Gall darganfod a oes gennych hawl i unrhyw fudd-daliadau neu gael cymorth i reoli eich arian fod yn ddefnyddiol iawn pan fyddwch yn gofalu am rywun.

Mae yna sefydliadau a all eich helpu i wneud cais am yr hyn y mae gennych hawl iddo ac mae llawer o wefannau sy’n darparu gwybodaeth.

Rydyn wedi rhestru manylion y prif fudd-daliadau i ofalwyr, dolenni at wefannau, a manylion cyswllt ar gyfer rhai o’r sefydliadau a all eich helpu i gael gwybod mwy.

Lwfans Gofalwyr

Budd-dal i ofalwyr di-dâl yw Lwfans Gofalwyr sy’n dod o’r Adran Gwaith a Phensiynau.

Fe’i telir ar gyfradd o £81.90 yr wythnos (2024/2025)

A allaf hawlio Lwfans Gofalwyr?

Mae’n bosibl y gallwch gael Lwfans Gofalwyr os ydych yn bodloni’r holl amodau canlynol:

  • Rydych yn gofalu am rywun am o leiaf 35 awr yr wythnos
  • Nid ydych yn ennill mwy na £151 yr wythnos (ar ôl didyniadau penodol)
  • Mae’r person rydych yn gofalu amdano yn cael budd-dal anabledd cymwys
  • Rydych chi dros 16 oed
  • Nid ydych mewn addysg amser llawn
  • Rydych chi’n bodloni amodau preswylio a phresenoldeb y DU

I gael gwybod mwy am y gofynion cymhwysedd ewch i wefan gov.uk

Sut ydw i’n gwneud cais am Lwfans Gofalwyr?

Gallwch wneud cais ar-lein ar gov.uk

Neu

Os na allwch wneud cais ar-lein gallwch ffonio’r Uned Lwfans Gofalwyr i ofyn am ffurflen ar 0800 731 0297

Credyd Gofalwyr

Mae’n bosibl y gallwch gael Credyd Gofalwr os ydych yn gofalu am rywun am o leiaf 20 awr yr wythnos.

Credyd Yswiriant Gwladol (Saesneg yn unig) yw Credyd Gofalwr a all helpu i lenwi bylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol tra byddwch yn ofalwr. Mae’r swm yr ydych yn ei dderbyn o Bensiwn y Wladwriaeth yn seiliedig ar eich cofnod Yswiriant Gwladol. Gall llenwi’r bylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol tra nad ydych mewn cyflogaeth â thâl gynyddu faint o arian a gewch pan fyddwch yn cyrraedd oedran ymddeol.

I wneud cais am Gredyd Gofalwr lawrlwythwch y ffurflen gais ar wefan gov.uk, neu ffoniwch yr Uned Lwfans Gofalwyr ar 0800 731 0297.

I wirio a oes unrhyw fylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol ac i gael rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth, defnyddiwch yr offeryn gwirio rhagolwg pensiwn y wladwriaeth ar wefan gov.uk.

Cyfrifiannell Budd-Daliadau

Gallwch ddefnyddio cyfrifiannell budd-daliadau ar-lein i wirio beth y gallech fod â hawl iddo. Mae hon yn ffordd dda o ddarganfod:

  • Pa fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt
  • Amcangyfrif o faint o arian y gallech ei gael
  • Sut y bydd eich budd-daliadau yn cael eu heffeithio os byddwch yn dechrau gweithio neu’n cynyddu eich oriau
  • Sut y bydd eich budd-daliadau yn cael eu heffeithio gan newid yn eich amgylchiadau

Mae’r cyfrifianellau budd-daliadau canlynol yn cael eu hargymell gan gov.uk, maent yn annibynnol, yn ddienw ac yn rhad ac am ddim i’w defnyddio:

Cymorth Lleol

Gallwch hefyd wirio gyda’r sefydliadau canlynol i gael gwybod beth y gallech fod â hawl iddo:

Canolfan Cyngor ar Bopeth

( 01239 621974 neu 01970 612817

* ask@cabceredigion.org

Neges destun neu Whatsapp: 07782 361974 (Sylwch: mae’r rhif hwn ar gyfer tecstio yn unig - ni fydd galwadau’n cael eu hateb)

8 www.cabceredigion.org

 

Age Cymru Dyfed (Ar gyfer pobl 50+ oed)

( 0333 344 7874

* reception@agecymrudyfed.org.uk

8 www.ageuk.org.uk/cymru/dyfed

 

Castell ventures – Gwasanaeth pobl hŷn (50+)

( 0800 052 2526 neu 07971 954375

* older.persons@castellventures.wales

8 www.castellventures.wales

 

Budd-daliadau Eraill

Mae budd-daliadau eraill y gallech fod â hawl iddynt. Mae’r dolenni canlynol yn esbonio rhai o’r budd-daliadau eraill sydd ar gael:

Credyd Cynhwysol

Cymorth ariannol ar gyfer costau byw yw Credyd Cynhwysol, y gallwch ei dderbyn os oes gennych incwm isel, os ydych yn ddi-waith, neu’n methu â gweithio.

Credyd Pensiwn

Os ydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac ar incwm isel, gall Credyd Pensiwn roi arian ychwanegol i chi i’ch helpu gyda chostau byw a chostau tai fel rhent tir neu daliadau gwasanaeth.