Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Caffi Stryd / Seddau Awyr Agored

Mae trwyddedau caffis stryd yn caniatáu i ddefnyddwyr busnesau bwyd a diod presennol ddefnyddio gofod awyr agored i ymestyn eu mannau eistedd.

Ar gyfer busnesau sy'n dymuno defnyddio tir Cyngor Sir Ceredigion, mae angen caniatâd i sicrhau nad yw Iechyd a Diogelwch eraill yn cael eu heffeithio gan yr ardaloedd hyn a rhaid cwblhau cais am 'ganiatâd i rwystro llwybr'.

Ni chaniateir byrddau a chadeiriau ar balmentydd cyn cais llwyddiannus i rwystro llwybr.

Gallwch lawrlwytho'r Ffurflen Gais i wneud cais i ddefnyddio lle palmant ar gyfer byrddau a chadeiriau.

Busy Street cafe scene Aberaeron

Gallwch hefyd weld pa fusnesau sydd wedi cofrestru i fasnachu ar balmentydd a'u lle a neilltuwyd iddynt yma.