Mae chwarae’n un o hawliau sylfaenol plentyn, mae o’n ganolog i’w fwynhad o fywyd ac mae ei effaith yn llesol. Mae yna lawer o dystiolaeth yn dangos bod chwarae’n rhan hanfodol o ddatblygiad gwybyddol, corfforol, cymdeithasol a meddyliol plentyn.

Mae hefyd dealltwriaeth gynyddol o faint mae chwarae yn cyfrannu, nid yn unig at ansawdd bywyd y plentyn ei hun, ond hefyd at les ei deulu a’r gymuned o’i gwmpas.

Mae adran 11, ym Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 yn osod dyletswydd ar Yr Awdurdodau Lleol i asesu cyfleoedd chware i blant yn eu hardaloedd pob 3 flwyddyn. Mae disgwyliad wedyn i greu cynllun gweithredu i wellha’r meysydd le mae’r asesiad wedi dod o hyd i ddiffygion.

Mae ymgynghori gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd yn hanfodol er mwyn canfod eu meddyliad am gyfleoedd chwarae a hamdden yng Ngheredigion ac mae hyn yn rhan bwysig o’r broses asesu. Rydym yn croesawu sylwadau pellach trwy’r wefan yma neu dudalen Facebook y Cyngor (Dolen i wefan allanol a Saesneg yn unig).

Chwarae Geirfa Termau: Glossary of playwork terms (Dolen i wefan allanol a Saesneg yn unig)