Gwobrwywyd Medal yr Ymerodraeth Brydeinig i Lee Coulson mewn seremoni a gynhaliwyd ar 19 Mai yn Siambr y Cyngor, Neuadd Cyngor Ceredigion, Aberaeron. Gwobrwywyd y fedal iddo am wasanaethau i Bêl-fasged Anabl yn wirfoddol ac yn elusennol.

Dechreuodd Lee Clwb Pêl-fasged Aberystwyth yn 1992 ac fe wnaeth effaith arwyddocaol ar fywydau pobl anabl trwy sefydlu adran Pêl-fasged Cadair Olwyn, ble mae ganddynt Dîm yng Nghynghrair Prydain yn ogystal â chael sesiwn hwyl teulu yn rheolaidd.

Cyflwynwyd Medal yr Ymerodraeth Brydeinig iddo gan Miss Sara Edwards, Arglwydd Raglaw Ei Mawrhydi yn Nyfed.

Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Sir Ceredigion, Eifion Evans, a arweiniodd y seremoni, “Mae Mr Coulson yn llwyr haeddianol o Fedal yr Ymerodraeth Brydeinig. Mae ei waith caled ac ymroddiad mewn darparu chwaraeon cynhwysol wedi cynnig cyfleoedd i nifer o bobl i gymryd rhan a mwynhau ac wedi gwneud chwaraeon mor gynhwysol i cymaint o bobl ag sy’n bosib.”

Mae Lee hefyd wedi helpu cyflwyno sesiynau Ardal Pêl-fasged Cynhwysol mewn ysgolion yng Ngheredigion, ac ar hyn o bryd yn y broses o sefydlu tîm Pêl-fasged i oedolion sydd ag anabledd dysgu.

Mae Lee wedi bod yn Brif Hyfforddwr Clwb Pêl-fasged Aberystwyth am 26 o flynyddoedd ac hefyd wedi hyfforddi Tîm Pêl-fasged Cymru o dan 15 am y 3 mlynedd diwethaf. Yn 2017, dychwelodd y tîm o’r Bencampwriaeth Cadair Olwyn Iau Prydain gyda medal Arian.

Mae Lee yn gyn-ennillydd gwobr fawreddog ‘Trawsnewid Bywydau’ gan Chwaraeon Anabledd Cymru mewn cydnabyddiaeth o’i waith.

Mae Clwb Pêl-fasged Aberystwyth wedi cael eu gwobrwyo gyda acolâd Clwb Insport y Mis ar gyfer eu hymagwedd at broses Insport, ac yn 2017 wedi cyflawni Gwobr Arian Insport.

Ar ôl derbyn Medal yr Ymerodraeth Brydeinig, dywedodd Mr Coulson, “Dw i wrth fy modd yn derbyn yr anrhydedd mawr yma a rhannu’r seremoni gyda fy nheulu a ffrindiau. Mae wedi bod yn un o fy amcanion trwy’r blynyddoedd i sicrhau bod chwaraeon yn gynhwysol i bawb. Ethos Clwb Pêl-fasged Aberystwyth yw ‘gall unrhyw un chwarae’ a dw i’n falch o’r holl wirfoddolwyr ag aelodau ein clwb sydd wedi sicrhau bod hyn yn digwydd.”

Gwobrwyir Medal yr Ymerodraeth Brydeinig i bobl sydd wedi gwneud gwaith parhaus ac effaith o bwys yn eu cymuned.

 

22/05/2018