Panel Sianel Ceredigion
Fel amddiffyn plant, mae Sianel yn rhaglen ddiogelu amlasiantaethol sy’n weithredol ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru a Lloegr. Ei nod yw cefnogi pobl sy'n agored i niwed rhag cael eu tynnu i mewn i derfysgaeth ac mae'n darparu amrywiaeth o gymorth megis mentora, cwnsela, cymorth gyda chyflogaeth ac ati. Mae Sianel yn canolbwyntio ar ymyrraeth gynnar er mwyn amddiffyn pobl sy'n agored i niwed rhag cael eu tynnu i mewn i gyflawni gweithgareddau cysylltiedig â therfysgaeth, ac mae’n mynd i’r afael â phob math o eithafiaeth.
Mae cymryd rhan yn Sianel yn wirfoddol. Yr unigolyn, neu rieni plant 17 mlwydd oed ac iau, sydd biau’r penderfyniad a ddylid manteisio ar y cymorth a gynigir. Nid yw cymryd rhan yn Sianel yn arwain at gofnod troseddol.
Cadeirydd y Panel Sianel lleol yw Diana Davies, Rheolwr Corfforaethol, Partneriaeth a Pherfformiad, Cyngor Sir Ceredigion. Os oes gennych unrhyw bryderon am rywun ac yr hoffech gael mwy o gyngor, cysylltwch â:
Diogelu Cyngor Sir Ceredigion - 01545 574 000 (y tu mewn i oriau gwaith) 0300 4563554 (y tu allan i oriau gwaith).
Heddlu Dyfed Powys - Os ydych chi'n teimlo bod y mater yn un brys, cysylltwch â'r Wifren Gwrthderfysgaeth gyfrinachol ar 0800 789321, neu os bydd argyfwng, deialwch 999.