyd i gyflawni’r ymchwil a chreu’r rhaglen deyrnged, ond, yn ôl Euros, mi fydd yn fis pwysig i’r criw ifanc ac i theatr gynhenid y Cymry. Meddai: “Er mor ddifyr, dyw atgofion wedi’u cloi yn y gorffennol fawr o werth. Y gamp fydd rhyddhau ohonynt yr egni adnewyddol neilltuol hwnnw sydd â’r potensial i danio yn y genhedlaeth ifanc gynaliadwyedd y dyfodol.”

Noson Nefi Bananas! yn Theatr Felinfach Nos Wener, 5 Hydref am 19:30 yn addas ar gyfer y teulu cyfan. Mae pob tocyn yn £3.50, a medrwch archebu o flaen llaw ar theatrfelinfach.cymru neu 01570 470697. Nefi bananas – bargen!

26/09/2018