Ar 13 Tachwedd, fe wnaeth Cyngor Sir Ceredigion estyn ei chynllun peilot casglu gwastraff yn Aberystwyth ar hyd Stryd Cambria a rhannau o Ffordd Alexandra. Bydd trigolion yn gallu rhoi eu gwastraff mewn i sachau cryf wedi’u darparu gan y Cyngor.

Mae hyn yn dilyn cynllun peilot casglu gwastraff a chyflwynwyd ar Rodfa’r Gogledd ym mis Awst 2018 ble mae trigolion nawr yn gallu rhoi eu gwastraff mewn biniau cymunedol ag olwynion. Bydd y ddau cynllun yn rhedeg ar yr un pryd. Y nod yw gwella ailgylchu, cyflwyniad gwastraff a lleihau materion sy’n deillio o wastraff yng nghanol dref Aberystwyth.

Pwysleisiodd y Cynghorydd Dafydd Edwards, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am Briffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol y pwysigrwydd o gefnogaeth trigolion at y treialu yma, “Mae rhai ardaloedd yn Aberystwyth yn dioddef o’r ymosodiad cyson o wylanod a phla eraill ar ddiwrnodau casglu biniau. Rydym yn deall bod y materion yma yn achosi straen a rhwystredigaeth am nifer o drigolion ac rydym wedi bod yn edrych ar sawl ffordd gallwn ni helpu goresgyn y broblem.”

“Mae’r Cyngor yn gwneud ei orau i helpu, ond ar ddiwedd y dydd mae hi lan i drigolion i sicrhau bod y cynllun yn gweithio. Mae rhoi’r gwastraff cywir yn y cynhwysydd cywir ar y diwrnod cywir yn atal gwylanod a phla eraill, ac yn helpu cadw’r strydoedd yn lân. Rydym yn gobeithio bydd yr holl drigolion yn gweithio gyda ni i sicrhau bod gwasanaethau gwastraff y cyngor yn cael eu defnyddio’n gywir. Rydym eisiau i’r cynlluniau yma i weithio. Dim ond os bydd y cynlluniau yma yn llwyddiannus y gallwn ni edrych mewn i ddechrau’r gwasanaethau yma mewn ardaloedd eraill.”

Os oes gennych unrhyw gwestiwn, e-bostiwch ar gwasanaethau.technegol@ceredigion.gov.uk ffoniwch ar 01545 570 881

26/11/2018