Hoffai Bwrdd Partneriaeth Anabledd Dysgu Ceredigion wybod beth yw eich barn am y Strategaeth Anabledd Dysgu; strategaeth newydd ar gyfer pobl ag anabledd dysgu a’u teuluoedd a’u gofalwyr.

Yn dilyn y gwaith arolygu a wnaed yn gynharach eleni, mae Bwrdd Partneriaeth Anabledd Dysgu Ceredigion wedi creu Strategaeth Anabledd Dysgu sy’n ymgorffori’r adborth a dderbyniwyd gan bobl sy’n defnyddio gwasanaethau, eu teuluoedd a’u gofalwyr, a darparwyr gwasanaethau.

Hoffai’r Bwrdd ymgynghori â phobl i dderbyn eu hadborth ar y strategaeth ddrafft, a fydd yn cael ei defnyddio wrth ddatblygu a monitro gwasanaethau yn y dyfodol. Er mwyn gwneud hyn, mae’r ymgynghoriad yn agor trwy gynnal sesiynau ymgysylltu â’r cyhoedd.

Dywedodd y Cynghorydd Alun Williams, Aelod Cabinet sy’n gyfrifol am Wasanaethau Oedolion ac sy’n Eiriolwr dros bobl sydd ag Anableddau Dysgu, “Mae hwn yn gyfnod pwysig ar gyfer datblygiad Gwasanaethau Anableddau Dysgu yng Ngheredigion. Wrth i’r boblogaeth newid, mae’r math o wasanaeth y mae pobl eisiau ei dderbyn yn newid hefyd. Mae’n bwysig bod y Cyngor yn deall beth mae pobl eisiau nawr ac yn datblygu ei wasanaethau yn unol â hynny. Rwy’n gobeithio y bydd pawb yr effeithir arnynt yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn.”

Mae Bwrdd Partneriaeth Anabledd Dysgu Ceredigion yn cynnwys gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, gofalwyr a sefydliadau’r trydydd sector. Gyda’i gilydd, bydd gwahanol sefydliadau yn gallu defnyddio’r polisi hwn ar draws gwasanaethau yng Ngheredigion i ddarparu gwasanaethau cyson.

Dywedodd y Cynghorydd Catherine Hughes, Aelod Cabinet sy’n gyfrifol am Wasanaethau Plant ac sy’n Eiriolwr dros Ofalwyr, “Rydym yn cyd-nabod mai pobl ag anabledd dysgu a Gofalwyr sydd yn gwybod beth yw eu hanghenion. Mae’n holl bwysig bod eu barn yn cael eu hadlewyrchu yn y Strategaeth yma.”

Rhowch eich barn ar y Strategaeth drwy’r wefan lle gellir gweld yr holl wybodaeth, www.ceredigion.gov.uk/ymgynghoriadau, casglwch ddogfen o un o Swyddfeydd neu Lyfrgelloedd y Cyngor, ffoniwch 01545 570881 neu galwch heibio yn un o’r digwyddiadau:

• 5 Hydref 10:00-12:00, Ystafelloedd Ystwyth ac Aeron, Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron.

• 9 Hydref 10:00-12:00, Y Man a’r Lle, Coleg Ceredigion, Aberteifi.

• 10 Hydref 10:00-12:00, Ystafell Gyfarfod 1, Canolfan Rheidol, Aberystwyth.

Mae’r ymgynghoriad ar agor o 1 Hydref tan 23 Rhagfyr.

25/09/2018