Mae Amgueddfa Ceredigion am gael eich lluniau o wyliau glan môr i fod yn rhan o arddangosfa newydd sy’n dathlu perthynas y genedl â glan môr.

Ydych chi’n hoffi mynd i lan môr? Ydych chi’n hoffi cerdded y prom, syrffio’r tonnau, mynd ar gefn asyn, bwyta hufen iâ, a cheisio cael cadair gynfas i aros ar ei thraed? Ydych chi erioed wedi ennill cystadleuaeth harddwch neu gystadleuaeth pen-gliniau ceinciog yn ystod gwyliau glan môr?

Gyda gwyliau’r haf ar y trothwy, bydd Amgueddfa Ceredigion yn croesawu ymwelwyr trwy’i drysau i arddangosfa Blwyddyn y Môr 2018 sy’n dathlu hanes treftadaeth glan môr y sir, gyda gwrthrychau a ddewiswyd o gasgliad yr amgueddfa.

Cyn dyddiau’r pecynnau gwyliau tramor fforddiadwy, roedd yr addewid o haul a thywod yn golygu trip i lan môr. Mae’r Amgueddfa’n gobeithio y bydd yr arddangosfa’n dwyn atgofion ac yn gwneud i ymwelwyr hiraethu am eu profiadau nhw o wyliau glan môr ers talwm.

Dywed Andrea DeRome, Swyddog Mynediad i Gasgliadau Amgueddfa Ceredigion, “Rydym am gael eich lluniau chi o’ch tripiau glan môr a fydd yn rhan annatod o’r arddangosfa. Edrychwn ymlaen at glywed oddi wrthych.”

Os ydych chi am gymryd rhan, cysylltwch ag Andrea DeRome, andread@ceredigion.gov.uk, neu ffoniwch yr amgueddfa ar 01970 633088.

Mae Gwneud Sblash yn agor ar ddydd Sadwrn, 14 Gorffennaf ac yn parhau hyd ddydd Sadwrn, 13 Hydref.

22/05/2018