Daeth Gofalwyr sy’n gofalu am aelod o’r teulu neu gyfaill, a Chynghorwyr i fore coffi a gynhaliwyd yn arbennig ar gyfer Gofalwyr a Chynghorwyr ym Mhenmorfa, Aberaeron ar 8 Hydref. Roedd y digwyddiad yn gyfle i Gynghorwyr wrando ar bryderon y rhai sy’n gofalu am rywrai sy’n annwyl iddynt a’r heriau sy’n eu hwynebu.

Trefnwyd y digwyddiad gan Uned Gofalwyr Ceredigion ac yn ystod y bore coffi cafodd y Gofalwyr y cyfle i rannu eu storïau gyda Chynghorwyr. Daeth nifer o Ofalwyr y mae ganddynt brofiad o ofalu am bobl sydd mewn cyfnodau gwahanol o glefyd Alzheimer i’r digwyddiad.

Dywedodd y Cynghorydd Alun Lloyd Jones, Cadeirydd Pwyllgor Cymunedau Iachach, “Mae gwaith ac ymroddiad ein gofalwyr, yn weithwyr cyflogedig ac yn aelodau o’r teulu, yn amhrisiadwy. Heb ofal a sylw’r bobl hyn, byddai ein Cyngor a’n Sir yn llawer tlotach, yn llai gofalgar a heb syniad am yr hyn sy’n digwydd i bobl sy’n agored i niwed yn ein cymdeithas – yn oedolion ac yn blant.”

Dywedodd y Gofalwyr eu bod yn teimlo bod rhywun wedi gwrando arnynt ac roeddent yn falch o gael y cyfle i ddweud wrth y Cynghorwyr sut roeddent yn teimlo. Maen nhw’n gobeithio y bydd eu cyfraniad o gymorth i gyfrannu at arferion y dyfodol ac i gynorthwyo Gofalwyr eraill a all fod yn wynebu anawsterau.

Parhaodd y Cynghorydd Alun Lloyd Jones, “Cefais gymaint o bleser yn cwrdd â’r grŵp ‘Gofalgar’ yn y bore coffi a gynhaliwyd yn ddiweddar, i wrando ar eu hanesion ac i weld sut y gallwn eu cynorthwyo nhw i gynorthwyo eraill. O waelod calon, gallaf ddweud ein bod yn gwerthfawrogi’r cyfan yr ydych yn ei wneud o ddydd i ddydd i wella bywydau eraill.”

Mae’r bore coffi yn rhan o gyfres o ymgynghoriadau y bydd Cynghorwyr Sir yn eu cynnal gydag aelodau o’r cyhoedd a phartneriaid iechyd a thrydydd sector. Byddant yn casglu gwybodaeth am effaith dementia yng Ngheredigion. Mae’r digwyddiadau’n anelu at addysgu, codi ymwybyddiaeth a chreu cymunedau yng Ngheredigion sy’n deall dementia. Drwy hyn, mae’r Uned Gofalwyr yn anelu at sicrhau na fydd unrhyw un yn gorfod wynebu diagnosis na gofal ar ei ben ei hun.

Dywedodd y Cynghorydd Catherine Hughes, Eiriolwr dros Ofalwyr y Cyngor, “Fel Eiriolwr dros Ofalwyr, hoffwn ddiolch i bawb a ddaeth i’r bore coffi ac am roi o’u hamser i siarad ag aelodau etholedig am eu profiadau fel Gofalwyr. Mae eu gwaith diflino dros aelodau o’r teulu a chyfeillion yn amhrisiadwy ac rydyn ni’n gwerthfawrogi eu cyfraniad yn fawr iawn. Hoffwn ddiolch, hefyd, i’r Uned Gofalwyr am drefnu’r digwyddiad ac am y gwaith y mae’n gwneud ar draws y sir i sicrhau bod cefnogaeth ar gael i Ofalwyr.”

Mae Uned Gofalwyr Ceredigion yn cynllunio digwyddiad mawr ar hyn o bryd i ddathlu Diwrnod Hawliau Gofalwyr a fydd yn cael ei gynnal ddydd Gwener, 30 Tachwedd. Bydd yno nifer o weithgareddau, cyflwyniadau a gwybodaeth am hawliau Gofalwyr a sut i fynd ati i gael y cymorth a’r gefnogaeth y mae gan Ofalwyr yr hawl iddo.

Ymunwch â ni ar 30 Tachwedd yn yr Hen Goleg, Prifysgol Aberystwyth o 10.30yb tan 3.30yh. Am ragor o wybodaeth, chwiliwch ‘Diwrnod Hawliau Gofalwyr - Carers Rights Day’ ar Facebook neu cysylltwch â’r Uned Gofalwyr ar 01970 633564.

07/11/2018