Bydd Ceredigion yn dathlu Wythnos Addysg Oedolion sef gŵyl ddysgu flynyddol fwyaf yn y DU. Mae dros 10,000 o oedolion yng Nghymru yn cymryd rhan mewn gweithgareddau i nodi’r wythnos yn flynyddol.

Eleni, bydd Partneriaeth Addysg Oedolion a Chymunedol Ceredigion, gyda chefnogaeth Sefydliad Dysgu a Gwaith yn cynnal dau ddigwyddiad Dysgwyr Oedolion rhwng 10yb i 4yp:
• 6 Mehefin - Y Man a’r Lle ar gampws Coleg Ceredigion, Aberteifi
• 20 Mehefin - Y Bandstand, Aberystwyth.

Nod yr ymgyrch hon, sy’n cael ei chynnal ym mis Mehefin, yw codi ymwybyddiaeth o werth addysg i oedolion, dathlu cyflawniadau dysgwyr a darparwyr, ac ysbrydoli mwy o bobl i ddarganfod sut y gall dysgu newid eu bywydau yn gadarnhaol. Cyflawnir hyn trwy weithio gyda llu o ddarparwyr lleol sy'n darparu sesiynau blasu am ddim i annog oedolion i ddychwelyd i ddysgu.

Dywedodd yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Dysgu a Dysgu Gydol Oes, y Cynghorydd Catrin Miles, “Gall dysgu trwy eich oes helpu hyrwyddo’ch gyrfa, datblygu hyder a ennill sgiliau newydd. Rydym yn ffodus yng Ngheredigion i gael amrywiaeth o ddarparwyr Addysg Oedolion llwyddiannus sy’n cynnig dysg ar amrywiaeth o bynciau o Ffotograffiaeth Ddigidol i Ddiwylliant Tsieineaidd, o'r Iaith Gymraeg i Weldio. Galwch heibio i’r digwyddiadau sy’n cael eu cynnal i ddathlu Wythnos Addysg Oedolion 2018. Medrwch gael cyngor, gofyn cwestiynau, neu gael sesiwn ymarferol ar bwnc y mae gennych ddiddordeb mewn darganfod mwy amdano.”

Bydd Dysgu Bro, Hyfforddiant Ceredigion, Coleg Ceredigion, Dysgu Gydol Oes a Chymraeg i Oedolion Prifysgol Aberystwyth, Addysg Oedolion Cymru, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn darparu sesiynau ymarferol hanner awr yn y ddau ddigwyddiad.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Dysgu Bro Ceredigion ar 01970 633540 neu admin@dysgubro.org.uk.

25/05/2018