
2. Faint o gyllid sydd ar gael?
Bydd pob dyfarniad grant yn seiliedig ar 50% o’r costau cymwys. Isafswm y cymorth ar ffurf grant fydd £5,000 a hyd at £50,000.
Rhaid i arian cyfatebol fod yn arian parod (yn hytrach na chyfraniadau ‘o fath arall’) a chan ffynonellau o’r sector preifat.
Caiff y grant ei neilltuo dan drefniant y cyntaf i’r felin.
Pan gaiff cais ei gymeradwyo, rhaid i’r busnes ariannu 100% o’r gwariant cyn cael y grant cytunedig fel ad-daliad.
Mae ymgeisio yn broses gystadleuol a bydd gwerth am arian/effaith yn ffactor allweddol wrth arfarnu a dewis prosiectau.
Mae modd ystyried grantiau sy’n werth dros £50,000 fesul achos ar gyfer ceisiadau y mae’n amlwg eu bod yn cyd-fynd â ac yn gwneud cyfraniad sylweddol at gyflawni Strategaeth Economaidd Ceredigion a Chynllun Buddsoddi Rhanbarthol Canolbarth Cymru UKSPF.
Rhoi Hwb i Economi Ceredigion - Strategaeth ar gyfer Gweithredu 2020-35
Tyfu Canolbarth Cymru - Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol Canolbarth Cymru
Rhaid creu o leiaf un swydd newydd a/neu ddiogelu un swydd cyfwerth ag amser llawn (FTE), er mwyn manteisio ar y grant. Bydd angen i unrhyw swyddi yr honnir eu bod yn cael eu diogelu gael eu cynnwys fel swyddi y rhagwelir y byddant yn cael eu colli cyn pen 6 mis o’r cais.
Tudalen nesaf: Pwy sy'n gallu ymgeisio?
Tudalen flaenorol: Cyflwyniad