Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Ffilmio yng Ngheredigion

Mae gan Geredigion amrywiaeth eang o leoliadau unigryw o ardaloedd gwledig eang fel ei thiroedd ffermio i bentrefi a adeiladau hanesyddol hardd i leoliadau glan y môr.

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn croesawu gwneuthurwyr ffilmiau i’r sir sy’n cael ei ystyried i fod yn le cyfeillgar i ffilmio. Rydym yn hapus i ddarparu ar gyfer anghenion y rheiny sy’n ffilmio a cheisio helpu lle bynnag y medrwn.

Os am ffilmio yng Ngheredigion, mae angen llenwi’r ffurflen gais priodol a'i dychwelyd i'r Adain perthnasol gan gynnwys copi o’r yswiriant atebolrwydd cyhoeddus ynghyd ag asesiad risg wedi'i gwblhau yn nodi sut y byddwch yn gweithredu'n ddiogel (darperir ffurflen asesu risg wag). Mae angen cofio gadael digon o amser ar gyfer y broses.

Mae angen derbyn ceisiadau a dogfennau perthnasol o leiaf 3 wythnos ymlaen llaw.

Gwybodaeth am ffilmio ar lwybrau cyhoeddus yn Ceredigion

Cais i Ddefnyddio Tir y Cyngor

Ffurflen Asesu Risg ar gyfer Gweithgareddau, Digwyddiadau, a Ffilmio

Cod Morol Gogledd a Gorllewin Cymru ym Mae Ceredigion