Am £148.00 (yn cynnwys TAW) a chostau’r defnyddiau, gallwn ymweld ag eiddo masnachol i ddifa llygod, llygod mawr a phryfed. Mae’r Cyngor yn darparu gwasanaeth difa plâu ar gontractau masnachol i fusnesau lleol, gan gynnwys ffermydd, ac mae hynny’n cynnwys triniaethau rheolaidd dros gyfnod o ddeuddeg mis. Mae’r prisiau’n amrywio yn ôl maint yr eiddo, nifer y triniaethau sy’n ofynnol ac ati, ac rydym yn fodlon cynnal archwiliad a rhoi amcangyfrif o’r pris ar sail hynny. Codir tâl archwilio mewn rhai achosion.
Ni ellir rhoi sicrwydd y bydd difa llygod a llygod mawr yn effeithiol am fwy na phythefnos ar ôl rhoi’r driniaeth, gan fod llygod yn greaduriaid sy’n achub ar bob cyfle, a gallant ddychwelyd i unrhyw le os na ddefnyddir dulliau effeithiol i’w hatal neu’u rheoli.
Wrth roi pob triniaeth gwneir pob ymdrech i achosi cyn lleied o boen â phosib i’r anifeiliaid. Mae swyddogion difa plâu’r Cyngor wedi’u hyfforddi’n drylwyr ac ni fyddant ond yn defnyddio plaladdwyr a gwenwyn pryfed cymeradwy.
Bydd cwsmeriaid yn cael manylion am bob triniaeth a roddir ar eu heiddo. Gwneir pob ymdrech i ymateb i unrhyw gais am driniaeth ymhen 3 diwrnod gwaith. Ni fydd wardeiniaid y Cyngor yn gweithio ar y penwythnos nac ar wyliau cyhoeddus fel arfer. Os bydd galw mawr am y gwasanaeth, efallai na fydd modd ymweld â’r eiddo ymhen 3 diwrnod ar ôl gwneud y cais. Mewn achosion felly caiff cwsmeriaid eu cynghori i gysylltu â darparwyr eraill yn lleol.
Gallwn gynnig contractau difa plâu masnachol i atal a difa amrywiaeth o blâu. Bydd swyddog yn cadw golwg ar y safle ac yn rhoi triniaeth fel y bo’r angen. Mae’n bosib addasu’r contractau yn ôl anghenion yr unigolyn, a gellir llofnodi contract am 12 mis.
Mae’r contract safonol yn cynnwys pedwar ymweliad i fynd i’r afael â llygod neu lygod mawr, a phedwar ymweliad dilynol fel y bo’r angen. Gellir trefnu mwy o ymweliadau os dymunir.
Bydd y pris yn amrywio yn ôl maint y safle a’r mathau o blâu a gaiff eu cynnwys yn y contract:
Contract difa plâu newydd / Contract difa plâu sydd eisoes yn bod
Y cam cyntaf yw cysylltu â ni i drefnu asesiad o’r safle yn rhad ac am ddim. Ffoniwch ni ar 01545 572105 (09:00 - 16:30, Dydd Llun – Dydd Iau / 09:00 – 16:00 Dydd Gwener) Byddwn yn gofyn ichi agor cyfrif gyda ni y tro cyntaf y byddwch yn cysylltu â ni.
Landlordiaid Cymdeithasol - 'Tystysgrif Dim Plâu'Mae’r Wardeiniaid
Cymunedol yn medru darparu tystysgrif ac adroddiad ar ôl archwilio fflatiau neu fflatiau un llawr i wneud yn siŵr nad oes unrhyw lygod, llygod mawr na phryfed yn yr annedd. Cynllun newydd yw hwn, a dyma’r ffioedd a’r taliadau:
- Annedd un neu dau lawr: £164.00 a £82.00 am bob llawr ychwanegol
- Tŷ Amlfeddiannaeth: £82.00 fesul aelwyd/fflat
- Fflatiau: £123.00 fesul fflat
Mae cadw pla i ffwrdd ar ôl archwiliad yn dibynnu ar amrywiaeth helaeth o wahanol ffactorau. Bydd adroddiadau’r archwilwyr yn cynnwys cyngor ar gamau y gellir eu cymryd i atal pla.
Gwasanaeth Difa Plâu’r Wardeiniaid Cymunedol
Y mathau o blâu y byddwn ni’n mynd i’r afael â hwy fynychaf yw:
Llygod mawr | Llygod | Gwenyn meirch | Chwain | Clêr heidiog | Cocrotsis | Morgrug
Pryfaid eraill – Pryfed llyfrau, Chwilod carpedi, Gwyfynod
Mae gwenyn yn rhywogaeth a warchodir. Gan amlaf bydd y Cyngor yn gwneud pob ymdrech i beidio â lladd gwenyn, a’r dull mwyaf priodol o’u rheoli yw mynd â hwy ymaith yn ddiogel i gwch gwenyn. Nid yw’r Cyngor yn darparu’r gwasanaeth hyn a bydd arnoch angen cysylltu â Chymdeithas Gwenynwyr Cymru i ddod o hyd i rywun lleol sy’n cadw gwenyn; efallai y codir tâl am y gwasanaeth hwn. Nid yw’r Cyngor fel rheol yn mynd ati i ddifa adar (gwylanod, brain, drudwy a cholomennod ac ati) gwahaddod, neu lwynogod, wiwerod a chwningod. Er nad ydym yn darparu gwasanaeth i gael gwared ag adar sy’n peri niwsans, gallwn roi cyngor ar ddulliau sydd ar gael i ddiogelu rhag adar. Mae Ystlumod yn rhywogaeth a warchodir.
I gael gwybodaeth am famaliaid gwyllt (gwahaddod, llwynogod, wiwerod a chwningod ac ati) a’r dewisiadau o ran cadw rheolaeth arnynt, ewch i www.gov.uk/guidance/wild-mammals-management-and-control-options, neu cysylltwch â Thîm Rheoli Bywyd Gwyllt Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) ar 0345 933 5577.
Rydym yn darparu gwasanaeth i ddelio â chocrotsis. Codir tâl am y gwasanaeth hwnnw ar sail archwiliad i ganfod maint y broblem.
Eiddo domestig
Y gost ar gyfer defnyddio triniaeth yn erbyn llygod neu lygod mawr mewn eiddo domestig yn 2023/24 yw £65.00 (yn cynnwys TAW). Mae’r Cyngor hefyd yn darparu gwasanaeth difa plâu ar gontract i berchnogion / preswylwyr eiddo domestig gydag unedau cynhyrchu wyau / cytiau ieir, a thyddynnod lle cedwir da byw, ac mae hynny’n cynnwys triniaethau rheolaidd dros gyfnod o ddeuddeg mis. Codir tâl galw allan o £51.00 pan nad yw’r Wardeiniaid Cymunedol yn dod o hyd i unrhyw dystiolaeth o blâu ac felly ddim yn gorfod defnyddio unrhyw driniaeth. Ni ddefnyddir gwenwyn llygod na gwenwyn pryfed os na cheir unrhyw dystiolaeth o blâu. Nodir isod yr amodau a thelerau.
Y gost ar gyfer difa pryfed mewn eiddo domestig yw £110.00 (yn cynnwys TAW). Codir £84.00 am bob ymweliad / triniaeth ar gyfer difa gwenyn meirch. Ni all y Cyngor roi sicrwydd y caiff unrhyw bla ei ddifa’n llwyr ymhob achos. Efallai na fydd triniaethau i ladd pryfed ond yn effeithiol am hyd at bedair wythnos. Mae llawer yn dibynnu ar yr hyn a wneir i reoli’r amgylchedd a’r amgylchiadau. Ni ellir rhoi sicrwydd y bydd difa llygod a llygod mawr yn effeithiol am fwy na phythefnos ar ôl rhoi’r driniaeth, gan fod llygod yn greaduriaid sy’n achub ar bob cyfle, a gallant ddychwelyd i unrhyw le os na ddefnyddir dulliau effeithiol i’w hatal neu’u rheoli.
Ffioedd a thaliadau
Ceir rhestr gyflawn o’r ffioedd a’r taliadau cyfredol ar Wefan Ffioedd a Thaliadau'r Cyngor.
Cysylltu
I gael rhagor o gyngor am y gwasanaeth sydd ar gael, cysylltwch â’r Gwasanaethau Ffordd o Fyw ar 01545 572105 (09:00 i 16:30 Llun - Iau/ 09:00 i 16:00 ar ddydd Gwener) / neu e-bostiwch: publicprotection@ceredigion.gov.uk
Amodau a thelerau
Mae’r amodau a thelerau canlynol yn berthnasol wrth archebu gwasanaeth Difa Plâu dros y ffôn, a dylech eu darllen cyn gofyn am unrhyw wasanaethau neu’u derbyn.
Ffioedd y Cyngor
- Pan fydd gofyn am driniaeth ychwanegol i ddifa pla (er enghraifft, pan fydd y swyddog yn dod o hyd i bla arall nad oedd wedi’i grybwyll yn y cais gwreiddiol), bydd yn rhaid talu am y driniaeth ychwanegol ar adeg yr ymweliad cychwynnol i’w drin
- Gall y gwasanaethau, y ffioedd a’r taliadau newid ar unrhyw adeg
- Wrth dalu byddwch yn derbyn y gwasanaeth a’r amodau a thelerau hyn
- Os byddwch chi’n darparu gwybodaeth anghywir a bod y tâl anghywir yn cael ei godi ar sail hynny, bydd yn rhaid ichi dalu unrhyw swm ychwanegol ar adeg yr ymweliad cychwynnol i drin y broblem
Apwyntiadau a mynediad at eiddo
- Os bydd angen i’r Cyngor gael mynediad at eiddo’r cwsmer er mwyn darparu’r gwasanaethau, byddwch yn sicrhau fod rhywun yn bresennol yn yr eiddo hwnnw ar adeg yr apwyntiad
- Am resymau iechyd a diogelwch, mewn rhai achosion bydd yn rhaid i’r sawl sy’n bresennol yn yr eiddo fod yn hŷn nag 16 oed
- Ni roddir yr arian yn ôl os na fedr y Cyngor gael mynediad at yr eiddo gan fod y cwsmer yn absennol ar adeg yr apwyntiad
- Os na fedr y Cyngor ddarparu’r gwasanaethau am nad ydych wedi dilyn y cyfarwyddiadau a roddwyd ymlaen llaw, ni roddir yr arian yn ôl. Bydd arnoch angen trefnu apwyntiad o’r newydd a thalu’r ffi arferol. Gostyngir y tâl i £51.00 os bydd y Warden Cymunedol yn fodlon nad oes angen rhoi triniaeth gan nad oes unrhyw blâu yn bresennol
Canslo / gohirio apwyntiad
- Os byddwch chi’n canslo apwyntiad heb drefnu un arall, ni roddir yr arian yn ôl
- Os byddwch yn gohirio apwyntiad o leiaf un diwrnod gwaith cyn yr apwyntiad hwnnw ac yn trefnu un newydd, ni fydd y Cyngor yn codi unrhyw dâl ychwanegol
- Os na fydd y Cyngor yn medru cadw apwyntiad, byddwn yn cysylltu â chi gynted ag y bo modd i gynnig apwyntiad arall. Os bydd y Cyngor yn canslo apwyntiad heb fedru cynnig un arall o fewn tri diwrnod gwaith, fe roddir y tâl yn ôl ymhen pum diwrnod gwaith
- Os na chedwir apwyntiad oherwydd rhyw ddigwyddiad y tu hwnt i reolaeth y Cyngor, ni all y Cyngor dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw anghyfleustra neu golled yn sgil hynny
Y gwasanaethau
- Mae’r Cyngor yn cadw’r hawl i beidio â darparu’r gwasanaethau yn yr eiddo
- Nid yw’r Cyngor yn derbyn unrhyw atebolrwydd am golled, difrod neu anaf i unrhyw anifeiliaid dof, adar, nwyddau neu offer oni bai fod hynny wedi digwydd oherwydd esgeulustod ar ran y Cyngor neu’i weithwyr
- Mae’n rhaid hysbysu’r Cyngor yn ysgrifenedig ynglŷn ag unrhyw golled, difrod neu anaf ymhen pum diwrnod gwaith
- Mae’r tâl am ddifa llygod yn cynnwys ail archwiliad a fydd fel arfer yn digwydd ymhen 10 diwrnod gwaith ar ôl yr ymweliad cyntaf. Os bydd angen gwneud mwy o waith fe godir y tâl arferol amdano. Ni all y cyngor roi sicrwydd y caiff unrhyw bla ei ddifa’n llwyr ymhob achos
- Ni fydd gweithwyr y Cyngor yn cael gwared â nythod gwenyn meirch ar ôl eu trin, oni bai fod cais i wneud hynny. Ar ôl trin y nyth mae’n rhaid ei gadael am o leiaf 24 awr beth bynnag. Codir tâl o £51.00 am bob ymweliad i gasglu / cael gwared â nyth. Mewn rhai achosion, ni fydd yn bosib cael gwared â nythod gwenyn meirch gan nad oes modd i’r gweithwyr eu cyrraedd
- Ni fydd gweithwyr y Cyngor ond yn cael gwared â llygod wedi marw pan mae’n ymarferol iddynt wneud hynny. Mae’r Cyngor yn cadw’r hawl i wrthod eu casglu