Mae goleuadau Amgueddfa Ceredigion wedi’u hailwampio’n llwyr, diolch i grantiau ariannol o £116,558 oddi wrth Adain Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Llywodraeth Cymru a’r Gronfa Datblygu Cymunedau Gwledig.

Meddai Curadur yr Amgueddfa, Carrie Canham, “Mae’r goleuadau wedi bod yn broblem i ni ers peth amser; roedd y system mor hen fel na allem gael bylbiau newydd ar gyfer rhai o’r goleuadau. Hefyd, rydym wrth ein boddau’n cynnal perfformiadau theatraidd a cherddorol yn yr amgueddfa, ond doedd dim modd creu awyrgylch gyda goleuadau stribed a goleuadau godre’n unig. Erbyn hyn mae gennym oleuadau llwyfan a goleuadau arddangos gwych ac mae hynny wedi trawsnewid y profiad cyfan ar gyfer ein cynulleidfaoedd.

Mae’r holl system oleuo newydd yn un LED, sydd nid yn unig yn edrych yn well o lawer, ond sydd hefyd yn fwy addas ar gyfer arddangos ein heitemau mwy cain. Mae hefyd yn golygu ein bod yn arbed arian ar ein bil goleuo.”

Cafodd y goleuadau eu cynllunio a’u gosod gan DBNAudile, sy’n arbenigo ym maes goleuo amgueddfeydd. Llwyddodd y tîm i osod y system gan amharu cyn lleied â phosib ar yr ymwelwyr.

23/05/2018