Cynhelir cwrs ar gyfer gyrwyr hŷn sydd yn 65 blwydd oed neu yn hŷn yn Aberystwyth ar 1 a 2 Mai 2018. Cynhelir y cwrs mewn partneriaeth gan Gyngor Sir Ceredigion a Heddlu Dyfed Powys. Bydd yr un cwrs yn cael ei gynnal eto ar 4 a 5 Medi.

Bydd y cwrs undydd yn rhoi’r cyfle i bobl ddysgu o arbenigedd gweithwyr Diogelwch y Ffyrdd proffesiynol a Hyfforddwyr Gyrru Cymeradwy. Anela’r diwrnod i wella sgiliau a gwybodaeth a chyflwyno syniadau o ran sut i ymdrin â sefyllfaoedd llawn straen ac i gynllunio ar gyfer y dyfodol i gadw gyrwyr hŷn i yrru yn ddiogel am fwy o amser.

Dywedodd y Cynghorydd Catherine Hughes, yr aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Cymdeithasol, ac Eiriolwr 50+ y Cyngor, “Wrth i bobl heneiddio, mae’n aml yn syniad da i edrych eto ar yrru, ac ystyried os gall cwrs diweddaru fod yn ddefnyddiol; mae cwrs fel hyn yn gyfle gwych i wneud hynny. Mae gallu gyrru yn bwysig i nifer o bobl hŷn i allu parhau i fod yn annibynnol, mae hwn yn arbennig o wir mewn ardal wledig fel Ceredigion.”

Nid prawf yw’r cwrs. Mae’r cwrs yn cynnwys trafodaethau grŵp sy’n cael eu harwain gan gyflwynydd cyn cael y cyfle i yrru gyda Hyfforddwyr Gyrru Cymeradwy.

Does dim rhaid i bobl ddod â char i’r sesiwn gan fydd car yn cael ei ddarparu gan ddarparwyr y cwrs. Cysylltwch â Kayleigh Tonkins, Swyddog Prosiect Diogelwch y Ffyrdd gan ffonio 01545 570881 neu ebostiwch clic@ceredigion.gov.uk am fanylion pellach am y cwrs.

05/04/2018