I ddathlu Wythnos Gofalwyr eleni, sy’n cael ei gynnal rhwng 11 a 17 Mehefin, bydd yr Uned Gofalwyr yn cynnal digwyddiad i ddathlu gofalwyr ddydd Gwener, 15 Mehefin yng Ngwesty Llanina, Llanarth.

Thema’r digwyddiad fydd ‘iach a mewn cyswllt’ ble bydd pobl leol, gwasanaethau a busnesau yn dod at ei gilydd i gefnogi Gofalwyr yng Ngheredigion.

Bydd amryw o sefydliadau’n dod i’r digwyddiad, fel Hafal, Fforwm Cymru Gyfan ac Arts4Wellbeing er mwyn rhannu gwybodaeth, cyngor a chanllawiau. Cynhelir nifer o weithgareddau a sgyrsiau drwy gydol y dydd, gan gynnwys gweithgareddau crefft, ymwybyddiaeth o ofalwyr, rheoli straen, a gofalu am eich lles corfforol ac emosiynol. Bydd therapïau fel tylino’r dwylo ac ysgwydd ar gael hefyd.

Mae Uned Gofalwyr Cyngor Sir Ceredigion yn falch o gyhoeddi bod AS Ben Lake yn mynychu’r digwyddiad o 1 y prynhawn, ac mi fydd ar gael i sgwrsio gyda Gofalwyr.

Bydd y Cynghorydd Catherine Hughes sef Hyrwyddwr Gofalwyr yn mynychu’r digwyddiad ac ar gael i gael sgwrs gyda Gofalwyr. Dywedodd y Cynghorydd Hughes, “Eleni, mae Wythnos Gofalwyr yn gofyn ein bod ni’n cadw Gofalwyr yn iach a mewn cyswllt. Mae Gofalwyr yn aml yn anwybyddu eu hanghenion eu hunain, yn oedi mynd i weld y doctor, neu gael hoe o ofalu, a allai eu helpu eu cadw’n iach. Felly, boed trwy waith, yn y gymuned, yr ysgol neu’r brifysgol, gartref, neu ymhlith ffrindiau, mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae wrth helpu Gofalwyr i gael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt i ofalu am eu hiechyd corfforol a meddyliol eu hunain yr Wythnos Gofalwyr hon.”

Mae digwyddiadau di-ri yn cael eu cynnal ar draws y wlad yn ystod Wythnos Gofalwyr, ac mae miloedd o bobl eisoes wedi addo eu cefnogaeth i ofalwyr ar-lein. I gael gwybod mwy am ddigwyddiadau yng Ngheredigion, ewch i www.carersweek.org. Dilynwch Wythnos Gofalwyr ar Facebook, Trydar a YouTube. 

Os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r Uned Gofalwyr ar: 01970 633564 neu carersunit@ceredigion.gov.uk.

29/05/2018