Mae Amgueddfa Ceredigion yn cynnal arddangosfa’r RNLI ‘Gobaith yn y Rhyfel Mawr’, sy’n anrhydeddu dewrder a phenderfyniad y rhai fu’n achub bywydau ar y môr, fel rhan o ddigwyddiadau coffau canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’r arddangosfa ryngweithiol, sy’n addas ar gyfer y teulu cyfan, yn canolbwyntio ar chwe stori achub ddewr oddi ar arfordir y Deyrnas Unedig ac Iwerddon. Mae hefyd yn edrych ar hanes difyr gorsafoedd Bad Achub Y Borth, Aberystwyth, Cei Newydd ac Aberteifi.

Meddai Alice Briggs, Curadur Cynorthwyol Amgueddfa Ceredigion, “Mae llawer o bobl yn meddwl am y Rhyfel Byd Cyntaf fel rhywbeth a ddigwyddodd ar y cyfandir, ond cafwyd colledion trwm ar hyd arfordir y Deyrnas Unedig, gan gynnwys llongau masnach a llongau teithio. Mae ‘Gobaith yn y Rhyfel Mawr’ yn arddangosfa deimladwy i gofio’r holl bobl hynny a beryglodd ac a gollodd eu bywydau ar y môr fel rhan o’r rhyfel.”

“Tra bod ‘Gobaith yn y Rhyfel Mawr’ yn cael ei arddangos, rydym wedi manteisio ar y cyfle i roi sylw hefyd i waith gwych a hanes cyfoethog yr RNLI yng Ngheredigion. Mae Roger Couch o orsaf Bad Achub Cei Newydd a David Jenkins o orsaf Aberystwyth wedi bod yn hynod o hael yn rhannu’u gwybodaeth. Yn wir, mae cymaint o straeon diddorol, bydd angen inni gynnal arddangosfa arall yn y dyfodol sy’n canolbwyntio ar Geredigion yn unig!”

Un o’r straeon y daeth Alice ar eu traws oedd hanes Audrey Lawson Johnson, a oroesodd pan suddodd y Lusitania yn 1915, a hithau’n faban bach. Cafodd y llong deithio ei bwrw gan dorpido o long tanfor yr Almaen a suddodd mewn deunaw munud. Collodd 1198 o bobl eu bywydau, gan gynnwys dwy chwaer Audrey. Ynghyd â’r Titanic, dyma un o’r trychinebau morol mwyaf mewn hanes. Treuliodd Audrey ei bywyd fel oedolyn yn codi arian ar gyfer yr RNLI, a thalodd ei gwaith am y bad achub yng Nghei Newydd, a enwyd yn Amy Lea ar ôl mam Audrey, a oroesodd y trychineb hefyd.

Bydd yr arddangosfa hefyd yn cynnwys gwrthrychau o gasgliad Amgueddfa Ceredigion, gan gynnwys paentiadau o’r bad achub John & Naomi Bettie, sef hen fath o fad achub tynnu a hwylio, a gadwyd yng ngorsaf Aberystwyth rhwng 1906 a 1933. Bydd yr arddangosfa’n dod i ben ar 30 Mehefin.

23/05/2018