Skip to main content

Ceredigion County Council website

Cyfrifiad 2021

Arolwg yw’r cyfrifiad a gaiff ei gynnal unwaith bob 10 mlynedd ac mae’n cael ei gynnal gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG).

Proffiliau Ardal

Mae’r Proffiliau Ardal Leol a Phroffil Ardal Ceredigion yn darparu ciplun o ddata a gwybodaeth am wahanol ardaloedd a chymunedau o fewn ac ar draws Ceredigion. Mae’r Proffiliau Ardal wedi’i seilio ar ganlyniadau o’r Cyfrifiad yn 2021, a ymgymerwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) ar y 21ain Mawrth 2021. Mae’r Proffiliau Ardal Leol wedi’i seilio ar ddau daearyddiaeth: 

  1. Wardiau Etholiadol (daearyddiaeth gweinyddol): Mae yna 34 ward etholiadol o fewn Ceredigion. Dyma’r adrannau swyddogol a ddefnyddir ar gyfer etholiadau llywodraeth leol ac maent yn cynrychioli’r ffiniau ar gyfer gwasanaethau a llywodraethu cynghorau.
  2. Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is Ceredigion (AGEHI) (daearyddiaeth ystadegol): Mae yna 46 AGEHI o fewn Ceredigion. Mae’r AGEHI yn set o ddaearyddiaeth fach, sydd yn cynnwys rhwng 400 a 1,200 aelwyd ac fel arfer gyda phoblogaeth o rhwng 1,000 a 3,000 person. Maent yn cael ei defnyddio yn bennaf at ddibenion ystadegol. 

Hefyd, mae yna Broffil Ardal i Geredigion, sydd yn darparu ciplun o’r awdurdod lleol yn ei gyfanrwydd.

Ceredigion