Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

1. Cyflwyniad i Gronfa Gymorth a Datblygu Cymunedol Cynnal y Cardi

Gall Cronfa Gymorth a Datblygu Cymunedol Cynnal y Cardi eich helpu i wneud gwahaniaeth yn eich cymuned.

Nod Cronfa Gymorth a Datblygu Cymunedol Cynnal y Cardi yw cynnig cymorth ariannol ar raddfa fach:

  • Er mwyn cryfhau gweithgarwch cydnerthedd cymunedol, gyda ffocws ar rôl cynghorau Tref a Chymuned wrth iddynt gynorthwyo eu cymunedau ac ymgysylltu â nhw
  • Ar gyfer seilwaith newydd neu welliannau i seilwaith cymunedol a bro sy’n bodoli eisoes, gan gynnwys mannau gwyrdd lleol a lleoliadau cymunedol
  • I brofi a pheilota dulliau gweithredu ac astudiaethau dichonolrwydd
  • Ar gyfer gweithgareddau creadigol, treftadaeth ddiwylliannol a chelfyddydau lleol
  • Er mwyn buddsoddi mewn datblygu capasiti a chymorth seilwaith ar gyfer grwpiau cymunedol gan gynnwys cynllunio ar gyfer olyniaeth – denu pobl newydd, ystyried a deall effaith iaith, mentora pobl ifanc ac ati.
  • Ar gyfer mesurau cymunedol i leihau costau byw gan gynnwys mesurau i wella effeithlonrwydd ynni a goresgyn tlodi tanwydd a newid hinsawdd
  • Ar gyfer buddsoddiad a chymorth ar gyfer seilwaith digidol a chyfleusterau cymunedol lleol

Bydd y grant yn croesawu ceisiadau dan drefniant y cyntaf i’r felin rhwng 18 Mehefin 2025 a 30 Medi 2025, neu nes y caiff y gronfa ei neilltuo yn llawn. Rhaid cwblhau’r holl weithgarwch a hawlio’r cyllid erbyn 31 Ionawr 2026.

Bydd y Gronfa yn gynllun grant cymunedol, a fydd yn cynnwys cymorth ar gyfer gwariant refeniw a gwelliannau cyfalaf ar raddfa fach.

Tudalen nesaf: Faint o gyllid sydd ar gael?