Skip to main content

Ceredigion County Council website

Tîm Taliadau Credydwyr Canolog

Mae yna dîm bychan, ymroddedig ac arbenigol o swyddogion sy’n gyfrifol am wneud taliadau i bob un o gyflenwyr a chontractwyr y Cyngor.

Mae staff mewn gwahanol adrannau’n derbyn, gwirio ac yn awdurdodi anfonebau i gael eu talu ac yn eu mewnbynnu ar y System Taliadau Credydwyr. Wedyn, cynhwysir yr anfonebau hyn yn y rhediad taliadau nesaf (fel arfer ar Ddydd Mercher neu Ddydd Gwener).

Trosglwyddir y taliad BACS yn uniongyrchol i gyfrif banc y cyflenwr (ddeuddydd gwaith ar ôl y rhediad taliadau) ac anfonir yr hysbysiad talu electronig trwy e-bost. Mae hysbysiadau talu electronig yn disodli’r hysbysiadau talu ar bapur.

Argraffir ac anfonir sieciau o’n swyddfeydd yn Aberystwyth, fodd bynnag, mae’r Cyngor yn cael gwared ar daliadau trwy siec yn raddol. Mae’r holl daliadau bellach yn cael eu talu trwy BACS i gyflenwyr.

Os cewch eich talu â siec ar hyn o bryd, bydd angen i chi ddarparu eich manylion banc i dderbyn pob taliad trwy BACS yn y dyfodol.

I newid o gael eich talu â siec i dderbyn eich taliadau trwy BACS, cysylltwch â’r Tîm Canolog Taliadau Credydwyr fel a ganlyn:

E-bost: df.payments@ceredigion.gov.uk
Ffacs: 01970 633152
Ffôn: 01970 633151 yn ystod oriau arferol y swyddfa 09:00 tan 17:00 (16:30 ar Ddydd Gwener)

Amcangyfrifir y bydd 400 o daliadau credydwyr yn cael eu gwneud â siec a 36,000 o daliadau BACS yn cael eu gwneud yn y flwyddyn ariannol bresennol.