Bydd y cyflwynydd Radio a Theledu, Francine Stock, yn dewis pedair o'i hoff ffilmiau er mwyn eu trafod yn Amgueddfa Ceredigion, Aberystwyth ar 14 Gorffennaf am 7yh. Gyda chlipiau o’r detholiad o ffilmiau, a gafodd eu dangos ar hyd y degawdau yn hen Sinema'r Coliseum, bydd hi'n esbonio ei dewis, gyda gwybodaeth gefndirol am y modd y cafodd y ffilmiau eiconig hyn eu creu.

Adeiladwyd y Coliseum yn wreiddiol fel theatr ym 1904 a bu’n sinema o'r 1930au. Mae Francine wedi dewis trafod ffilmiau o'r 40au, y 50au, y 60au a’r 70au. Meddai Francine, “Roeddwn i eisiau dewis ffilmiau a oedd yn adlewyrchu cyfnod neu’n cyfleu ysbryd y cyfnod hwnnw. Wrth edrych drwy’r rhestr hir o ffilmiau a ddangoswyd yn wreiddiol yn y Coliseum yn Aberystwyth, des i o hyd i restr a oedd yn dwyn ysbryd pob degawd i gof.”

Mae Francine wedi gweithio ar amrywiaeth o raglenni teledu, gan gynnwys Newsnight, The Money Program, The Antiques Show ac yn fwy diweddar The Film Programme ar Radio Four.

Yn ogystal ag adolygu ffilmiau, mae hi hefyd yn awdures. Mae ei llyfrau yn cynnwys nofelau a hanes cymdeithasol y sinema. Bu'n gadeirydd Cyngor aelodau'r Tate ac mae'n Gymrawd Anrhydeddus yng Ngholeg yr Iesu Rhydychen, wedi iddi astudio Ieithoedd Modern yno.

Aeth Francine yn ei blaen i ddweud, “Roedd mor gyffrous i ddarganfod bod y cofnodion dyddiol a oedd yn cael eu cadw gan berchenogion y Coliseum mor fanwl. Nid yn unig fod enwau’r ffilmiau ac enwau’r dosbarthwyr wedi’u cofnodi, roedd nifer y gwylwyr a oedd yn bresennol yn ogystal â'r derbyniadau ariannol ar gyfer pob perfformiad wedi’u cofnodi. Roedd rhai ffigyrau yn annisgwyl; roedd hi’n ymddangos bod ffilmiau nad oeddwn erioed wedi clywed amdanynt yn denu cynulleidfa fawr ar y pryd.”

“Efallai y byddwch chi'n adnabod rhai o'r ffilmiau a dyma'ch cyfle chi i ddarganfod mwy am bob ffilm o ran eu creu a’u cefndir. Ar gyfer y saithdegau, dewisais y ffilm arobryn 'Butch Cassidy and the Sundance Kid' gyda Paul Newman a Robert Redford. Cafodd ei gwneud ar ddiwedd y chwedegau ond fe'i dangoswyd am y tro cyntaf yng Ngheredigion yn 1971 a thair gwaith wedyn yn ystod y ddegawd.”

Bydd Francine yn defnyddio clipiau o'r ffilmiau i esbonio gwybodaeth y bydd hi’n dymuno ei chyflwyno yn ystod ei thrafodaeth. Bydd pob un o'r pedair ffilm yn cael ei dangos yn y Coliseum yn nes ymlaen.

“Ar gyfer y chwedegau, rwyf wedi dewis y ffilm ‘The Ipcress File’ gyda Michael Caine yn serennu ynddi. Mae'n ddewis arall i ffilmiau nodweddiadol Bond, a oedd yn boblogaidd yn y cyfnod. Yn seiliedig ar nofel Len Deighton, enillodd y ffilm wobr Yr Academi Brydeinig Ffilm a Theledu ym 1965. Mae'r ddwy ffilm sy'n weddill yn llai hysbys heddiw ond roeddent yn boblogaidd iawn yn eu dydd; gyda’r pumdegau yn cael eu cynrychioli gan ‘Mogambo’ a'r pedwardegau gan ‘In Which We Serve’.”

Am ragor o fanylion ar y ffilmiau hyn, bydd yn rhaid i chi ddod i’r noson, pan fydd Francine yn datgelu pam ei bod hi’n credu fod y ffilmiau mor gynrychioliadol o'r cyfnodau yn ein hanes.

Bydd Jamie Terrill, sy’n fyfyriwr PhD ym Mhrifysgol Aberystwyth ar hyn o bryd, yn ymuno â Francine, a bydd yn trafod ei waith ymchwil a hanes y sinema yn Aberystwyth yn ystod y cyfnod dan sylw.

Dywedodd Carrie Canham, Curadur Amgueddfa Ceredigion, “Rydym wrth ein bodd yn gwahodd Francine Stock i hel atgofion am ei hoff ffilmiau a chlywed mwy gan Jamie Terrill am hanes hen Sinema'r Coliseum. Bydd hon yn noson wirioneddol ddiddorol, yn enwedig i’r rhai sydd â diddordeb angerddol mewn ffilmiau clasurol ac eiconig.”

Am ragor o wybodaeth am Amgueddfa Ceredigion a'r hyn sy’n digwydd yno, cysylltwch â’r Amgueddfa ar 01970 633088 neu edrychwch ar y wefan.

22/06/2018