Bydd y Credyd Cynhwysol yn berthnasol i bob hawliwr newydd sy’n destun prawf modd o 5 Rhagfyr 2018 ymlaen.

Mae’r Credyd Cynhwysol yn fudd-dal a delir i bobl o oed gwaith sydd ar incwm isel ac nad oes ganddynt fawr ddim / dim cynilion. Caiff ei dalu os ydynt yn gweithio ai peidio, yn ofalwr, yn sâl a/neu'n anabl, yn gofalu am blant neu angen cefnogaeth â chostau tai megis rhent neu forgais.

Bydd y Credyd Cynhwysol yn dod yn lle’r canlynol: Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm, Budd-dal Tai, Credyd Treth Gwaith a Chredyd Treth Plant.

Ni fydd yn disodli budd-daliadau eraill megis y Lwfans Ceisio Gwaith ar sail Cyfraniadau na’r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar sail Cyfraniadau.

Mae’n bosibl y bydd angen i chi hawlio’r Credyd Cynhwysol os bydd eich amgylchiadau wedi newid a bod eich hawl i’r budd-daliadau presennol wedi dod i ben.

Sut mae’r Credyd Cynhwysol yn wahanol i’r budd-daliadau eraill?

  • Ni fydd dim ffurflenni papur. Caiff y rhan fwyaf o’r hawliadau eu gwneud ar-lein
  • Bydd y cyfnod asesu yn para un mis calendr. Ar ôl hyn, caiff eich hawl i fudd-daliadau ei hasesu a’r arian ei dalu (5 wythnos o ddyddiad y cais)
  • Caiff unrhyw newid mewn amgylchiadau yn y cyfnod asesu ei ôl-ddyddio i ddechrau'r cyfnod asesu
  • Rhaid i chi ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau ar unwaith yn ystod yr un cyfnod asesu am unrhyw gynnydd
  • Caiff unrhyw ostyngiad mewn hawliad ei ôl-ddyddio i ddechrau'r cyfnod asesu pan ddigwyddodd y newid
  • Telir arian i un aelod o bâr
  • Byddwch yn derbyn un taliad misol sy'n cynnwys swm ar gyfer eich rhent. Bydd yn rhaid i chi dalu'ch rhent i'ch landlord
  • Gallwch ofyn am drefniadau eraill ar gyfer talu
  • Caiff pob hawliwr, gan gynnwys y ddau aelod o bâr, ei roi mewn grŵp amodoldeb sy'n gysylltiedig â gwaith
  • Caiff eich cais ei reoli ar-lein a chysylltir â chi drwy e-bost/neges destun

Brig y tudalen

A fydd hyn yn effeithio arnaf i?

  • Os ydych chi neu'ch partner o oed gweithio a bod angen i chi hawlio budd-dal prawf modd am y tro cyntaf ar ôl 5 Rhagfyr 2018, bydd yn rhaid i chi hawlio’r Credyd Cynhwysol
  • Os ydych chi eisoes yn derbyn budd-dal prawf modd, a bod eich hawliad yn dod i ben oherwydd newid mewn amgylchiadau, bydd angen i chi hawlio’r Credyd Cynhwysol. Er enghraifft, os ydych yn derbyn Budd-dal Tai a bod eich cyflogaeth yn dod i ben, bydd angen i chi hawlio budd-dal am eich bod yn ddi-waith
  • Os ydych eisoes yn derbyn Credyd Cynhwysol ond eich bod wedi cyflwyno eich cais cyn 05 Rhagfyr, cysylltir â chi fel y gellir trosglwyddo eich cais am y Credyd Cynhwysol i’r gwasanaeth digidol llawn

Brig y tudalen

Y rhai na fydd hyn yn effeithio arnynt

  • Y bobl hynny nad ydynt yn hawlio’r credyd cynhwysol
  • Y rhai hynny sy'n derbyn budd-dal ond nad yw eu hamgylchiadau wedi newid
  • Os oes gennych dri neu fwy o blant, ni fyddwch yn medru hawlio’r Credyd Cynhwysol. Ni fydd yr eithriad hwn yn gynnwys o 01/02/2019

Brig y tudalen

Budd-dal Tai, Gostyngiad yn Nhreth y Cyngor a’r Credyd Cynhwysol

Bydd dal angen gwneud ceisiadau o ran Budd-dal Tai os ydych chi’n hawlio’r Credyd Cynhwysol ac yn byw mewn llety â chymorth.

Bydd angen i chi hawlio Gostyngiad yn Nhreth y Cyngor os oes yn rhaid i chi dalu Treth y Cyngor.

Brig y tudalen

Gallwch gael mwy o gyngor a chefnogaeth cyn i chi hawlio’r Credyd Cynhwysol os ydych:

  • yn fyfyriwr
  • yn un o wladolion Ardal Economaidd Ewrop
  • yn derbyn budd-dal anabledd ac yn cael eich plentyn cyntaf

Llinell Gymorth y Credyd Cynhwysol (yr Adran Gwaith a Phensiynau)

Rhif ffôn: 0800 328 9344
Cymraeg (gwneud cais): 0800 012 1888
Cymraeg (rhoi gwybod am newidiadau): 0800 328 1744
Ffôn testun: 0800 328 1344
Llun - Gwener, 8.00am-6.00pm

Mae mwy o wybodaeth am y tâl a godir am y galwadau ar wefan y llywodraeth.