I nodi dydd Gŵyl Dewi, mae Cyngor Sir Ceredigion wedi canmol aelodau o staff sydd wedi mynychu hyfforddiant Cymraeg yn y gweithle yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi creu partneriaeth gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a Gwasanaeth Dysgu Cymraeg i Oedolion Ceredigion i ddarparu cyrsiau i ddysgu Cymraeg yn y gweithle. Cydnabuwyd dros 125 o aelodau staff am eu hymroddiad i ddysgu'r iaith trwy fynychu dosbarthiadau rheolaidd.

Dywedodd un aelod o staff a oedd wedi mynychu’r cyrsiau, “Mae fy ngwasanaeth wedi elwa gan fy mod nawr yn ceisio cael sgyrsiau dros y ffôn yn Gymraeg. Gan fy mod yn ateb galwadau ffôn, os oes rhywun yn dechrau siarad â mi yn y Gymraeg, rwyf fel rheol yn eu deall nhw y tro cyntaf ac yn parhau gyda'r dasg heb amharu ar lif y sgwrs.”

Mae’r Cyngor yn hyrwyddo ac yn hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg ym mhob agwedd o’i fusnes. Mae’r Cyngor wedi atgyfnerthu ei ddatganiad Polisi Iaith Gymraeg er mwyn gosod statws i’r Gymraeg o fewn y Cyngor, ac ei gwneud yn haws i ddefnyddwyr gwasanaeth ac aelodau staff wybod bod modd iddynt ddefnyddio’r Gymraeg. Cafodd y datganiad polisi ei gymeradwyo gan Cabinet ar 28 Tachwedd.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, “Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi ymrwymo i gefnogi’r iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymraeg, gan sicrhau bod ei wasanaethau a’i weithgareddau yn hyrwyddo ac yn hybu defnydd o’r Gymraeg ledled y sir. Mae gan bob aelod o’r cyhoedd yng Ngheredigion yr hawl i ddewis ym mha iaith y mae’n nhw’n dymuno delio a’r Cyngor ac mae’n ofynnol i staff y Cyngor ymateb yn gadarnhaol i’r dewis hwn.”

Mae Datganiad Polisi Iaith Gymraeg Cyngor Sir Ceredigion i’w ddarllen ar y wefan y Cyngor: https://www.ceredigion.gov.uk/eich-cyngor/strategaethau-cynllunio-a-pholisïau/iaith-gymraeg/datganiad-polisi-iaith-gymraeg/

Parhaodd y Cynghorydd ap Gwynn trwy ddweud “Defnyddiwch eich Cymraeg wrth gysylltu gyda’r Cyngor, dros y ffôn, drwy e-bost neu wasanaeth wyneb yn wyneb.”

01/03/2018