Rydw i wedi bod yn gweithio o fewn Gwasanaeth Iechyd yr Amgylchedd ers 2013. Dechreuodd fy niddordeb yn y pwnc yn ystod noson yrfaoedd tra yn yr ysgol uwchradd. Es ymlaen i wneud profiad gwaith yn y pwnc. Fe wnaeth hyn gryfhau fy mrwdfrydedd tuag at y swydd.

Fel crwt, roeddwn i’n hoff iawn o fod allan yn yr awyr agored, ac wedi cael fy swyno gan fyd natur, gwyddoniaeth a daearyddiaeth. Fel yr oeddwn i’n tyfu’n hŷn, datblygodd hyn mewn i ddyhead i wneud effaith cadarnhaol i’n hamgylchedd ac i ddiogelu iechyd cyhoeddus. Hefyd, roedd y syniad o ddim gorfod bod yn y swyddfa pum diwrnod yr wythnos yn apelio’n fawr!

Graddiais mewn Iechyd Amgylcheddol ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Roedd hyn yn radd pedwar blynedd gyda blwyddyn allan o’r astudio yn gweithio i awdurdod lleol.

Gwneud effaith cadarnhaol

Mae fy ngwaith yn rhoi cyfle i mi gwrdd a chyfathrebu gydag amrywiaeth eang o bobl a busnesau o fewn cymunedau ar draws Ceredigion. Er bod y rôl yn heriol, mae’n rhoi digon o gyfleoedd i ddatrys problemau, sydd yn y pendraw yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl.

Dywedodd rhywun wrtha i un tro, bob dydd mewn bywyd pob dyn, fenyw a phlentyn, bydd Ymarferwr Iechyd Amgylcheddol wedi cael effaith ar eu bywydau; boed hynny yn safonau’r cartref y maent yn byw ynddo, diogelwch y dŵr y maent yn yfed, safon yr aer y maent yn anadlu, atal heintiau rhag lledaenu neu’n gwella eu hiechyd a’u lles. Helpu sicrhau bod yr holl ffactorau yma’n cael eu delio gyda yw’r rheswm yr wyf yn dwlu ar fy swydd cymaint.

Rhan o dîm

Un o fy hoff agweddau’r swydd yw gweithio fel rhan o dîm. O fewn y Cyngor, rwy’n rhan o’r Tîm Gwasanaethau Masnachol. Rydym yn dîm bach o 11 swyddog sy’n arbenigo mewn Hylendid Bwyd, Clefydau Heintus, Iechyd a Diogelwch ac Iechyd Anifeiliaid ar draws y sir.

I fod yn rhan o dîm, mae'n help i wybod nad oes angen wynebu heriau’r swydd ar eich pen eich hun. Rwy’n ffodus iawn i fod yn rhan o dîm ffantastig sy’n brofiadol ac ymroddedig iawn.

Dyw’r rôl yma ddim yn un unig; dw i'n gweithio’n agos gyda nifer o adrannau’r Cyngor, gan gynnwys y Gwasanaethau Cyfreithiol, Trwyddedu, Safonau Masnach, Cynllunio, Iechyd a Diogelwch Corfforaethol ac Addysg. Rydym hefyd yn gweithio’n agos gyda awdurdodau lleol a sefydliadau eraill. Mae bob dydd yn eithaf gwahanol i’w gilydd; dydych chi byth yn gwybod beth sy’n mynd i ddigwydd!

Mae fy nghefndir a hyfforddiant yn fy ngalluogi i drosglwyddo fy sgiliau i amrywiaeth eang o sefyllfaoedd amddiffyn iechyd dynol ac anifeiliaid er mwyn cynnal dyletswyddau’r Cyngor.

Hylendid Bwyd

Mae mwyafrif fy ngwaith rhagweithiol yn cynnwys cynnal arolygiadau Hylendid Bwyd mewn busnesau bwyd masnachol o fewn Ceredigion. Gall rhain amrywio o bobyddion cacennau  domestig bach i ffactorïau bwyd mawr. Yn y bôn, bydd unrhyw le ac unrhyw un sy’n cynhyrchu bwyd (heblaw am i’w teulu) yn cael arolygiad.

Rwy’n gyfrifol am ddarparu’r Sgôr Hylendid Bwyd rhwng 0 a 5 i fusnesau bwyd. Mae sgôr 0 yn golygu bod angen gwelliant brys ac mae 5 yn golygu da iawn. Rydym yn elwa o gefnogaeth deddfwriaeth gref sydd, yn ogystal a nifer o bethau eraill, yn ein galluogi ni i fynd mewn i lefydd bwyd yn ddirybudd; dyma lle ni’n gweld y gwir o sut fath o le yw e!

Mae mwyafrif busnesau bwyd Ceredigion yn sgorio’n uchel, gyda nifer fawr yn cyflawni Sgôr Hylendid Bwyd o 5. Er hynny, mae eithriadau wrth gwrs. Os oes unrhyw fusnes bwyd ddim yn dangos y sticer Sgôr Hylendid Bwyd dilys neu gywir, byddant yn cael dirwy o £200 yn y fan a’r lle sef Hysbysiad Cosb Benodedig.

Ochr yn ochr a’r arolygiadau rhagweithiol yma, rwyf hefyd yn cynnal llawer o waith adweithiol. Y gwaith adweithiol yma sy’n gwneud y swydd yn amrywiol.

Gall y gwaith yma gynnwys ymchwilio i gwynion sydd wedi’u gwneud yn erbyn busnesau bwyd, achosion o’r fasnach gig anghyfreithlon, achosion posib o wenwyn bwyd, achosion o dwyll bwyd neu ddigwyddiadau sy’n peryglu hylendid bwyd neu iechyd y cyhoedd.

Mae gan Ymarferwyr Iechyd yr Amgylchedd rym gyfreithlon i gefnogi yr hyn y maent yn penderfynu gweithredu. Mewn amgylchiadau eithafol, os bydd busnes bwyd yn cael eu canfod yn torri’r gyfraith, mae gennym ni’r grym i gau’r lle yn syth er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Mae hefyd gennym y gallu i erlyn troseddwyr. Rydym yn gallu cymryd a chadw bwyd yn amhenodol i benderfynu os yw’n ddiogel a lle mae’n angenrheidiol, i gael gwared arno. Pan fydd achos cyfreithiol yn digwydd, fy nghyfrifoldeb i yw rhoi ffeil achos cyfreithiol at ei gilydd.

Iechyd a diogelwch

Fel rhan o fy swydd, mae gen i gyfrifoldeb am orfodi deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch yng Ngheredigion. Mae mwyafrif o’r gwaith yma yn golygu ymateb i ddamweiniau yn y gweithle sydd wedi digwydd i weithwyr ac aelodau’r cyhoedd. Mae’r damweiniau yma yn gallu amrywio o asgwrn wedi ei dorri i farwolaethau.

Clefydau Heintus

Un elfen allweddol arall fy ngwaith yw cydlynu arolygiad a rheolaeth o glefydau heintus. Mae’r tîm yn derbyn gwybodaeth yn ddyddiol ar glefydau penodol a salwch sydd yn peri risg i iechyd y cyhoedd, fel E.Coli, Salmonela a Campylobacter.

Mae gennym ni ddyletswydd cyfreithiol i arolygu achosion sydd wedi’u cadarnhau neu achosion posib, a rheoli lledaeniad y clefydau yma. Yn ystod yr adeg yma o’r flwyddyn, mae salwch Norovirus yn debygol o ledaenu. Mae’r firws yn gallu lledaenu’n gyflym ac rydym yn dod o hyd iddo’n fwyaf aml o fewn cyfleusterau Addysg a Gofal. Pan ddatgelir achos o’r firws, rydym yn ymateb yn syth ynghyd â sefydliadau eraill i nodi’r ffynhonnell ac atal lledaeniad y salwch ymhellach.

Mwynhewch y Nadolig yn ddiogel

Gyda bwrlwm y Nadolig, mae’n hawdd anghofio rhai pethau ond mae’n bwysig cofio bod Hylendid Bwyd yn angenrheidiol drwy'r amser, gyda pobl yn bwyta allan, mynd i barti ac yn mwynhau’r dathliadau. Peidiwch gadael i wenwyn bwyd ddinistrio eich Nadolig, ac edrychwch ar y Sgôr Hylendid Bwyd cyn bwcio eich pryd bwyd!

Rydym yn arolygu busnesau bwyd ar dri prif faes sef Hylendid, Strwythur a Hyder mewn Rheolaeth; mae Sgôr Hylendid Bwyd 2 neu is yn golygu bod y busnes bwyd ddim yn cyrraedd un neu mwy o’r ardaloedd yma. Chwiliwch am y sticer wyrdd neu ddu. Dylai’r rhain gael eu dangos yn glir ar fynedfa’r busnes bwyd.

Gallwch hefyd weld Sgôr Hylendid Bwyd busnesau Ceredigion cyn mynd allan trwy ymweld â gwefan Asiantaeth Safonau Bwyd sef http://ratings.food.gov.uk/default/cy-GB.

 

13/12/2018