Bydd Cyngor Sir Ceredigion yn dechrau Wythnos Gweithredu yn Erbyn Dementia, sydd yn digwydd rhwng 21 a 27 Mai, trwy gynnal sesiwn gwybodaeth Cyfeillgarwch Dementia ar ddydd Llun, 21 Mai am 2yp yn Y Pwerdy, Llandysul.

Ar hyn o’r bryd, mae tua 42,000 o bobl yn byw gyda dementia yng Nghymru, gyda un person yn datblygu dementia pob tri munud. Yn anffodus, nid yw trean o’r rheiny sy’n byw gyda Dementia yn teimlo’n rhan o’u cymunedau bellach. I helpu newid hyn, mae sesiynau gwybodaeth Cyfeillgarwch Dementia yn cael eu cynnal i ddarparu’r cyfle i drigolion Ceredigion i ehangu eu dealltwriaeth o ddementia, ac i weithredu eu dealltwriaeth.

Dywedodd y Cynghorydd Catherine Hughes, Aelod Cabinet a chyfrifoldeb am Wasanaethau Cymdeithasol a Thai, ac Eiriolwr Ffrind Dementia, “Trwy fod yn Eiriolwr Cyfeillgar Dementia, rydw i wedi dysgu llawr ar sut y gallwn ni helpu eraill yn ein cymuned sydd efallai yn byw gyda dementia. Rwy’n annog trigolion i gymryd y cyfle yma i fynychu sesiwn gwybodaeth Cyfeillgarwch Dementia. Dyma ein cyfle ni i wneud gweithred bositif, does dim ots pa mor fawr neu fach yw’r weithred hynny. Mae pob gweithred yn cyfri at wella bywydau pobl sy’n byw gyda dementia ac yn helpu sicrhau eu bod yn teimlo’n rhan o’n cymuned.”

Mae’r sesiwn gwybodaeth Cyfeillgarwch Dementia yn canolbwyntio ar bum prif neges, sef: nid yw dementia yn rhan naturiol o’r broses heneiddio; clefydau yn yr ymennydd sy’n achosi dementia; nid mater o golli’ch cof yn unig yw dementia; mae’n bosibl i fyw yn dda gyda dementia; a mae mwy i’r person na dementia.

Os ydych am fynychu’r sesiwn gwybodaeth Cyfeillgarwch Dementia, cysylltwch â Diane Williams ar Ceredigion50@ceredigion.gov.uk, 01545 574137 neu archebwch eich lle arlein: https://www.dementiafriends.org.uk/WEBSession#.Wt3DqU2WyUl

Os oes diddordeb gyda chi mewn mynychu sesiwn Cyfeillgarwch Dementia yn eich ardal chi, medrwch gysylltu â dementiafriends@alzheimers.org.uk

09/05/2018