Strategaeth Ddigidol 2024-2030
Swyddog Arweiniol Corfforaethol, Cyswllt Cwsmeriaid, TGCh a Digidol
Cyhoeddwyd 22/05/2025
Cynnwys
- Rhagair
- Yr Agenda Cenedlaethol a Ffactorau Allanol
- “Ceredigion sy’n hyderus yn ddigidol”
- Creu Strategaeth
- Ein Colofnau Strategol
- Rydym yn darparu gwasanaethau
- Sefydliad Digidol
- Trigolion Digidol
- Cymunedau Digidol
- Y Trefniadau Llywodraethu a Chyflawni Arfaethedig
Rhagair
Mae Ceredigion bob amser yn darparu gwasanaethau gydag ethos gynhwysol. Mae’r strategaeth newydd hon yn canolbwyntio ar gyflwyno datblygiad digidol cynaliadwy, hirdymor ar draws yr holl wasanaethau. Bydd yn annog arweinyddiaeth ddigidol ac yn galluogi’r cyngor i barhau i ddarparu gwasanaethau rhagorol i bobl Ceredigion.
Y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion sydd â chyfrifoldeb dros y Gwasanaethau Cyswllt Cwsmeriaid, TGCh a Digidol
Yr Agenda Cenedlaethol a Ffactorau Allanol
Mae amrywiaeth eang o ffactorau allanol a mewnol wedi dylanwadu ar ddatblygiad y strategaeth hon. Rydym wedi dadansoddi ein cryfderau a’n gwendidau, cynnal adolygiadau allanol ac ymchwilio i’n haeddfedrwydd ym maes data a thechnoleg ddigidol. Rydym wedi ystyried strategaethau cenedlaethol a lleol ac rydym wedi gofyn am farn a chyngor y sefydliadau sy’n bartneriaid i ni.
Rydym wedi dysgu llawer oddi wrth sefydliadau sydd â phrofiad helaeth yn y maes hwn megis Y Gymdeithas Arloesi, Technoleg a Moderneiddio (SOCITM), Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Gwasanaeth Digidol Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol ymhlith eraill, ond rhaid i ni hefyd dderbyn yr heriau ariannol anodd yr ydym yn eu hwynebu gan gofio mai prin yw’r adnoddau sydd ar gael i gyflawni newid.
Byddwn yn gofyn am adborth ffurfiol drwy ymgynghoriad cyhoeddus. Bydd hyn yn ein helpu i sicrhau ein bod yn ystyried anghenion y gymuned gyfan.
Mae gan Fwrdd Tyfu Canolbarth Cymru weledigaeth ar gyfer Canolbarth Cymru sy’n nodi ei fod am weld:
Rhanbarth mentrus ac unigryw sy'n cyflawni twf economaidd wedi'i ysgogi gan arloesedd, sgiliau, cysylltedd a swyddi mwy cynhyrchiol sy'n cefnogi cymunedau ffyniannus a dwyieithog.
Ymhlith y polisïau allweddol sydd wedi dylanwadu ar y strategaeth hon y mae’r canlynol:
- Strategaeth Gorfforaethol Cyngor Ceredigion ar gyfer 2022-2027
- Strategaeth ddigidol i Gymru a’r 6 Chenhadaeth
- gwasanaethau digidol
- cynhwysiant digidol
- sgiliau digidol
- yr economi digidol
- cysylltedd digidol
- data a chydweithredu
- Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
- Gwasanaeth Digidol Llywodraeth y DU
- Strategaeth Gofal a Alluogir gan Dechnoleg
- Strategaeth Ddigidol Hywel Dda
“Ceredigion sy’n hyderus yn ddigidol”
Ein gweledigaeth: sir sy’n hyderus i ddatblygu, arloesi a darparu gwasanaethau digidol mewn partneriaeth â chymunedau sy’n gysylltiedig, sydd wedi’u hymgysylltu ac sy’n barod i elwa ohonyn nhw.
Bwriad ein strategaeth yw cyflawni’r datganiad hwn o weledigaeth, cefnogi’r cenadaethau digidol cenedlaethol a chynorthwyo Ceredigion i gyflawni ein 4 amcan corfforaethol.
- Hybu’r economi, cefnogi busnesau a galluogi cyflogaeth
- Creu cymunedau gofalgar ac iach
- Darparu’r dechrau gorau mewn bywyd a galluogi pobl o bob oed i ddysgu
- Creu cymunedau cynaliadwy a gwyrdd sydd wedi’u cysylltu’n dda â’i gilydd
Yn unol â’n gweledigaeth, bydd technoleg ddigidol yn cael ei hymgorffori ar draws yr holl wasanaethau a strategaethau i sicrhau ein bod yn medru darparu gwasanaethau arloesol ac effeithlon i bawb. Byddwn yn cyflawni’r amcanion canlynol:
- Datblygu gweithlu sy’n hyderus ac yn fedrus yn ddigidol ac sy’n meddu ar y gallu i addasu ac arloesi.
- Cefnogi'r gymuned i fod yn gyfforddus ac yn hyderus wrth ddefnyddio technoleg ddigidol i gael mynediad at wasanaethau.
- Cefnogi’r gwaith o wella cysylltedd digidol ar gyfer y sir gyfan.
- Darparu gwasanaethau TGCh cynaliadwy, cydnerth a diogel i'r cyngor a'i bartneriaid.
- Cefnogi’r gwaith o ddatblygu a darparu model rhagnodi cymdeithasol sy’n creu cymunedau gofalgar ac arloesol.
- Cefnogi’r gwaith o ddarparu atebion sy’n ymwneud â Gofal a Alluogir gan Dechnoleg sy’n galluogi annibyniaeth.
- Datblygu sgiliau arwain digidol ar draws y gweithlu.
- Rhoi'r offer a'r systemau i'n staff i weithio'n effeithlon ac effeithiol.
- Darparu gwasanaethau digidol aeddfed sy'n lleihau biwrocratiaeth ac yn gwella effeithlonrwydd er mwyn sicrhau buddion ariannol gwirioneddol.
- Darparu atebion digidol sy’n cefnogi’r gwaith o gyflawni Sero Net.
- Cyflawni gwaith i sicrhau bod diogelwch a chydnerthedd yn sail i bopeth a wnawn.
- Gwneud defnydd gwell o wybodaeth i gefnogi penderfyniadau a dod yn sefydliad sy'n cael ei yrru gan ddata.
- Rhoi mynediad 24/7 i ddinasyddion at wasanaethau trwy Fy Nghyfrif a gwasanaethau ar-lein.
Creu Strategaeth
Mae cynnig strategaeth hirdymor yn y maes TGCh a digidol yn medru bod yn dipyn o her. Er mwyn manteisio ar y newid technolegol a’r cyfleoedd newydd a ddaw yn sgil hyn, mae angen i ni fod yn hyblyg ac yn barod i groesawu’r newid hwn.
Rhaid i’r strategaeth ystyried ein hanghenion at y dyfodol a bodloni’r egwyddorion datblygu cynaliadwy a'r pum ffordd o weithio sydd wedi’u cynnwys yn Neddf Cenedlaethau’r Dyfodol. Rhaid iddi hefyd fod yn ddigon hyblyg i fedru addasu i dechnoleg sy’n newid.
Wrth wraidd ein strategaeth y mae egwyddorion a chynlluniau a fydd yn cael eu hadolygu o leiaf dwywaith y flwyddyn. Bydd y sesiynau adolygu yn ystyried yr hyn sydd wedi’i gyflawni hyd yma a byddant yn addasu’r cynlluniau i sicrhau bod y strategaeth yn cael ei gwireddu. Mae’n hanfodol ein bod yn cynnwys prosesau adolygu i sicrhau bod modd i’r sefydliad addasu fel y gallwn ni groesawu tueddiadau newydd a’r dechnoleg ddiweddaraf wrth iddi ddod ar y farchnad.
Mae’r strategaeth hon yn ystyried y sefyllfa yn yr hirdymor dros y 6 blynedd nesaf. Serch hynny, bydd cynlluniau ar gyfer y ddwy flynedd gyntaf yn cael eu cynnwys er mwyn cefnogi’r gwaith o gyflawni’r amcanion.
STRATEGAETH 2024 -2030
Cynlluniau dwy flynedd gan gynnwys gwaith adolygu ac adrodd
Ein Colofnau Strategol
Rydym wedi rhannu ein strategaeth i 3 colofn strategol, gan amlinellu’r meysydd blaenoriaeth y mae angen eu cefnogi.
Sefydliad Digidol
- Bydd ein sefydliad yn croesawu gwasanaethau digidol. Byddwn yn datblygu, yn defnyddio ac yn cefnogi prosiectau digidol mewn modd hyderus. Byddwn yn gweithio gyda'r rhanddeiliaid i geisio sicrhau gwelliannau parhaus gan ddarparu prosesau a systemau cynaliadwy, diogel ac effeithlon.
Trigolion Digidol
- Dylai fod modd i'n dinasyddion gysylltu â gwasanaethau digidol modern, syml ac effeithlon y maent yn teimlo'n hyderus i'w defnyddio. Ni ddylai dinasyddion sydd â gofynion arbennig neu sydd heb fynediad neu sgiliau gael eu heithrio.
Cymunedau Digidol
- Bydd ein gwasanaethau'n cefnogi ac yn cyfoethogi cymunedau digidol clyfar gan gynorthwyo pobl o bob oedran i fod yn wydn ac yn annibynnol a sicrhau buddion iddynt. Dylai ein systemau ddarparu gwybodaeth o'r ansawdd uchaf i gefnogi gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar y dinesydd.
Rydym yn darparu gwasanaethau
Trwy gynnig gwasanaeth, rydym yn helpu rhywun i wneud rhywbeth.
Mae rhan fwyaf o waith y Cyngor yn ymwneud â darparu gwasanaethau i ddinasyddion. Mae’n rhaid i ni sicrhau bod y gwasanaethau hyn yn cael eu datblygu yn unol ag anghenion y gymuned a’u bod yn manteisio ar y dechnoleg sy’n bodoli ar yr adeg honno. Mae parhau i wella gwasanaethau yn hanfodol a rhaid i ni fanteisio ar dechnoleg ddigidol i wella perfformiad a darparu gwasanaethau mwy effeithlon i’r dinasyddion. Mae gwella hyder digidol y staff yn hanfodol fel y gallant wella’r modd y cynllunnir prosesau a sicrhau effeithlonrwydd o fewn eu timau eu hunain.
Wrth ddatblygu gwasanaethau ac atebion digidol, byddwn yn sicrhau ein bod yn ystyried yr egwyddorion canlynol:

Mae'r gwasanaethau wedi'u cynllunio i fod yn gynaliadwy yn ddiogel, ac yn wydn.

Mae'r gwasanaethau wedi'u cynllunio ar y cyd â'r dinasyddion a'r rhanddeiliaid sy'n eu defnyddio.

Mae'r gwasanaethau yn datblygu mewn modd hyblyg ac iteraidd er mwyn sicrhau gwelliannau parhaus.

Mae'r gwasanaethau yn darparu diweddariadau a gwybodaeth am gynnydd i'r defnyddiwr.

Mae'r gwasanaethau wedi'u cynllunio i fod yn hawdd i'w darganfod, ac yn hawdd i'w defnyddio.

Mae'r gwasanaethau yn cael eu rheoli gan ystyried amcanion sydd wedi'u diffinio, cylchred oes a mesurau llwyddiant.

Mae'r gwasanaethau yn casglu adborth oddi wrth y defnyddwyr ac rydym yn dysgu o hyn.
Sefydliad Digidol
Sut mae cael Ceredigion i fod yn sefydliad digidol mwy hyderus? Sefydliad fydd yn gallu arwain a chyflawni prosiectau digidol a chefnogi trigolion a chymunedau Ceredigion a Chanolbarth Cymru.
Drwy ymchwilio ac ymgysylltu â rhanddeiliaid, rydym wedi nodi’r canlyniadau strategol canlynol y mae’n rhaid eu cyflawni.
Datblygu Staff a’r Strwythur Staffio
Mae angen staff arnom sydd wedi’u hyfforddi ac sy’n fedrus yn ddigidol i ddylunio a chynnal gwasanaethau digidol.
Canlyniad Strategol
- Bod gan staff hyder yn eu sgiliau a'u defnydd o dechnoleg.
- Bod mwy o rolau digidol penodol yn cefnogi’r gwaith o gyflwyno prosiectau digidol ac yn sicrhau bod prosiectau'n cael eu rheoli'n effeithiol.
- Cynyddu capasiti y staff digidol i sicrhau y gellir croesawu technoleg a chefnogi datblygiad a sgiliau’r gweithlu ehangach.
- Sicrhau nad yw gwasanaethau yn gweithio mewn seilos ac annog cydweithio o fewn ‘Tîm Ceredigion’.
- Bod gwasanaethau wedi'u cynllunio o amgylch y defnyddiwr ac yn ystyried adborth y defnyddwyr.
Sut ydym ni’n mesur cynnydd?
- Arolwg hyder digidol
- Staff yn mynychu hyfforddiant digidol
- Adborth o’r digwyddiadau
- Adborth o’r cwrs hyfforddi digidol
- Aeddfedrwydd digidol i’w weld mewn gwasanaethau
- Archwiliad o’r sgiliau digidol
Seiliau Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh)
Cynnal a datblygu seiliau TGCh i gefnogi’r gwaith digidol
Canlyniad Strategol
- Bod systemau TGCh a gwasanaethau yn cael eu monitro i sicrhau eu bod yn medru bodloni galwadau’r defnyddwyr.
- Bod gan galedwedd gyfrifiadurol raglen adnewyddu sy’n cael ei rheoli i sicrhau bod gan y staff i gyd yr offer cywir i wneud y gwaith.
- Bod systemau'n addas i’r diben fel bod modd i staff weithio'n effeithlon yn ddigidol.
- Defnyddir cyfleoedd i dynnu technolegau ynghyd i leihau dyblygu ac i symleiddio ein hystâd dechnolegol.
- Bod gwybodaeth a chofnodion yn cael eu cadw a'u rheoli'n ddiogel ac yn unol â rheoliadau llywodraethu gwybodaeth.
- Bod y gwaith o reoli gwendidau yn rhagweithiol a rheolir gwendidau meddalwedd a'u patsio yn unol â safonau'r diwydiant.
- Bod y gwasanaethau TGCh yn wydn, yn ddibynadwy ac â’r gallu i gefnogi gweithlu cynhyrchiol.
- Bod y gweinydd a’r seilwaith yn cael eu cynnal, ac mae'r cwmwl yn cael ei ddefnyddio'n bragmataidd.
- Bod trefniadau cadw data a gwybodaeth yn cael eu gwella o fewn systemau fel y gellid cefnogi prosesau rheoli cofnodion yn well
- Bod TGCh yn cefnogi'r agenda digidol a bod y datblygiadau wedi'u cynllunio'n eglur.
- Bod cyfarpar Deallusrwydd Artiffisial ar gael i’r staff i gefnogi eu gwaith
Sut ydym ni’n mesur cynnydd?
- Galwadau ffôn i’r ddesg gwasanaeth
- Sgôr Ddiogelwch/ Secure Score
- Sgôr Agored i Risg Seiberddiogelwch
- Defnyddio canlyniadau arolygon
Sefydliad wedi’i yrru gan Ddata
Bydd ein sefydliad yn datblygu diwylliant a yrrir gan ddata. Bydd data yn gyrru’r broses o wneud penderfyniadau a’r strategaeth a bydd yn gwella perfformiad a boddhad.
Canlyniad Strategol
- Bydd y trefniadau ar gyfer prosesu a rhannu data personol wastad yn foesegol, yn unol â’r hysbysiadau prosesu a’r asesiadau effaith o ran prosesu data a byddant yn cadw at fesurau llywodraethu llym o ran prosesu data er mwyn sicrhau y gall y cyhoedd fod yn hyderus yn y ffordd yr ydym yn trin ac yn diogelu eu data.
- Bod metrigau perfformiad wedi'u gosod yn ofalus i yrru perfformiad a gwelliant.
- Bod yr arweinyddiaeth yn disgwyl i benderfyniadau gael eu hangori gan ddata.
- Gellir datblygu a dadansoddi dangosfwrdd data yn gyflym er mwyn diwallu anghenion y gwasanaeth.
- Bod seilos data wedi'u cwtogi er mwyn medru defnyddio data ar draws y sefydliad.
- Bod dyfeisiau adnabod allweddol yn cysylltu'r rhan fwyaf o’r prif systemau fel y gellir ymddiried yn y data craidd a gwella’i ansawdd.
- Rheolir ansawdd y data a chedwir cofnodion cywir o’r gwaith prosesu data gan arwain at well llywodraethu data.
- Bod gan ein gweithlu sgiliau Microsoft Power Bi a gallant ddefnyddio Dangosfyrddau ar gyfer pob maes busnes allweddol.
- Bod Deallusrwydd Artiffisial yn cefnogi’r modd y caiff data ei ddadansoddi a’i gyflwyno.
- Gall arbenigwyr data gael mynediad i setiau data diffiniedig, dibynadwy er mwyn medru datblygu’n gyflym.
- Lle bo hynny’n bosib, dylai gwybodaeth ac ystadegau gael eu cyhoeddi ar gyfer eu hailddefnyddio’n eang , yn enwedig lle y gall hyn leihau’r baich o ran Rhyddid Gwybodaeth.
- Bod llinellau data (awtomeiddio) yn cael eu creu i gynnal setiau data craidd eglur, amserol a chywir er mwyn eu dadansoddi.
- Bod y gwaith o gaffael systemau newydd yn cefnogi’r safonau agored. Bod systemau yn cynnal safonau API sicr ac yn meddu ar ddyfeisiau adnabod a fydd yn gwella cydweithio a’r gwaith o rannu data.
Sut ydym ni’n mesur cynnydd?
- Dangosfwrdd data ar gael ar gyfer pob gwasanaeth
- Dangosyddion ansawdd data ar gyfer pob system graidd
- Nifer y ffynonellau data diffiniedig sydd ar gael fel data agored
- Nifer y data craidd diffiniedig
- Amrywiaeth o ddangosyddion ansawdd data
- Y ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth a gyfeirir tuag at ddata agored
- Nifer y cyfrifon cwsmeriaid dilys
- Nifer y cyfrifon dilys sy’n croesgyfeirio at gyfrifon eraill
Arweinyddiaeth Ddigidol a Sgiliau Digidol
Mae Arweinyddiaeth Ddigidol yn fater o fanteisio ar dechnoleg, cyflawni newid strategol a bod yn effro i gyfleoedd.
Canlyniad Strategol
- Cyflawnir y weledigaeth, strategaeth, goruchwyliaeth a llywodraethu technegol o'r canol gan adael i arweinwyr yn y gwasanaethau ddatblygu a chyflawni'n annibynnol o fewn y ffiniau hynny.
- Bod bwrdd prosiect digidol yn monitro ac yn cymeradwyo’r gwaith o gyflawni prosiectau digidol.
- Bod arweinwyr yn hyderus yn eu rôl o gyflawni prosiectau digidol.
- Bod gan arweinwyr sgiliau amlwg o ran dadansoddi busnes a’u bod yn meddu ar gyfleoedd a hyder i geisio newidiadau.
- Bod gan yr arweinwyr y sgiliau a’r hyfforddiant i ddefnyddio adroddiadau a dadansoddiad o’r data fel y gallant wneud gwell penderfyniadau yn seiliedig ar wybodaeth.
- Bod arweinwyr yn parhau i adolygu gwasanaethau gan ganolbwyntio ar ddatblygiad hirdymor i sicrhau bod y gwasanaethau yn esblygu gyda’r dechnoleg.
- Bod arweinwyr yn gallu cynllunio a gweithredu strategaethau sy'n canolbwyntio ar y dinesydd.
- Bod y strwythurau a’r capasiti staffio yn cefnogi'r agenda digidol i wella gwasanaethau a chanlyniadau.
- Bod arweinwyr yn deall ac yn ystyried egwyddorion Dylunio Gwasanaethau.
- Bod arweinwyr wedi ymrwymo i welliant parhaus er mwyn hybu prosesau effeithlon ac effeithiol.
- Bod arweinwyr yn defnyddio dulliau cyson o gyfathrebu, sydd o’r ansawdd uchaf, gan gynnwys postiadau priodol ar y Cyfryngau Cymdeithasol i wella’r broses o gyfathrebu gyda defnyddwyr gwasanaethau.
Sut ydym ni’n mesur cynnydd?
- Metrigau hyfforddiant digidol
- Amrywiaeth o adborth
- Tanysgrifiadau i’r cylchlythyr
- Cofrestriadau ymgysylltu
- Nifer y cylchlythyron a phostiadau ar y cyfryngau cymdeithasol
- Data perfformiad prosiectau
- Digidol wedi ymwreiddio yn y strategaethau
Seiberddiogelwch a gwytnwch
Mae diogelwch digidol yn hanfodol i ymddiriedaeth ac enw da sefydliad a rhaid ei amddiffyn.
Canlyniad Strategol
Mae’r Fframwaith Asesu Seiber wrthi’n cael ei baratoi fel y safon ddiofyn ar gyfer Llywodraethu. Byddwn yn gweithio gyda llywodraethau Cymru a'r DU i weithredu'r Fframwaith i fod yn safon wrth i’r Fframwaith hwn esblygu i ddiwallu anghenion llywodraeth leol.
- Trefniadau Digwyddiad Diogelwch a Rheoli Digwyddiadau ar waith.
- Monitro ac adfer awtomataidd ar gyfer digwyddiadau syml, gyda mesurau adrodd ar waith.
- Bod Deallusrwydd Artiffisial yn cael ei ddefnyddio i gefnogi’r gwaith o fonitro diogelwch
- Bod llawlyfrau ar waith i gefnogi’r ymateb i ddigwyddiadau disgwyliedig.
- Gwell sefyllfa ddiogelwch i gefnogi’r lefelau bygythiad presennol a’r risg lai oddi wrth gyrff/actorion anwladwriaethol.
- Bod tystiolaeth o gynllunio gwytnwch a’r mesurau i ymateb, a bod prosesau cadarn a threfniadau llywodraethu ar waith.
- Bod pob cyflenwr a chontract yn cael ei ddilysu'n rheolaidd i sicrhau gwytnwch a gwella diogelwch o ran y gadwyn gyflenwi.
Sut ydym ni’n mesur cynnydd?
- Hunanasesiad CAF
- Polisïau a gweithdrefnau craidd ar waith ac yn cael eu harchwilio.
- Sgoriau Microsoft Secure & Exposure Management
- Mesurau’r Ganolfan Weithredu Diogelwch
Cymorth Sero Net
Mae Cymru wedi ymrwymo i gyrraedd allyriadau carbon sero net erbyn 2050. Bydd y strategaeth ddigidol yn cefnogi ein hymgyrch tuag at Sero Net.
Canlyniad Strategol
- Llai o bost yn dod i mewn ac allan o ganlyniad i wella sianeli digidol.
- Llai o deithio drwy wneud gwell defnydd o sianeli digidol a thechnoleg cydweithio er mwyn cefnogi opsiynau o ran cyfarfodydd hybrid.
- Monitro a lleihau'r defnydd o ynni wrth redeg adeiladu, systemau, canolfannau data ac offer.
- Lleihau'r defnydd o ynni drwy gynyddu’r prosesau monitro a dadansoddi data er mwyn canfod anawsterau a thynnu sylw at y defnydd a wneir.
Sut ydym ni’n mesur cynnydd?
- Post sy’n dod i mewn ac allan
- Defnydd y ganolfan ddata o ynni
- Metrigau ac adroddiadau ynni
- Hawliadau milltiroedd
- Asesu aeddfedrwydd digidol pob gwasanaeth
Aeddfedrwydd y Gwasanaeth Digidol
Mae Ceredigion yn cynnig cannoedd o wahanol wasanaethau i drigolion ac mae gan y rhan fwyaf opsiwn digidol y mae angen ei wella o hyd i fodloni disgwyliadau, lleihau cymhlethdod a gwella effeithlonrwydd.
Canlyniad Strategol
- Bod rheolwyr gwasanaethau yn eglur ynghylch y gwasanaethau maen nhw’n eu cynnig ac yn cynnal asesiadau aeddfedrwydd digidol i gefnogi cynllun gwella parhaus.
- Ymgynghorir â defnyddwyr gwasanaethau a dilynir egwyddorion da o ran dylunio gwasanaeth.
- Bod trigolion dethol yn mynychu gweithdai Dinasyddion i helpu i lunio’r gwasanaeth a ddarperir.
- Cesglir adborth o'r holl wasanaethau ac fe’i dadansoddir i helpu â’r gwaith o wella gwasanaethau / cyfrannu at gynlluniau datblygu’r gwasanaethau
- Bod arweinwyr digidol yn ymwybodol o waith dylunio GDS, CLlLC/WLGA Digidol a CDPS. Mae arweinwyr yn sicrhau cysondeb ac yn cynllunio yn ôl safonau’r gwasanaethau.
- Bod hyfforddiant digidol y Staff yn sicrhau bod staff digidol craidd yn ystyried Hygyrchedd, Profiad y Defnyddiwr (UX) a Phrofiad y Cwsmer (CX), wrth ddatblygu gwasanaeth.
- Bod arweinwyr yn pwyso a mesur yr ystyriaethau o ran moeseg a phreifatrwydd wrth i dechnoleg esblygu a phrosesau newid.
Sut ydym ni’n mesur cynnydd?
- Cofrestr y Gwasanaeth
- Matrics aeddfedrwydd digidol
- Sgoriau adborth defnyddwyr
- Nifer y gweithdai i Ddinasyddion
Cyswllt Cwsmeriaid
Mae peiriannau chwilio ac yn fwyfwy Deallusrwydd Artiffisial yn cyfeirio defnyddwyr at ein gwasanaethau. Maent yn dibynnu ar ein gwefan ac felly mae’n rhaid i’r wefan fod yn gywir ac yn hygyrch. Dyma’r lle cyntaf y byddant yn troi i gael gwybodaeth ac arweiniad, boed yn uniongyrchol, drwy gynorthwywyr AI neu beiriannau chwilio.
Canlyniad Strategol
- Mae’r gwasanaethau wedi’u cynllunio gan feddwl am y defnyddwyr ac maent yn hygyrch ac yn hawdd i’w defnyddio.
- Gall dinasyddion gael mynediad i’r gwasanaethau a fydd wedi’u cynllunio’n dda ac yn ddwyieithog.
- Gwella’r ffyrdd y gall cwsmeriaid ryngweithio â ni gan sicrhau eu bod o ansawdd.
- Bod safonau a chanllawiau yn sicrhau bod y cynnwys yn addas i fodau dynol, peiriannau chwilio ac offer Dealltwriaeth Artiffisial ei ddeall.
- Rheolir gwybodaeth bersonol y cwsmeriaid yn briodol i sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei rhannu yn ddiogel a bod y cyfathrebu hefyd yn ddiogel.
- Bod staff wyneb yn wyneb ar gael i gefnogi'r cwsmeriaid sydd allan ohoni yn ddigidol neu sydd angen cymorth i gael mynediad i wasanaethau digidol.
- Gall trigolion drefnu apwyntiad ar-lein i gwrdd â chynrychiolwyr o’r gwasanaethau i drafod eu problemau a chael cymorth proffesiynol.
Sut ydym ni’n mesur cynnydd?
- Cwynion a chanmoliaeth gan gwsmeriaid
- Boddhad gydag Ymholiadau
- Cylchrediad cylchlythyron
- Dadansoddeg y Cyfryngau Cymdeithasol
- Dadansoddeg y wefan
- Y defnydd o ‘Fy nghyfrif’
- Metrigau wyneb yn wyneb
Trigolion Digidol
Sut mae trigolion yn ymgysylltu ac yn cydweithio â sefydliad digidol? Sut ydyn ni'n cefnogi dinasyddion Ceredigion i gael gafael ar ein gwasanaethau'n ddigidol?
Hunanwasanaeth Digidol
Dylai porth personol diogel ganiatáu cyfathrebu a mynediad at wasanaethau 24/7
Canlyniad Strategol
- Mae Fy Nghyfrif yn cael ei wella’n barhaus, ac mae’r wefan gorfforaethol yn cefnogi cyfleoedd parhaus i hunangefnogi a rhyngweithio â gwasanaethau ar bob adeg
- Cynyddodd nifer y dinasyddion sy'n rhyngweithio â'r cyngor trwy Fy Nghyfrif.
- Nifer fawr o wasanaethau defnyddiol ar gael trwy Fy Nghyfrif
(Er enghraifft, datganiad Treth y Cyngor, gwneud cais am ostyngiad yn nhreth y cyngor, ymuno â llyfrgell, neu ddiweddaru cofnod gofal maeth, porth rhieni a mwy.) - Mae aelodau staff sy’n gysylltwyr cymunedol a digidol yn cefnogi dinasyddion i fagu hyder wrth gael gafael ar wasanaethau ar-lein.
- Gall staff y llyfrgelloedd gefnogi'r cyhoedd gydag ymholiadau digidol sylfaenol.
- Mae gan y rhan fwyaf o wasanaethau'r cyngor wasanaeth digidol aeddfed sy'n caniatáu hunanwasanaeth a chyfathrebu electronig.
Mesurau
- Defnyddwyr cofrestredig Fy Nghyfrif
- % Oedolion Ceredigion sydd â Fy Nghyfrif
- Nifer yr ymholiadau a gofnodwyd trwy Fy Nghyfrif.
- Nifer y mewngofnodiadau y mis
- Asesiadau aeddfedrwydd digidol ynghylch gwasanaethau unigol y Cyngor
Newid Sianel
Mae'r rhan fwyaf o gysylltiadau cwsmeriaid dros y ffôn ac e-bost. Rydym am i ddinasyddion ddefnyddio amrywiaeth o sianeli a byddwn yn gweld mwy o ystod a rhaniad o gyfathrebu drwy sianeli gwahanol.
Canlyniad Strategol
Bydd sianeli ychwanegol gan gynnwys Sgwrsfotiau AI yn cael eu harchwilio wrth i dechnoleg wella.
- Caiff technoleg newydd i wella’r modd y mae cwsmeriaid yn rhyngweithio â’r Cyngor ei harchwilio a’i hasesu
- Sianel sgwrsio ar y Wefan a Fy Nghyfrif i ganiatáu mynediad hawdd at gymorth ar-lein.
- Gellir neilltuo a rheoli apwyntiadau galwad fideo ar gyfer Gwasanaeth Cwsmeriaid neu gyswllt â staff cefn swyddfa ar-lein.
- Mae teclynnau Sgwrsfot ac AI ar gael i helpu i gyfeirio at adnoddau digidol a rhoi cymorth y tu allan i oriau.
- Mae canran is o ymholiadau dros y ffôn wedi rhoi amser yn ôl i staff cyswllt i gefnogi dinasyddion mewn ffyrdd newydd.
Mesurau
- Canran yr ymholiadau fesul sianel
- Arolygon boddhad cwsmeriaid
- % yr ymholiadau a gaewyd ar y cyswllt cyntaf
Cylchlythyr ac Ymgysylltu
Mae mynd ati’n rhagweithiol i hysbysu Dinasyddion am wasanaethau newydd, newidiadau i wasanaethau a ffyrdd o gefnogi eu hunain yn allweddol i yrru ein strategaeth gorfforaethol yn ei blaen.
Canlyniad Strategol
- Mae gwefan y Cyngor yn fodern, yn ddeniadol, yn hygyrch ac yn hyrwyddo ein gwerthoedd a'n strategaeth gorfforaethol.
- Gall dinasyddion gofrestru a chael cylchlythyrau rheolaidd a diweddariadau rheolaidd o ran gwasanaethau.
- Mae dinasyddion yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn democratiaeth leol a chyfleoedd ymgysylltu.
- Caiff democratiaeth leol ei chryfhau trwy ddarparu cyfleoedd i’r cyhoedd fynychu cyfarfodydd pwyllgorau yn rhithwir. Hefyd, er mwyn dilyn y broses ddemocrataidd, gall y cyhoedd wylio’r cyfarfodydd yn fyw neu ar ôl hynny gan ddefnyddio’r gwasanaeth ffrydio.
- Mae brand digidol clir a chyson ar draws yr holl ddulliau cyfathrebu a’r cyfryngau cymdeithasol sy’n ysgogi ymgysylltu.
Mesurau
- Dosbarthu cylchlythyrau.
- Dilynwyr Cyfryngau Cymdeithasol
- Ymatebion Ymgysylltu
- Faint sydd wedi gweld y Wefan a dadansoddiad o’r Wefan
Cynnwys dinasyddion wrth gynllunio gwasanaethau
Dylai pob gwasanaeth ddiwallu anghenion y defnyddwyr a dylai gael ei gynllunio ar eu cyfer nhw ac nid ar gyfer ein sefydliad yn fewnol.
Canlyniad Strategol
Mae cynnwys dinasyddion yn hanfodol wrth geisio gwella gwasanaethau cyhoeddus, ehangu ymgysylltu â’r gymuned, a chynyddu lefel hyder y cyhoedd mewn llywodraeth leol.
- Mae staff digidol yn hyrwyddo dyluniad sy'n canolbwyntio ar ddefnyddwyr
- Mae adborth defnyddwyr yn cael ei gasglu a'i ddadansoddi'n rheolaidd.
- Gwahoddir defnyddwyr i weithdai dinasyddion i helpu i gynllunio gwasanaethau newydd.
- Mae profion hygyrchedd yn arfer safonol gyda gwasanaethau.
- Mae'r wefan gorfforaethol yn parhau i gydymffurfio â'r safonau hygyrchedd diweddaraf o ran y we.
Mesurau
- Sesiynau ffocws defnyddwyr ac adborth
- Adborth defnyddwyr
- Ymatebion i'r Arolwg
Taliadau electronig
Mae Prosesu Arian Parod yn ddigidol yn gwella diogelwch a chyflymder a phrosesau cefn swyddfa ar gyfer gwaith cysoni
Canlyniad Strategol
- Mae opsiynau talu arian parod yn parhau ar gyfer y rheini na allant dalu trwy ddulliau eraill.
- Pob gwasanaeth wedi'i gynllunio i fod yn ddi-arian-parod yn ddiofyn.
- Cynnydd mewn taliadau debyd uniongyrchol.
- Ni dderbynnir sieciau mwyach.
Mesurau
- Gwerthoedd incwm arian parod
- Gwerthoedd talu sieciau
- Gwerthoedd talu Debyd Uniongyrchol
Cymunedau Digidol
Sut mae’r gymuned yn elwa o gydweithio digidol gwell? Sut mae datblygu mentrau i ddatblygu a chefnogi ein cymuned ehangach yn well i fod yn fwy cydnerth?
Cefnogi’r gymuned ehangach
Cysylltedd yw sylfaen gwasanaethau digidol. Mae’n rhaid bod gan ddefnyddwyr gysylltedd addas i fedru defnyddio gwasanaethau digidol
Canlyniad Strategol
Byddwn yn cefnogi ac yn cydweithio â Thyfu Canolbarth Cymru gan helpu i gyflawni Bargen Twf Canolbarth Cymru:
- Cynyddu canran yr eiddo sy’n gallu cael band eang gwibgyswllt / cyflym iawn.
- Mwy o ddarpariaeth a defnyddioldeb rhwydweithiau symudol 4G a 5G.
- Mwy o ddarpariaeth a mwy o ddefnydd o IOT a rhwydweithiau ardal eang o bell (LoRaWAN) ar draws y sir.
- Mwy o ddarpariaeth o Wi-Fi Cyhoeddus
Mesurau
- % yr eiddo yng Ngheredigion sydd â mynediad at fand eang cyflym iawn
- % o dir Ceredigion sydd â darpariaeth 4G neu well
- Targedau Digidol Tyfu Canolbarth Cymru
Cymorth i fusnesau
Ein nod yw hybu'r economi yng Ngheredigion ac mae angen cefnogi ffrydiau gwaith sy'n datblygu Ceredigion ar gyfer busnesau a grwpiau cymunedol.
Canlyniad Strategol
- Mae gwasanaethau i fusnes ar gael trwy nodweddion penodol ar Fy Nghyfrif.
- Mae swyddogaethau Fy Nghyfrif Busnes yn cefnogi integreiddio â phartneriaid fel iechyd, yr heddlu ac asiantaethau cymorth eraill.
- Mae hyder busnes yn y defnydd o dechnoleg ddigidol yn gwella.
- Rheolir cymorth i fusnesau drwy nodweddion Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM) penodedig sy'n galluogi staff gwasanaethau i gwsmeriaid i gefnogi busnesau'n fwy effeithiol.
- Mae busnesau'n ymwneud ag ailgynllunio gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar fusnes i ddiwallu eu hanghenion a lleihau biwrocratiaeth.
- Mae'r cyngor wedi gwella data a dadansoddi i helpu i gefnogi ein sector busnes.
- Arolwg digidol busnes ar adegau penodol yn ystod cyfnod y strategaeth i ddeall anghenion esblygol busnesau.
Mesurau
- Nifer y busnesau sydd wedi cofrestru gyda Clic.
- Adborth gan fusnesau ar wasanaethau cymorth.
- Dadansoddiad o ddata busnes
- Nifer y defnyddwyr busnes ar Fy Nghyfrif
- Dadansoddiad o ymatebion arolwg
Cofnod Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Mae gwasanaethau cymorth yn cael eu gwella pan fyddwn yn ymwybodol o gofnod a hanes y cleient. Mae'r ddealltwriaeth hon yn cyflymu'r broses ac yn cefnogi gwell penderfyniadau.
Canlyniad Strategol
Cefnogi’r strategaeth Llesiant Gydol Oes trwy sicrhau:
- Bod ansawdd data ar draws systemau yn cael ei fesur a'i wella. Bydd hyn yn gwella cywirdeb a bydd yn cefnogi’r gwaith o rannu data ar draws iechyd a gofal cymdeithasol.
- Bod yna ryngweithredu rhwng systemau. Mae Rhyngwynebau Rhaglennu (API) yn caniatáu cydweithio a’r gallu i ddadansoddi data yn well ar draws yr holl wasanaethau.
- Bod cymorth ar gael ar gyfer cofnod iechyd a gofal cymdeithasol Cymru gyfan.
- Bod holl ymwneud gofal cymdeithasol yn cael ei olrhain a'i fonitro'n gorfforaethol a'i gofnodi mewn systemau craidd i ganiatáu rhannu.
Mesurau
- Canran cofnodion Cleient â Rhif GIG cyfatebol
- Metrigau Ansawdd Data megis % y cofnodion cwsmeriaid sydd wedi’u cwblhau a % y setiau data craidd ym maes Gofal Cymdeithasol sydd wedi’u cwblhau
- Canran y cofnodion CRM a barwyd â systemau cefn swyddfa.
Model wedi’i ragnodi’n gymdeithasol
Dywedir bod ffactorau anfeddygol yn cyfrif am 80% o ganlyniadau iechyd.
Canlyniad Strategol
Mae mynd i’r afael ag anghenion anfeddygol yn cael ei gydnabod fwyfwy fel rhywbeth pwysig i gefnogi iechyd a lles a lleihau’r baich ar iechyd a gofal cymdeithasol.
- Defnyddir teclynnau digidol i gyfeirio dinasyddion at wasanaethau cymorth.
- Mae dadansoddi data yn helpu i nodi cyfleoedd cynnar i gefnogi dinasyddion.
- Mae cysylltwyr digidol yn cefnogi dinasyddion i gael gafael ar wasanaethau'n ddigidol.
- Mae dadansoddi data yn helpu i nodi cyfleoedd ar gyfer datblygu microfusnesau ac i wella cymorth i ddefnyddwyr gwasanaethau.
Mesurau
- Nifer y dinasyddion sy'n defnyddio gwasanaethau wedi'u cyfeirio
- Boddhad y Cwsmeriaid â’r gwasanaeth
- Yr amser rhwng yr atgyfeiriad a’r cyswllt cyntaf
- % sy’n cwblhau’r ymyrraeth
Gofal a Alluogir gan Dechnoleg
Gall technoleg ar draws y sector gofal wella perfformiad a chefnogi dinasyddion i gael gwell ansawdd bywyd ac aros yn annibynnol.
Canlyniad Strategol
- Mae ystafell arddangos canolfan byw'n annibynnol yn cefnogi ac yn cynorthwyo'r cyhoedd gyda chyfeirio digidol dyfeisiau ac atebion gofal a alluogir gan dechnoleg a all gefnogi dinasyddion.
- Mae gwasanaethau teleofal yng Ngheredigion wedi’u ‘galluogi’n ddigidol’ yn llawn cyn y terfyn amser yn 2025.
- Mae treialon yng nghyswllt technoleg newydd yn cael eu cynnal yn rheolaidd a lle bo'n briodol yn cael eu dangos a/neu eu dosbarthu o ystafell arddangos gofal a alluogir gan dechnoleg.
- Mae Gwasanaethau a Chyfarpar Gofal a Alluogir gan Dechnoleg yn rhoi data gwybodaeth busnes cyson i gefnogi canlyniadau mesuradwy.
- Mae gwybodaeth am ddeallusrwydd busnes yn olrhain ac yn gwella canlyniadau gofal i ddinasyddion.
Mesurau
- Nifer yr ymwelwyr a chleientiaid a gefnogir.
- Nifer yr eitemau a werthwyd ac a ddosbarthwyd i ddefnyddwyr.
- Adborth gan ddefnyddwyr gwasanaethau a theuluoedd
- Dadansoddi data o ddata synhwyrydd ac offer
Addysg
Parhau i adeiladu ar Raglen Hwb Cymru Gyfan a’i chefnogi a sicrhau darpariaeth TGCh gydnerth a chynaliadwy ar draws ysgolion
Canlyniad Strategol
Parhau i adeiladu ar Raglen Hwb Cymru Gyfan a’i chefnogi a sicrhau darpariaeth TGCh gydnerth a chynaliadwy ar draws ysgolion
- Mae gan bob ysgol sydd â Chytundeb Lefel Gwasanaeth Gynllun Datblygu TGCh cynaliadwy
- Mae gallu ysgolion o ran cysylltedd yn addas ac yn cefnogi anghenion dysgu digidol parhaus.
- Cefnogir y cwricwlwm newydd yn effeithiol ag adnoddau a sgiliau TGCh a Digidol.
Mesurau
- % y cynlluniau datblygu sydd mewn lle
- % yr ysgolion sydd â’r cysylltedd priodol ar waith i gefnogi’r cwricwlwm
Cynhwysiant Digidol
Sicrhau nad yw’r cyhoedd yn cael eu hallgáu’n ddigidol.
Canlyniad Strategol
Gall dinasyddion gael eu hallgáu o wasanaethau digidol am lawer o resymau, a bydd lleihau allgáu o wasanaethau digidol yn cael ei dargedu gyda'r camau gweithredu canlynol.
- Ystod a nifer cynyddol o Gyfarpar TGCh mewn llyfrgelloedd.
- Mwy o ddarpariaeth Wi-Fi am ddim mewn canol trefi a chymunedau.
- Bydd y gwasanaethau digidol yn bodloni’r safonau hygyrchedd.
- Mae asiantiaid dysgu oedolion / cysylltwyr cymunedol yn cefnogi'r rheini sydd angen help i wella eu hyder digidol.
- Gall staff llyfrgell a staff cyswllt cwsmeriaid gefnogi dinasyddion gyda thasgau digidol sylfaenol.
- Datblygu Cytundebau Mynediad Agored er mwyn caniatáu i weithredwyr cysylltedd ddefnyddio asedau’r cyngor gan gefnogi’r broses o gyflwyno technoleg.
- Gwella prosesau i gefnogi darpariaeth gyflymach o brosiectau cysylltedd newydd gan Weithredwyr Rhwydwaith Symudol neu ddarparwyr cysylltedd.
- Rhoddir ystyriaeth i bob defnyddiwr gwasanaeth wrth ddatblygu gwasanaethau a chynhelir Asesiadau Effaith Integredig lle bo'n briodol.
Mesurau
- Cwmpas Wi-Fi y Dref
- Mae cysylltiad Wi-Fi yn cyfrif
- Sgôr hygyrchedd
- Nifer y nodau cytundeb Mynediad Agored yn eu lle.
- Metrigau cwmpas cysylltedd
Y Trefniadau Llywodraethu a Chyflawni Arfaethedig
Bydd bwrdd prosiect digidol yn goruchwylio’r Strategaeth Ddigidol a bydd hyn yn cynnwys “Hyrwyddwyr Digidol” o bob un o’r 13 maes gwasanaeth. Bydd Cadeirydd y bwrdd prosiect digidol, gyda chymorth rheolwyr prosiect, yn goruchwylio’r modd y cyflawnir y strategaeth gan sicrhau bod y cynnydd a wneir o ran y strategaeth a chynlluniau cyflawni’r gwasanaethau yn cael ei adrodd gerbron y Grŵp Arweiniol, y Pwyllgorau Craffu a’r Bwrdd Perfformiad Corfforaethol.
Wrth gyflawni’r strategaeth, bydd angen i bob maes gwasanaeth barhau i ddatblygu’r gwasanaethau a ddarperir ganddynt fel rhan o’r hyn y maent yn ei wneud bob dydd. Bydd aeddfedrwydd digidol y gwasanaethau presennol yn esblygu ond dylai pob gwasanaeth newydd fod yn ddigidol aeddfed o’r cychwyn cyntaf. Bydd angen i bob gwasanaeth sicrhau bod gan y staff y sgiliau a’r gallu i gefnogi dinasyddion a darparu gwasanaethau modern, effeithlon a chydgysylltiedig gan ddefnyddio mesurau CAMPUS (cyraeddadwy, amserol, mesuradwy, penodol, uchelgeisiol, synhwyrol). Bydd y mesurau hyn yn cael eu diffinio’n fwy manwl yn y cynlluniau cyflenwi.
Bydd y grŵp arweiniol yn gyfrifol am y canlynol:
- Cytuno ar y strategaeth, cyn ei chyflwyno gerbron y broses wleidyddol i’w chymeradwyo a mynd ati i ymgynghori yn ei chylch.
- Cytuno ar gynllun gweithredu’r strategaeth a sicrhau portffolio ffiniedig ar gyfer y tymor.
- Cytuno ar gynlluniau digidol ar gyfer gwasanaethau unigol.
- Sicrhau bod gan bob gwasanaeth hyrwyddwr digidol yn ei le.
- Monitro a herio cynnydd, gan sicrhau bod yr anghenion corfforaethol yn cael eu diwallu.
- Cytuno ar adnoddau digonol a’u dyrannu i sicrhau bod y strategaeth a’r cynlluniau yn cael eu cyflawni'n effeithiol.
- Cytuno ar gyllid a’i ddyrannu o'r gronfa wrth gefn sydd wedi'i chlustnodi ar gyfer gwasanaethau digidol.
Bydd y bwrdd prosiect digidol yn gyfrifol am y canlynol:
- Blaenoriaethu’r prosiectau sydd wedi’u cynnwys yn y cynlluniau dwy flynedd.
- Cymeradwyo cynlluniau ar gyfer darparu gwasanaethau a'u cyflwyno i'r Grŵp Arweiniol.
- Cydlynu’r prosiectau gan fwrw ymlaen â phrosiectau / oedi prosiectau a blaenoriaethu’r rheiny sy’n sicrhau’r effeithiau neu’r enillion mwyaf, yn unol â’r adnoddau sydd ar gael.
- Sicrhau bod gan y meysydd gwasanaeth y sgiliau a'r awdurdod i gyflawni gwelliannau o fewn y prosesau a’r gwasanaethau.
- Adolygu cynllun cyflawni'r Strategaeth yn rheolaidd yn unol â gofynion y Cyngor, newidiadau mewn technoleg a gwerth am arian.
- Adolygu cynlluniau digidol y gwasanaethau yn rheolaidd i sicrhau bod cynnydd yn cael ei wneud yn unol â gofynion y Strategaeth a gofynion y Cyngor.
- Monitro a sbarduno cynnydd, gan sicrhau bod yr holl fetrigau gofynnol yn cael eu casglu ynghyd a'u hadrodd yn awtomatig bob chwarter i'r grŵp arweiniol a'r bwrdd perfformiad corfforaethol.
- Cydlynu’r cynlluniau dwy flynedd.
Bydd y Swyddog Arweiniol Corfforaethol dros y Gwasanaethau Cyswllt Cwsmeriaid, TGCh a Digidol yn gyfrifol am y canlynol:
- Goruchwylio’r cynnyrch a’r prosiectau digidol gan sicrhau bod gweledigaeth a strategaeth dechnegol ar waith, a’u bod yn gyson.
- Coladu a chadw cynlluniau gweithredu’r strategaeth y cytunwyd arnynt yn y bwrdd prosiect digidol.
- Monitro aeddfedrwydd y gwasanaethau ac adrodd yn ei gylch
- Sicrhau bod gan brosiectau gysylltiadau priodol â phensaernïaeth dechnegol a gwasanaethau cymorth i gwsmeriaid.
- Gweithio gyda’r gwasanaethau i lunio a theilwra’r gofynion fel eu bod yn cyd-fynd â’r amcanion strategol.
Bydd y Swyddog Arweiniol Corfforaethol dros Bolisi a Pherfformiad yn gyfrifol am y canlynol:
- Sicrhau bod yr adroddiadau cynnydd a’r mesurau yn cael eu hadlewyrchu’n awtomatig yng ngwaith y bwrdd perfformiad a’r cynlluniau busnes.
- Sicrhau bod y Grŵp Arweiniol yn medru monitro’r cynnydd a wneir mewn modd effeithiol.
- Cefnogi’r gwaith o graffu ar gynnydd drwy’r bwrdd perfformiad.