
Urddas Mislif i Rieni a Gofalwyr
Mae hyrwyddo urddas mislif i rieni a gofalwyr yn ymwneud â meithrin dealltwriaeth, chwalu’r stigma, a sicrhau bod pawb yn teimlo’n barod i gefnogi eu plant a phobl ifanc yn ystod eu cylchred fislifol.
Mae darparu gwybodaeth gywir i rieni a gofalwyr am y mislif yn helpu i chwalu mythau a chamsyniadau, gan eu galluogi i gefnogi’u plant a phobl ifanc yn hyderus.
Mae Cynllun Urddas Mislif Ceredigion wedi comisiynu Brook Cymru i gynhyrchu gweminar dwyieithog wedi’i recordio ymlaen llaw ac sydd wedi’i deilwra’n benodol, i helpu rhieni a gofalwyr ddysgu sut i gefnogi eu plant a phobl ifanc o ran y mislif. Gellir gwylio a dilyn y weminar drwy ddilyn y ddolen isod pan fo’n gyfleus i chi.