Cymeradwywyd Cyngor Sir Ceredigion am eu hymdrechion yn seiliedig ar nifer o gynlluniau ac ymyriadau a gyflwynwyd yn y Sir mewn seremoni Wobrwyo.

Wedi'i enwebu gan Warm Wales, cafodd y Cyngor ei ganmol am Wobr Effeithlonrwydd Ynni yn y digwyddiad Rhanbarthol (Cymru) a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ar ddechrau mis Chwefror. Rhoddwyd y wobr hon i'r Cyngor neu'r Corff Awdurdod Lleol am ddangos gwir ymrwymiad i hyrwyddo effeithlonrwydd ynni yn eu rhanbarth.

Mae Ceredigion wedi gweld nifer o gynlluniau yn cael eu cyflwyno a ganmolwyd.

Cyflwynwyd ceisiadau i Lywodraeth Cymru ar gyfer cynlluniau Cartrefi Cynnes Arbed a phenderfynwyd ar feysydd yn seiliedig ar yr angen. Llandysul, Llanarth ac Aberteifi oedd yr ardaloedd a oedd yn llwyddiannus ar gyfer y cynllun. Roedd y gwaith yn cynnwys gosod inswleiddio wal allanol a mân fesurau eraill, megis inswleiddio'r llofft ac uwchraddio systemau gwresogi o fewn 212 o eiddo.

O fewn y cynllun Arbed Cartrefi Cynnes, cyflogwyd Canolfannau Cyngor ar Bopeth i ddarparu cyngor ar ynni a chodi ymwybyddiaeth o fesurau effeithlonrwydd ynni yn y cartref i leihau allyriadau carbon ac yn eu tro, cynhesu byd-eang. Roeddent hefyd yn cefnogi tenantiaid â chyngor ac ymyriadau a fyddai'n cynyddu incwm y cartref a lleihau gwariant, er mwyn sicrhau bod cynhesrwydd yn fwy fforddiadwy ac yn helpu i wella iechyd a lles y preswylwyr a'u teuluoedd, a thrwy hynny atal a lleddfu tlodi tanwydd.

Roedd 3 cynllun Gweithredu Ynni Cenedlaethol llwyddiannus. Roedd y rhain yn cynnwys gosod 16 biomas a phaneli solar yn Nhregaron a'r ardal; 40 gosodiadau atal drafft mewn eiddo yn ardal y Borth; a 100 clawr sedd cynnes ar gyfer trigolion sy’n agored i niwed sy'n targedu ceisiadau Cyfleusterau i'r Anabl.

Roedd Ceredigion gyda'r Cyngor cyntaf i lansio cynllun Hyblygrwydd ECO yng Nghymru gan ymgymryd ag ymarfer caffael i gynhyrchu fframwaith i gwmnïau gyflwyno'r gwaith. Gwnaeth OFGEM sylweddoli bod Cynghorau yn gallu adnabod tlodi tanwydd yn eu hardaloedd yn well. Cyflwynwyd Hyblygrwydd ECO lle gall Cynghorau ymlacio meini prawf ECO a sefydlu eu meini prawf eu hunain gyda aelwydydd bregus a tlodi tanwydd yn eu hardaloedd yn elwa. Roedd y cynllun yn cynnwys dosbarthu llythyrau i gartrefi sy'n byw mewn eiddo aneffeithlon o ynni gyda Thystysgrif Perfformiad Ynni gyda Band E, F neu G. Cafwyd llawer o ddiddordeb ac mae llawer o gartrefi yn elwa o systemau gwresogi / uwchraddio ac inswleiddio'r llofft. Ystyriwyd bod y cynllun yn llwyddiannus iawn yng Ngheredigion ac mae Cynghorau eraill wedi bod mewn cysylltiad i rannu arfer gorau, meini prawf a Fframwaith.

Dywedodd y Cynghorydd Rhodri Evans, Aelod o'r Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Ffordd o Fyw, “Mae derbyn y ganmoliaeth hon am y gwaith caled sydd wedi'i roi mewn i gynlluniau i hyrwyddo effeithlonrwydd ynni yng Ngheredigion mewn digwyddiad rhanbarthol yn wych ac yn dangos gwaith caled ein staff. Hoffwn ddiolch i'r staff am eu gwaith gan sicrhau bod y cynlluniau hyn yn cael eu darparu yng nghefn gwlad Gorllewin Cymru i gynnig ffordd o fyw iach a hapus i'n trigolion.”

Ystyriodd y Beirniaid natur, graddfa a chwmpas y gwaith a wnaed, yn seiliedig ar ffactorau gan gynnwys yr effaith a gafodd y gwaith ar y gymuned leol; boddhad cwsmeriaid a chymuned leol; lefel yr arbenigedd sydd o fewn y tîm; a'r flaenoriaeth y mae'r Cyngor yn ei roi i fynd i'r afael â thlodi tanwydd o fewn ei gynlluniau.

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae'r Cyngor hefyd wedi lansio'r Syndiciad Olew ar gyfer holl feysydd y Sir yn ogystal â chyflwyno amrywiol gynlluniau a chyngor effeithlonrwydd ynni eraill.

Gellir gweld mwy o wybodaeth am gynlluniau eco ar y wefan: http://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/tai/gwybodaeth-a-chymorth-ariannol/cyllid-hyblygrwydd-eco/

Llun: (Chwith i dde) Alwen Edwards, Swyddog Iechyd yr Amgylchedd ac Arweinydd Tîm, Cyngor Sir Ceredigion; Nick Pritchard, City Energy Network Ltd, a oedd yn noddi'r wobr; a'r Cynghorydd Rhodri Evans, Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am Wasanaethau Ffordd o Fyw.

27/02/2018