Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Urddas Mislif yn Ysgolion Ceredigion ac Addysg yn y Cartref

Mae gan bob ysgol uwchradd ac uned cyfeirio disgyblion gynnyrch mislif am ddim, ac mae cyflenwadau hefyd ar gael i ddisgyblion mewn ysgolion cynradd.

Mae Cyngor Ieuenctid Ceredigion o’r farn ei bod yn bwysig bod pobl ifanc yn gallu gwneud penderfyniad ar sail gwybodaeth ynghylch yr hyn sydd fwyaf addas ar gyfer eu cyrff o ran eu mislif. Mae gan bob Ysgol Uwchradd uned cynnyrch mislif ‘bach o bopeth’ sy’n rhoi’r cyfle i ddisgyblion roi cynnig ar amrywiaeth o gynhyrchion am ddim, gan ganiatáu iddynt ddewis y cynhyrchion sy’n gweithio orau iddyn nhw. Mae llawer o'r opsiynau yn ecogyfeillgar, heb blastig neu'n ailddefnyddiadwy. Cymrwch fag a dewiswch eich cynnyrch!

A stand offering different period dignity products

Fel rhan o Gynllun Urddas Mislif Ceredigion, mae pob Ysgol Uwchradd yn derbyn cyflenwad o ddillad sbâr er mwyn hyrwyddo urddas mislif. Mae hyn yn cynnwys dillad isaf, teits, trowsus ysgol a sgertiau.

Poster Darpariaeth Dillad Sbar Ysgolion Uwchradd

Trefnir ‘Hyfforddiant y glasoed ac urddas mislif’ yn flynyddol ar gyfer gweithwyr proffesiynol, gan gynnwys cydweithwyr mewn ysgolion, yn rhoi cyfle i unigolion sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc ddysgu mwy am fislif ac iechyd mislif.

Dyddiadau Hyfforddiant Proffesiynol 2024-2025

Mae Cynllun Urddas Mislif Ceredigion yn comisiynu gweithdai addysgol arbenigol ar gyfer holl Ysgolion Uwchradd Ceredigion, er mwyn i ddisgyblion ddysgu mwy am fislif ac iechyd mislif. Mae'r gweithdai hyn yn ychwanegol at, ac yn ategu’r ddarpariaeth graidd a gynigir gan y Tîm Nyrsio mewn Ysgolion, sy'n cyflwyno Rhaglen Plant Iach Cymru ar draws holl Ysgolion Cynradd Ceredigion.

Mae Is-grŵp Urddas Mislif Cyngor Ieuenctid Ceredigion wedi creu adnodd defnyddiol i gefnogi ysgolion i fod yn ‘gadarnhaol ynghylch y mislif'.

Canllaw Ysgolion sy'n Falch o'r Mislif

Mae Cardiau Gwybodaeth am Gynhyrchion Mislif ar gael i helpu i egluro’r dewis o gynhyrchion sydd ar gael drwy Gynllun Urddas Mislif Ceredigion.

Cardiau Gwybodaeth am Gynhyrchion Mislif

Gellir lawrlwytho posteri ar gyfer toiledau ysgol ac ardaloedd eraill sy’n cyfeirio disgyblion i ble y gallant gael mynediad at gynhyrchion mislif am ddim neu gefnogaeth.

Poster Cynnyrch Mislif am Ddim

Gall teuluoedd sy’n dewis addysgu yn y cartref ofyn am gynhyrchion mislif drwy'r post neu’u casglu mewn unrhyw leoliad cymunedol (Gweler y Cyfeiriadur Cymunedol a'r map i ddod o hyd i stociwr yn eich ardal chi). Mae Tîm Cynhwysiant Addysg Ceredigion yn cysylltu â’r teuluoedd sydd wedi dewis Addysg Ddewisol yn y Cartref bob tymor gan roi gwybodaeth am y mislif iddyn nhw a chynnig anfon cynhyrchion addas drwy’r post.

Ar gyfer unrhyw ymholiadau pellach, cysylltwch â perioddignity@ceredigion.gov.uk.