Mae Cyngor Sir Ceredigion yn annog trigolion i fod yn ymwybodol o alwadau sgâm ar ôl derbyn adroddiadau yn ddiweddar o alwadau sgâm wedi’i dderbyn gan drigolion Ceredigion o alwyr yn honni eu bod o’r ‘Cyngor lleol.’

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Edwards, aelod o’r Cabinet â chyfrifoldeb o Dechnoleg Gwybodaeth a Gwasanaethau Cwsmer, “Mae'n hanfodol bwysig i godi ymwybyddiaeth trigolion Ceredigion ac i fod yn bryderus ac yn ymwybodol o’r sgâmiau hyn. Os ydych yn derbyn galwad fel hyn, adroddwch hi ar unwaith.”

Parhaodd Cynghorydd Edwards, “Os ydych yn derbyn galwad o unrhyw un yn honni eu bod o’r Cyngor neu os oes gennych chi unrhyw amheuon o gwbl am y galwr neu’r natur yr alwad, cymerwch enw'r galwr a ffoniwch Ganolfan Cyswllt Cyngor Sir Ceredigion ar 01545 570881. Mae Cyngor Sir Ceredigion yn annog trigolion i rannu’r neges yma gyda ffrindiau neu aelodau teulu sydd yn hen neu yn fregus. Cofiwch os yw’n swnio’n rhy dda i fod yn wir, sgâm ydy fel arfer.”

Os ydych wedi cael effeithio gan sgâm, cysylltwch ag Action Fraud ar 0300 123 2040 neu ewch i www.actionfraud.police.uk.

 

04/04/2018