Mae dau fath o fin newydd wedi eu gosod yn agos i rai o prif draethau Ceredigion i helpu cadw arfordir y sir yn lân.

Mae’r biniau mawr yn cael eu sefydlu yn agos i lefydd mynediad allweddol ar draethau yn y Borth, Clarach, Aberystwyth, Aberaeron, Cei Newydd, Llangrannog a Tresaith. Byddant yn ffurfio beth fydd yn cael eu galw’n fannau casglu gwastraff traeth ac yn darparu lle ychwanegol dros dro pan fydd ei angen fwyaf.

Dywedodd y Cynghorydd Ray Quant MBE, Aelod Cabinet a chyfrifoldeb am Wasanaethau Technegol, “Rydym yn gweld cynnydd mewn ymwybyddiaeth o'r effaith niweidiol y mae pobl yn ei gael ar yr amgylchedd morol. Yn deillio o hyn, mae mwy a mwy o bobl eisiau mynd i'r afael â'r sefyllfa trwy gymryd rhan mewn gweithgareddau fel sesiwn codi sbwriel o'r traeth. Mae darparu'r biniau yma yn ffordd o gefnogi hyn, os yw pobl yn codi sbwriel unwaith neu ar sail mwy rheolaidd ar eu pen eu hunan neu fel grwp.”

Mae’r biniau ddolffiniaid wedi eu dylunio gyda'r nod o annog pobl i gymryd cyfrifolodeb o ddelio gyda'u gwastraff.

Bwriad lleoliad y biniau yw lleihau'r effaith niweidiol weledol y gall leoli nifer fawr o finiau parhaol mewn lleoliadau prydferth yn ogystal â chael eu cam-drin a denu tipio anghyfreithlon.

Mae darpariaeth y biniau newydd yn ran o Caru Ceredigion, gyda’r rheini sy'n ymweld, yn byw ac yn mwynhau popeth sy'n wych am Geredigion, yn gallu chwarae eu rhan i gadw'r lle yn lân. Mae'r Cyngor yn gweithio'n agos gyda rhanddeiliad allweddol fel Cadwch Gymru'n Daclus a grwpiau gwirfoddol yn cynnwys Aberystwyth Beach Buddies a Surfers Against Sewage sydd â diddordeb cytûn mewn amddiffyn a chynnal amgylchedd lleol Ceredigion.

Mae Alan Cookson o Aberystwyth Beach Buddies yn rhan rheolaidd o weithgareddau codi sbwriel fel trefnydd a chyfranogydd. Mae Alan yn awyddus i godi ymwybyddiaeth o beth y gall pobl wneud er mwyn diogelu'r amgylchedd morol. Dywedodd, “Mae hyn yn fenter arbenning i Gyngor Sir Ceredigion ac yn dangos, nid yn unig eu cydnabyddiaeth o'r cynnydd helaeth o bobl sy’n gweithredu i amdiffyn ein hamgylchedd morol lleol, ond hefyd eu hymroddiad nhw i wneud hyn.

Mae llygredd plastig morol yn broblem byd eang a gyda phob llanw yng Ngheredigion, mae’n dod a mwy o plastig morol i'n arfordir. Ers i Blue Planet 2 gael ei ddangos ar BBC ar ddechrau 2018, mae'r DU a'u trigolion wedi ymateb mewn nifer o ffyrdd i leihau eu defnydd o blastig, yn enwedig yn ein sir ni.

Mae Cyngor Sir Ceredigion eisoes yn cefnogi a threfnu digwyddiadau mawr i godi sbwriel ar draethau gyda offer codi sbwriel eu hun, gan ddarparu’r offer i grwpiau cymunedol i ymgymryd a digwyddiadau eu hunan. Maent yn cyfeirio gwasanaethau i fynd a'r hyn y mae’r cyhoedd yn casglu yn ystod digwyddiau fel y rheini sy'n cael eu rhedeg gan grwpiau cadwraeth morol.

Yn eu hamser eu hunan, yn ddigymell ac yn annibynnol mae pobl wedi cymryd rhan mewn digwyddiadau bach i godi sbwriel ar hyd ein arfordir. Mae'r biniau newydd yn hwyluso ac yn cefnogi’r gweithrediadau yma a bydd y negeseuon a'r delweddau ar y biniau yn annog pobl eraill i fod yn rhan o'r symudiad yma sy'n tyfu'n gyflym, yn lleol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang.

Rydym yn canmol Cyngor Sir Ceredigion am fod ar y blaen yn annog a cefnogi’r gweithrediadau yma. Mae pob darn o blastig morol sy'n cael ei gasglu yn bwysig a mae pob gweithred yn cyfri.”

Bydd defnydd y biniau yn cael eu monitro ac os bydd y fenter yn llwyddiannus, bydd ystyriaeth ar gyfer lleoliadau eraill.

I rheini sydd eisiau cael gwybod mwy am y gefnogaeth sydd ar gael, gallwch gysylltu â Gwasanaethau Technegol trwy e-bostiwchgwasanaethau.technegol@ceredigion.gov.uk neu 01545 572572.

11/05/2018