Ar 18 Mehefin 2018, plediodd Mr Rysul Asad o 5 Gloster Row, Aberteifi a chyn-berchennog Gulshan, Chancery Lane, Aberteifi, yn euog i 10 trosedd hylendid bwyd cyn Ynadon yng Nghanolfan Gyfiawnder Aberystwyth.

Roedd pedair trosedd yn gysylltiedig â phresenoldeb pla o lygod sylweddol yn y bwyty, a oedd dan reolaeth Mr Asad ar y pryd. Hefyd, roedd pum trosedd arall yn gysylltiedig â safonau glanhau gwael a ganfuwyd yn ystod yr ymchwiliad.

Cymerwyd camau argyfwng gan Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd Cyngor Sir Ceredigion ym mis Medi 2017 yn dilyn darganfod pla o lygod gweithredol yn yr adeilad. Canlyniad hyn oedd cau'r busnes bwyd yn syth. Darganfuwyd gweithgarwch llygod, gan gynnwys presenoldeb baw, mannau mynediad a chnoadau o fewn ardaloedd paratoi a storio bwyd yn yr adeilad. Hefyd, fe wnaeth swyddogion ddarganfod offer budr a safonau glanhau gwael iawn.

Mae gan lygod nifer o ficro-organebau peryglus ac maent yn peri risg sylweddol i iechyd pobl. Gall y rhain gynnwys Salmonellosis, Escherichia coli (E.coli), Hantavirus a chlefyd Weil. Gall presenoldeb llygod mewn safle bwyd drosglwyddo'r clefydau hyn trwy arwynebau halogedig, offer a'r bwyd ei hun, i'r fath raddau y caiff ei ystyried fel risg ar ddigwydd i iechyd.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Diogelu’r Cyhoedd, y Cynghorydd Gareth Lloyd, “Mae arolygon hylendid bwyd a Chyfraddau Hylendid Bwyd a ddangosir ar ddrysau'r rhan fwyaf o fusnesau bwyd yng Ngheredigion yn rhoi sicrwydd i'r cyhoedd sy'n byw, yn gweithio ac yn ymweld â'r sir bod y bwyd y maen nhw'n ei fwyta yn ddiogel ac wedi ei baratoi'n lanwaith. Fodd bynnag, ar adegau prin, mae'n rhaid i'r Cyngor weithredu i ddiogelu iechyd y cyhoedd ac enw da ein diwydiant lletygarwch ardderchog sy'n gweithio'n galed i gynnal safonau.”

Plediodd Mr Asad yn euog i drosedd arall o beidio â chofrestru ei fusnes bwyd newydd y mae ef bellach yn berchennog arno, sef Shatun Sharha Limited yn masnachu fel ‘Shampan the Boat Restaurant and Takeaway’, Afon Teifi, Stryd y Cei, Mwldan Isaf, Aberteifi. Methodd Mr Asad hysbysu Tîm Gwasanaethau Masnachol Cyngor Sir Ceredigion am y newid hwn yn dilyn ei ymadawiad o Gulshan ym mis Tachwedd 2017.

Ychwanegodd y Cynghorydd Lloyd, “Mae achosion fel hyn yn tanlinellu pwysigrwydd ein tîm bwyd a diogelwch a gwerth ein rhaglen arolygu. Mae'r tîm diogelwch bwyd yn gweithio'n galed gyda busnesau lleol i gwrdd â safonau hylendid bwyd cyfreithiol i sicrhau'r diogelwch hylendid gorau yn ein sir.”

Gosododd yr Ynadon gosb ariannol o £3,107 ar Mr Asad am y troseddau. Roedd hyn yn cynnwys costau'r Cyngor a gordal dioddefwr.

Llun: Nifer arwyddocaol o faw llygod a ddarganfuwyd yn Gulshan

20/06/2018