
8. Caffael
Er mwyn sicrhau gwerth gorau am arian, bydd angen i’r holl nwyddau a gwasanaethau sy’n cael eu hawlio fel rhan o’r prosiect gael eu caffael mewn ffordd agored a theg. Bydd angen i ymgeiswyr gynnig dyfynbrisiau ysgrifenedig, cyfeiriadau i restrau catalog neu dendrau ffurfiol fel rhan o’u cais.
Dylid dilyn y canllawiau canlynol, gan ddibynnu ar werth eitem unigol:
Trothwyon a Gofynion Hysbysebu Gwerth Amcangyfrifedig Nwyddau, Gwasanaethau neu Waith* | Nifer y Dyfynbrisiau/Tendrau sy’n Ofynnol** | Dull o Sicrhau Dyfynbrisiau/Tendrau |
---|---|---|
£0 - £4,999 |
Nifer ddigonol i ddangos gwerth gorau ac uniondeb y broses. Rhaid i ystyriaeth o gyflenwyr lleol fod yn rhan o’r broes. Dylid cysylltu ag Uned Caffael Corfforaethol Cyngor Sir Ceredigion os bydd angen cyngor arnoch ynghylch yr hyn i’w gaffael a/neu ble i gael gafael arno. |
Ymholiad llafar a gaiff ei gadarnhau mewn neges e-bost. Chwiliadau ar y rhyngrwyd gan gynnwys GwerthwrthiGymru, papur masnach ac ati. |
£5,000 - £24,999 |
Rhaid ceisio isafswm o 4 dyfynbris a chael o leiaf 2. Rhaid i’r cam o ystyried cyflenwyr lleol fod yn rhan o’r broses. |
Dyfynbris ysgrifenedig ffurfiol. GwerthiGymru. Ystyrir Dyfynbrisiau Cyflym. |
£25,000 - £99,999 |
Rhaid ceisio isafswm o 5 dyfynbris a chael o leiaf 3. Rhaid i’r cam o ystyried cyflenwyr lleol fod yn rhan o’r broses. Trowch at y Siart Llif Gweithdrefn (Atodiad 1) am y camau i’w cymryd os na cheir digon o gyflenwyr i’w gwahodd neu os na cheir isafswm y dyfynbrisiau. |
Naill ai
|
£100,000+ i dan OJEU |
Ggwahodd isafswm o 5 tendr ffurfiol trwy gyfrwng galwad agored i gystadlu neu yn dilyn galwad agored i gystadlu (fel yn achos proses Tendr Cyfyngedig) a chael o leiaf 3. Trowch at y Siart Llif Gweithdrefn (Atodiad 1) am y camau i’w cymryd ynghylch gwahoddiadau i dendro neu os na cheir isafswm y dyfynbrisiau. |
Yn y lle cyntaf, rhaid gwirio er mwyn sicrhau bod gwerth y contract dros ei gyfnod dilys arfaethedig yn is na throthwy OJEU neu beidio. Mae modd gweld y wybodaeth hon trwy ymweld a wefan OJEC. Mae proses dendro electronig lawn yn orfodol, a rhaid ei chynnal trwy edendrocymru. Islaw trothwy OJEU, rhaid cyhoeddi Hysbysiad Contract safonol a rhaid cyhoeddi hysbysiad OJEU os bydd yn uwch na’r trothwy. Rhaid cyhoeddi’r ddau Hysbysiad trwy GwerthwchiGymru. Bydd y Tîm Caffael Corfforaethol yn rheoli’r broses hon. |
Rhaid darparu tystiolaeth o’r gwariant trwy gyflwyno derbynebau/anfonebau a dalwyd a datganiadau banc sy’n dangos taliadau.
Tudalen nesaf: Rheoli Cymhorthdal
Tudalen flaenorol: Proses Asesu