Bydd y ffordd y mae gwybodaeth i ymwelwyr yn Aberteifi yn cael ei gynnig yn cael ei ystyried ymhellach ar ôl penderfyniad i gau Canolfan Groeso’r dref.

Cafodd y penderfyniad ei wneud i gau'r Ganolfan Groeso mewn cyfarfod Cabinet ar 27 Tachwedd 2018. Bu hefyd penderfyniad i gael trafodaethau pellach gyda Chastell Aberteifi gyda golwg i’r Castell ddaparu gwybodaeth i ymwelwyr yn y dyfodol.

Dywedodd yr Aelod Cabinet a chyfrifoldeb dros Economi ac Adfywio, y Cynghorydd Rhodri Evans, “Mae cefnogi twristiaeth yng Ngheredigion yn flaenoriaeth i’r Cyngor. Doedd hyn ddim yn benderfyniad hawdd, a chafodd ei wneud ar ôl blynyddoedd o doriadau llym i gyllidebau’r Cyngor. Rydym yn mynd i wneud popeth y gallwn i sicrhau bod ffyrdd eraill i gynnig gwybodaeth i ymwelwyr yn Aberteifi. Mae hyn yn bwysig i gefnogi twristiaeth mewn tref lewyrchus.

Mae staff Canolfan Groeso Aberteifi wedi helpu miloedd ar filoedd o ymwelwyr, yn ogystal â busnesau twristiaeth dros y blynyddoedd. Hoffwn ddiolch iddynt am eu hymrwymiad i hyrwyddo Aberteifi a Cheredigion.”

Mae Canolfan Groeso wedi gweithredu o Theatr Mwldan ers y 1980au. Er mwyn sicrhau arbedion, ni fydd y Cyngor yn gallu cynnig yr un lefel o wybodaeth yn Aberteifi bellach. Bydd y Cyngor yn parhau i ddarparu gwasanaeth Canolfan Groeso gydol y flwyddyn yn Aberystwyth ac Aberaeron.

28/11/2018