Derbyn y Cymorth Cywir ar yr Amser Cywir
Bydd Gwasanaethau Cymdeithasol yn cynorthwyo pobl yng Ngheredigion fydd o bosib angen gwybodaeth, cyngor, cefnogaeth, gofal neu eu hamddiffyn er mwyn eu galluogi i fyw yn ddiogel yn y gymuned.
Bydd hyn yn cynnwys pobl â salwch neu anabledd, anableddau dysgu, pobl hŷn, pobl â phroblemau iechyd meddwl neu broblemau cam-drin sylweddau, plant a theuluoedd a’r rheiny sy’n darparu gofal anffurfiol i eraill (gofalwyr).
Gwybodaeth a chyngor
Mae angen i ni sicrhau bod y bobl sydd angen cymorth yn derbyn y cymorth priodol, fodd bynnag, mae’n bosib na fyddwn yn medru gweithio gyda phawb sy’n dymuno i ni weithio gyda nhw. Yn aml, mae gwasanaethau, sefydliadau neu adnoddau cymunedol eraill fydd yn medru eich cynorthwyo gyda’ch anghenion yn well ac mi allwn eich cynghori ynghylch pa rai fyddai orau ar gyfer eich amgylchiadau.
Bwriedir i’r wybodaeth a’r cyngor a ddarparwn ar ein gwefan, yn ein taflenni ac wrth siarad â ni, eich annog i wneud eich penderfyniadau eich hun. Gall hyn eich helpu i aros mor annibynnol â phosibl fel y gallwch barhau i fyw yn eich cartref eich hun, rheoli heriau magu plant neu gymryd rhan yn y gymuned. Rydym am eich helpu i gael y cymorth rydych chi ei eisiau, pan fyddwch chi ei eisiau.
Cymorth a chefnogaeth
Mae angen inni sicrhau ein bod yn cynorthwyo rheiny sydd â’r angen fwyaf, felly mae’n rhaid i ni ddefnyddio ‘meini prawf cymhwysedd’ ar gyfer achosion daw ger ein bron. Llywodraeth Cymru sy’n gosod y meini prawf cymhwysedd.
Er mwyn penderfynu a ydych chi’n cyflawni’r meini prawf cymhwysedd bydd angen i ni gynnal asesiad o’r angen. Bydd y math o asesiad a wneir yn ddibynnu ar bwy sydd angen y gefnogaeth, sef oedolyn neu blentyn a’i deulu. Fodd bynnag bydd y ddau asesiad yn edrych ar yr anawsterau a wynebir gennych chi neu eich teulu (hynny yw y rheswm paham rydych chi neu rywun arall wedi gofyn am gymorth), pa gefnogaeth sydd gennych mewn lle ar hyn o bryd, beth allwch chi ei wneud i chi eich hunain neu eich plentyn (hynny yw eich cryfderau ar hyn o bryd), yr hyn sy’n bwysig i chi (hynny yw i aros yn y cartref) a pha gymorth sydd ei angen naill ai drwy Wasanaethau Cymdeithasol neu’r gymuned yn ehangach.
Os hoffech fwy o wybodaeth am yr asesiad cliciwch yma:
Os nad ydych chi’n gymwys ar gyfer cefnogaeth oddi wrth y Gwasanaethau Cymdeithasol mae’n bosib y gallwn eich cyfeirio at asiantaethau / sefydliadu eraill a all eich cynorthwyo.
Mae gan un o'n gwasanaethau a gomisiynwyd, PLANED, gyfeiriadur o fusnesau bach sy'n cynnig gwasanaethau gofal a chymorth yng Ngheredigion, a allai fod yn ddefnyddiol i chi. Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan PLANED.
Bydd y Gwasanaethau Cymdeithasol hefyd yn medru darparu nifer o wasanaethau arbenigol os oes gennych:
- Anabledd Dysgu
- Anawsterau Iechyd Meddwl
- Materion yn ymwneud â Cham-drin sylweddau
- Nam ar y clyw
- Nam ar y golwg