Mae’r cyfrifoldeb am redeg y gwasanaethau yng Nghanolfan Hamdden Tregaron wedi cael ei drosglwyddo i grŵp cymunedol ar ôl cwblhau prydles rhwng Cyngor Sir Ceredigion a Hamdden Caron Leisure.

Mae Hamdden Caron Leisure yn grŵp o wirfoddolwyr o Dregaron a'r ardal gyfagos. Dyma benllanw proses ble ofynnodd y Cyngor am Ddatganiadau o Ddiddordeb ar gyfer darparu gweithgareddau chwaraeon cymunedol o’r ganolfan hamdden. Sefydlwyd y broses yn dilyn gwaith a wnaed gan Fwrdd Ad-drefnu Gwasanaethau Hamdden y Cyngor.

Dywedodd Rhydian Wilson o Hamdden Caron Leisure, “Rydym yn edrych ymlaen at gynnal a gobeithio gwella'r gwasanaeth i bobl yr ardal.”

Dywedodd Cynghorydd Sir, a Thref Tregaron, y Cynghorydd Catherine Hughes, “Mae'n braf gweld y gymuned yn cydweithio i sicrhau bod pobl Tregaron a'r ardal gyfagos yn parhau i gael mynediad at wasanaethau hamdden yn y ganolfan. Dymunwn bob hwyl i'r grŵp ac rwy'n sicr y bydd y gymuned leol yn cefnogi'r fenter hon i sicrhau ei fod yn llwyddiant.”

Bydd y Cyngor yn cefnogi Hamdden Caron Leisure gyda'u menter newydd ac yn parhau i weithredu rhai gwasanaethau o'r ganolfan hamdden.

Dywedodd y Cynghorydd Rhodri Evans, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Ffordd o Fyw, “Mae'n galonogol i weld grŵp o bobl lleol yn dod at ei gilydd gan weithio’n bositif wrth geisio canfod ateb a fydd yn golygu y gall pobl barhau i fwynhau chwaraeon a gweithgareddau corfforol. Bydd y Cyngor Sir yn parhau i gydweithio a defnyddio'r cyfleusterau ar gyfer cynlluniau cyfeirio ymarfer corff a gweithgareddau eraill yno.”

Mae'r Ganolfan Hamdden ar agor a gellir cysylltu â nhw ar 01974 298960 neu ar Facebook drwy chwilio ‘Canolfan Hamdden Caron Leisure Centre’.

31/01/2018