Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Tir ac Eiddo

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn rheoli portffolio eiddo masnachol a thir amrywiol sy'n cefnogi twf economaidd lleol, yn darparu lle i fusnesau, ac yn cyfrannu at gynaliadwyedd hirdymor gwasanaethau cyhoeddus.

Mae'r ystâd yn cynnwys swyddfeydd, unedau diwydiannol, safleoedd manwerthu, ffermydd y sir, tir pori, adeiladau cymunedol a safleoedd datblygu.

Caiff y portffolio ei reoli'n weithredol i sicrhau ei fod yn darparu gwerth i drigolion, busnesau a chymunedau ledled Ceredigion. Mae'r Cyngor yn rheolaidd yn sicrhau bod eiddo ar gael i'w gwerthu, eu prydlesu, eu trwyddedu, eu tendro neu eu llogi, gan gynnwys unedau canol tref, safleoedd ystad ddiwydiannol, tir pori a chyfleoedd datblygu.

Eiddo Masnachol a Thir

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn rheoli portffolio eiddo masnachol a thir amrywiol sy'n cefnogi twf economaidd lleol, ac yn darparu lle i fusnesau.

Gwarediadau a Chaffaeliadau

Mae'r Cyngor yn caffael ac yn gwaredu asedau eiddo yn unol â rhwymedigaethau statudol er mwyn sicrhau'r gwerth gorau a chefnogi blaenoriaethau strategol. Dysgwch fwy ar ein tudalen Gwaredu a Chaffael.

Tir ac Eiddo Anfasnachol

Garejys, rhandiroedd ac eraill.