Skip to main content

Ceredigion County Council website

Cynnig Ieuenctid a Chymunedol

Mae’r Gwasanaeth Cymorth ac Atal yn cynnig dulliau dan arweiniad y teulu i alluogi plant, pobl ifanc, teuluoedd a chymunedau ehangach i gael eu grymuso, i gyflawni, i ddatblygu’n bersonol, yn emosiynol, ac yn gymdeithasol a bod y gorau y gallant fod. Cefnogi pobl ifanc rhwng 11-25 gyda ffocws a chefnogaeth mynediad agored.

Twitter: -  https://twitter.com/giceredigionys
Facebook: - https://www.facebook.com/GICeredigionYS;
Instagram: - https://instagram.com/giceredigionys?igshid=MzMyNGUyNmU2YQ

Gwaith ieuenctid mewn ysgolion, dilyniant addysg, dysgu achrededig, a chyfranogiad

Mae Gweithwyr Ieuenctid sydd wedi’u lleoli mewn ysgolion yn ymgysylltu â phobl ifanc 11 – 18 oed mewn cyd-destunau cyffredinol a phenodol. Mae Gweithwyr Ieuenctid yn ceisio meithrin a chynnal perthynas ystyrlon â phob disgybl ysgol gan gynnwys disgyblion a gyfeiriwyd ac a ystyrir eu bod mewn perygl o ymddieithrio o addysg brif ffrwd o achos un neu lu o resymau.

Mae Gweithwyr Ieuenctid yn creu perthynas yn seiliedig ar ymwneud gwirfoddol. Drwy gymryd rhan gydag unigolion, gall Gweithwyr Ieuenctid ddylunio cynllun wedi’i deilwra sy’n cynnig cymorth ar sail anghenion personol, cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol yr unigolyn. Gellir darparu hyn o fewn a thu allan i amgylchedd yr ysgol, a gall fod yn benodol neu’n gyffredinol.

Atal wedi'i Dargedu

Mae'r tîm atal yn gweithio gyda phobl ifanc sydd naill ai 'mewn perygl' o ddod i gysylltiad â'r system gyfiawnder oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol a/neu droseddu. Rydym yn cynnig rhaglenni, prosiectau a chymorth un i un wedi'u targedu gyda phobl ifanc sy'n ceisio darpariaeth ataliol.

Rhaglenni Gwyliau Mynediad Agored

Rydym yn cynnig rhaglenni mynediad agored yn ystod gwyliau'r ysgol. Gall y rhaglenni mynediad agored gynnwys gweithgareddau amrywiol i bobl ifanc ochr yn ochr â diwrnodau blasu i bobl ifanc sy'n anelu at fynychu addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant. Mae'r rhain yn cael eu hyrwyddo trwy ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol.

Clybiau Ieuenctid

Mae gennym Glybiau Ieuenctid yn Aberteifi, Aberaeron ac Aberystwyth sydd ar agor yn wythnosol.

  • Aberteifi – Nos Fawrth
  • Aberaeron – Nos Fercher
  • Aberystwyth – Nos Iau

Cefnogaeth Ôl-16

Mae gennym Dîm Allgymorth/Ôl-16 dynodedig sy'n darparu cefnogaeth ac arweiniad i bobl ifanc 16-25 oed i ail-ymgysylltu ag addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant! Mae'r Tîm Ôl-16 yn darparu cefnogaeth un i un ac mae hefyd yn cynnig ystod eang o raglenni a gweithgareddau wythnosol sy'n anelu at wella hyder, gwytnwch a sgiliau bywyd pobl ifanc. Mae'r Tîm Ôl-16 hefyd yn gweithio'n agos gyda Gyrfa Cymru a'r rhai sy'n gadael yr ysgol i sicrhau eu bod yn cael cyrchfan neu gefnogaeth ehangach os oes angen.

Fan symudol, allgymorth a gwaith ieuenctid dros dro

Mae ein tîm yn cynnig gwaith ar wahân lle rydym yn ymgysylltu â phobl ifanc yn eu cymunedau. Rydym hefyd yn cynnig y ddarpariaeth symudol sy'n glwb ieuenctid ar olwynion yn ei hanfod. Nod y fan symudol yw ymweld â chymunedau gwledig i ddarparu cynnig pellach i bobl ifanc gymryd rhan mewn gweithgareddau a chael mynediad at ddarpariaeth Gwaith Ieuenctid.