3. Costau Cymwys
Mae'r Cynllun Gwella Strydwedd yn cefnogi'r gwaith canlynol:
- Amnewid arwyddion
- Trin, glanhau, atgyweirio neu ailosod ffenestri / wynebau / gwteri a phibellau i lawr sy'n wynebu'r stryd
- Atgyweirio neu ailosod rendr i ffasâd allanol yr adeilad (gan gynnwys unrhyw drychiadau sy'n wynebu'r stryd)
- Gwaith atgyweirio a gwella i ddrychiad y safle sy'n wynebu'r stryd, gan gynnwys adfer nodweddion hanesyddol fel mosaigau llawr a manylion blaen siop addurniadol
- Addurno ffasâd allanol yr adeilad (gan gynnwys unrhyw ddrychiadau sy'n wynebu'r stryd)
- Llogi sgaffaldiau ar gyfer mynediad diogel (rhaid cadarnhau caniatâd gyda Thîm Priffyrdd y Cyngor)
Gall eiddo fod wedi ei feddiannu neu'n wag, ar yr amod bod y gwaith yn dod â'r uned yn ôl i ddefnydd. Gall costau gynnwys deunyddiau neu lafur contractwr. Bydd costau ychwanegol fel gwaith paratoi yn cael eu hystyried lle bo hynny'n briodol.
Tudalen nesaf: Costau Anghymwys
Tudalen flaenorol: Cynnig Grant