Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Newyddion, ymgynghoriadau, a chyfleoedd

Newyddion, ymgynghoriadau, a chyfleoedd i gymryd rhan - yn lleol, yn rhanbarthol, ac yn genedlaethol.

Byddwn yn diweddaru’r dudalen hon yn rheolaidd gyda gwybodaeth berthnasol gan bartneriaid dibynadwy, yn ogystal â chyfleoedd i ddweud eich dweud ar faterion sy’n effeithio ar bobl hŷn yng Ngheredigion ac ymhellach.

Ewch i’r dudalen yn aml i weld beth sy’n digwydd a sut gallwch chi gymryd rhan.

Comisynydd Pobl Hŷn Cymru - Cylchlythyr Gorffennaf 2025

Darllenwch gylchlythyr diweddaraf y Comisiynydd i ddysgu rhagor am ei gwaith dros y misoedd diwethaf yn helpu i greu Cymru sy’n arwain y gad o ran grymuso pobl hŷn, mynd i’r afael ag anghydraddoldeb a galluogi pawb i fyw a heneiddio’n dda.

Cylchlythyr Gorffennaf 2025 - Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru


Ydych chi'n ofalwr di-dâl? Ydych chi'n cefnogi anwylyd sy'n hŷn, yn anabl, neu'n ddifrifol wael? Mae Arolwg Cyflwr Gofalu 2025 Carers UK bellach ar agor - ac mae eich profiad yn bwysig. Bob blwyddyn, mae miloedd o ofalwyr yn rhannu eu straeon. Mae'r canfyddiadau'n dylanwadu ar bolisi'r llywodraeth, yn gwella gwasanaethau, ac yn codi ymwybyddiaeth o'r heriau y mae gofalwyr yn eu hwynebu ledled y DU.

Drwy gymryd rhan, rydych chi'n helpu i beintio darlun go iawn o sut beth yw gofalu - a beth sydd angen newid.

Mae Carers Wales eisiau clywed am eich profiadau fel gofalwr di-dâl.

Cwblhewch yr arolwg yma:

https://www.surveymonkey.com/r/QN6SGZW


Cyfle I ddweud eich dweud am Gynllun Dychwelyd Ernes i Gymru

Mae Llywodraeth Cymru eisiau clywed eich barn am gyflwyno Cynllun Dychwelyd Ernes (CDdE) ar gyfer cynwysyddion diod yng Nghymru. Byddai hyn yn golygu talu ernes fechan wrth brynu diod, a'i chael yn ôl pan fyddwch yn dychwelyd y potel neu’r can gwag. Bydd eich adborth yn helpu i lunio system sy’n hyrwyddo ailddefnyddio, yn lleihau gwastraff ac yn cefnogi dyfodol mwy cynaliadwy.

Ar agor tan 10 Tachwedd 2025.

Mae dogfennau’r ymgynghoriad a manylion ar sut i ymateb ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru: Cyflwyno Cynllun Ddychwelyd Ernes ar gyfer cynwysyddion diodydd yng Nghymru | LLYW.CYMRU


Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru: Cynigion ynghylch Rheoliadau ar gyfer taliadau uniongyrchol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio eich barn ar gynigion ynghylch Rheoliadau ar gyfer taliadau uniongyrchol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae Rhan Un yr ymgynghoriad yn ceisio barn ar ddiwygiadau arfaethedig i Reoliadau’r Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau a Gyfarwyddir) (Cymru) 2009 a fydd yn dirprwyo swyddogaethau i Fyrddau Iechyd Lleol i wneud taliadau uniongyrchol ar ran Gweinidogion Cymru.

Mae Rhan Dau yr ymgynghoriad yn gwneud y canlynol:

  1. Ceisio barn ar gynnwys arfaethedig y Rheoliadau ar gyfer taliadau uniongyrchol ym maes gofal iechyd.
  2. Ceisio barn ar sut y gall canllawiau ategu ac ychwanegu at Reoliadau ar gyfer y rhai a fydd yn rhoi taliadau uniongyrchol am ofal iechyd ar waith neu ar gyfer y rhai a fydd yn eu cael.

Mae Rhan Tri yr ymgynghoriad yn ceisio barn ar ddiwygiadau arfaethedig i’r Rheoliadau (a’r cod ymarfer perthnasol, yn ôl yr angen) sy’n llywodraethu taliadau uniongyrchol ym maes gofal cymdeithasol o ran galluogi trydydd parti a enwebir i weinyddu’r taliadau ar ran derbynnydd.

Bydd yr ymgynghoriad yn agor ddydd Mercher 16 Gorffennaf 2025 ac yn dod i ben ddydd Mercher 8 Hydref 2025.

Mae dogfennau ymgynghori a manylion ynghylch sut i ymateb ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru yn: Rheoliadau arfaethedig ar gyfer taliadau uniongyrchol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol | LLYW.CYMRU

Byddem yn ddiolchgar pe gallech rannu’r ymgynghoriad â’ch cydweithwyr, sefydliadau partner a rhanddeiliaid allweddol fel y bo’n briodol.

Y Tîm Polisi Taliadau Uniongyrchol


Cynghrair Pobl Hŷn Cymru

Mae Cynghrair Pobl Hŷn Cymru'n elusen annibynnol yng Nghymru. Mae'n cael ei redeg gan bobl hŷn ar gyfer pobl hŷn.

Dyma eu Bwletin Haf 2025.


2025 Polisi Ymgysylltu a Chyfranogi

Rydym yn adolygu ein Polisi Ymgysylltu a Chyfranogi cyfredol ac rydym eisiau eich barn am yr hyn y dylid ei gynnwys yn y polisi wedi'i ddiweddaru.

Bydd pawb sy'n byw neu'n gweithio yng Ngheredigion yn defnyddio rhai o wasanaethau yn y cyngor y staff. Gallai hyn fod yn defnyddio'r ffyrdd, ysgolion, llyfrgelloedd neu gasgliadau gwastraff. Mae'n bwysig ein bod yn gofyn am eich barn pan fyddwn yn gwneud newidiadau i'r ffordd rydyn ni'n gwneud pethau.

Am ragor o wybodaeth ewch i'n tudalen 2025 Polisi Ymgysylltu a Chyfranogi.


Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Rwy’n falch o rannu fy adroddiad diweddaraf, sy’n defnyddio amrywiaeth eang o ymchwil sydd ar gael er mwyn archwilio profiadau pobl o fynd yn hŷn heb blant a’r mathau o gamau sydd eu hangen i sicrhau bod anghenion pobl hŷn yn cael eu hadlewyrchu’n well mewn polisïau, cynlluniau ac wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus.

Gallwch ddarllen yr adroddiad ar dudalen Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Ymchwil i brofiadau pobl o fynd yn hŷn heb blant.

Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith fod tyfu’n hŷn heb blant yn gallu dod â llawer o fanteision, gan gynnwys bywydau cymdeithasol cryf a chysylltiadau â ffrindiau, cymdogion a mudiadau cymunedol; cyfleoedd i greu rhwydweithiau cefnogol cyfoethog ac amrywiol a chymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol a gwirfoddoli; a sefydlogrwydd ariannol.

Fodd bynnag, gall pobl heb blant hefyd deimlo’n anweledig, ar yr ymylon a’u bod yn cael eu hanwybyddu yn ystod trafodaethau am heneiddio mewn cymdeithas sy’n canolbwyntio ar y teulu.

Mae’r adroddiad hefyd yn canfod bod llawer o bolisïau a gwasanaethau yn tybio bod rhyw fath o gymorth teuluol ar gael, sy’n gallu creu rhwystrau o ran cael gafael ar wasanaethau a chymorth.

Ar ben hynny, gall pobl sy’n mynd yn hŷn heb blant ganfod eu hunain hefyd mewn mwy o berygl o broblemau sy’n gallu effeithio ar ein gallu i heneiddio’n dda.

Mae’r adroddiad yn nodi pam mae angen gweithredu i fynd i’r afael â pholisi a deddfwriaeth, sy’n annigonol i raddau helaeth wrth ymateb i anghenion penodol pobl sy’n mynd yn hŷn heb blant, gan dynnu sylw at bwysigrwydd cael mwy o ymyriadau wedi’u targedu, gwelliannau i gymorth cymdeithasol, a dulliau arloesol o ddarparu gofal sy’n adeiladu ar arferion da sydd eisoes yn cael eu treialu a’u darparu.

Rydym yn gweld newid demograffig sylweddol o ran nifer y bobl sy’n mynd yn hŷn heb blant, rhywbeth y disgwylir iddo gynyddu’n sylweddol yn y blynyddoedd i ddod. Felly, mae’n hanfodol fod y rhai sy’n creu polisïau ac yn gwneud penderfyniadau yn ymateb yn effeithiol i’r newidiadau hyn er mwyn sicrhau ein bod ni, beth bynnag fo’n hamgylchiadau, yn gallu cael gafael ar y gwasanaethau a’r cymorth sydd eu hangen arnom wrth i ni heneiddio a chael cyfleoedd i fyw a heneiddio’n dda.

Gobeithio y bydd yr adroddiad a’i ganfyddiadau yn cefnogi eich gwaith ac yn helpu i sicrhau bod polisïau a gwasanaethau ar hyd a lled Cymru yn adlewyrchu anghenion pobl sy’n mynd yn hŷn heb blant yn well. Os hoffech chi drafod yr adroddiad yn fwy manwl, cysylltwch â’m swyddfa.

Byddaf yn cynnal digwyddiad gweminar yn ddiweddarach eleni i archwilio’r dystiolaeth yn yr adroddiad yn fanylach, i glywed gan bobl hŷn am eu profiadau eu hunain o fynd yn hŷn heb blant, ac i archwilio ffyrdd ymarferol o fynd i’r afael â’r materion a nodwyd. Bydd rhagor o fanylion am y weminar yn cael eu rhannu cyn bo hir ac rwy’n gobeithio y byddwch chi’n gallu ymuno â ni.

Drwy weithio gyda’n gilydd, gallwn greu polisïau, gwasanaethau a chymunedau sy’n gynhwysol, yn addas ar gyfer y dyfodol ac yn cydnabod anghenion pob person hŷn.