Canfu canlyniadau’r Arolwg Cenedlaethol ar Chwaraeon Ysgol 2018 bod nifer y gweithgareddau corfforol y mae plant yng Ngheredigion yn cymryd rhan ynddynt wedi cynyddu ers 2015.

Holodd Chwaraeon Cymru dros 120,000 o ddisgyblion ledled Cymru. Mae’r canlyniadau’n dangos bod disgyblion Cyfnod Allweddol 2, 3 a 4 yng Ngheredigion yn cymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol dair gwaith yr wythnos neu fwy. Mae hyn wedi codi o 49% yn 2015 ac yn fwy na’r ffigwr cenedlaethol presennol o 48%. Mae bechgyn Ceredigion yn gwneud mwy o ymarfer corff na’r merched, ac mae disgyblion Ysgolion Cynradd yn gwneud mwy o ymarfer corff na disgyblion Ysgolion Uwchradd.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am Wasanaethau Dysgu, “Mae’n bleser clywed fod cynnydd mewn cyfranogiad chwaraeon â disgyblion Ceredigion. Mae’r ffigurau hyn yn adlewyrchu nifer cynyddol y rhaglenni y mae Cyngor Sir Ceredigion yn eu cynnal drwy Ceredigion Actif. Nod pob rhaglen yw cynyddu nifer y cyfleoedd sydd ar gael i wella sgiliau corfforol a chymhelliant a magu hyder. Rwy’n gobeithio y bydd y cynnydd mewn cyfranogiad yn parhau yn 2019.”

Yn ogystal, dangosodd y canlyniadau bod bron i ddwy ran o dair (63%) o ddisgyblion yng Ngheredigion yn aelodau o glybiau chwaraeon a bod dros draean (36%) o ddisgyblion yn gwirfoddoli yn yr ysgol neu mewn Clwb Cymunedol. Mae’r ffigurau hyn yn adlewyrchu gwaith y Rhaglen Llysgenhadon Ifanc yng Ngheredigion, lle mae gan bob ysgol Arweinwyr Ifanc sy’n cyflwyno gweithgareddau allgyrsiol.

Dywedodd Alwyn Davies, Rheolwr Pobl Ifanc Egnïol, “Mae hyn yn dyst i ansawdd y gwaith cydweithredol rhwng ysgolion, lleoliadau cyn ysgol a Chanolfannau Teulu yng Ngheredigion wrth i ni ymdrechu i wella’r cyfleoedd sydd ar gael i bobl ifanc ledled y Sir.

Mae’n argoeli’n dda. Mae’r data’n mynd i’r cyfeiriad iawn, ond mae angen i ni barhau i herio pobl ifanc sydd ddim yn cymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol mwy na 3 gwaith yr wythnos ar hyn o bryd. Mae angen i ni amrywio’r hyn sy’n cael ei gynnig er mwyn i blant sydd ddim yn hoff o chwaraeon, neu sy’n credu nad rhywbeth iddynt hwy mohono, ddod o hyd i rywbeth y byddant yn mwynhau bod yn rhan ohono.

Ar hyn o bryd, rydym yn awyddus i weithio gyda phartneriaid unigol allweddol. Mae hyn yn cynnwys partneriaid chwaraeon, yn ogystal a partneriaid iechyd, chwarae ac addysg.”

Er bod ffigurau’r Arolwg ar Chwaraeon Ysgol yn dangos llwyddiant, maent hefyd yn amlygu’r meysydd y mae angen i Ceredigion Actif a’u partneriaid barhau i ddylanwadu arnynt a chefnogi newid. Mae rhai rhwystrau yn parhau i gyfyngu ar nifer y gweithgareddau y mae pobl ifanc yn cymryd rhan ynddynt, gan gynnwys amser, cost a hwylustod cyrraedd y lleoliad. Er mwyn i fwy o bobl ifanc allu cymryd rhan mewn chwaraeon yn fwy aml, mae’n bwysig bod cyfleoedd ar gael a’u bod yn hawdd manteisio arnynt.

 

18/12/2018