Skip to main content

Ceredigion County Council website

Newyddion Caru'ch Cymuned

Caru'ch Cymuned, categori newydd ar gyfer Gwobrau Caru Ceredigion 2025

Mae ceisiadau ar agor ar gyfer categori newydd yng Ngwobrau Caru Ceredigion 2025. Bydd gwobrau Caru'ch Cymuned yn cydnabod ac yn dathlu gwaith cymunedau trefi a phentref ledled Ceredigion wrth gadw eu cymuned yn daclus, trefnu digwyddiadau a darparu gwasanaethau i bobl yr ardal.

Mae cymunedau mawr a bach yn cael eu hannog i gyflwyno cais drwy lanw’r Ffurflen Datgan Diddordeb cyn y dyddiad cau am hanner nos, Dydd Llun 7fed o Orffennaf, 2025.

Nod ymgyrch Caru'ch Cymuned yw meithrin a dathlu ymdeimlad o falchder mewn cymunedau ledled y sir, tra'n annog pobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau a mentrau sy'n gwella'r amgylchedd, cefnogi busnesau lleol, a chryfhau cydlyniant a gwytnwch cymunedol.

Mae tri is gategori i gystadleuaeth Caru'ch Cymuned - categori ar gyfer 'Pentrefi Bach' sydd â llai na 5 o gyfleusterau, 'Pentref' ar gyfer Pentrefi unigol, ardal benodol o fewn ardal Cymuned neu Gyngor Tref sydd â 5 neu fwy o gyfleusterau, a chategori ar gyfer ‘Trefi’ a olyga trefi sydd â chynllun tref fel Aberaeron, Aberteifi, Aberystwyth, Cei Newydd, Llanbedr Pont Steffan, Llandysul a Thregaron. Rhaid I’r ceisiadau cael eu cyflwyno gan gorff cydnabyddedig sy'n gynrychioliadol o'r gymuned.

Meddai'r Cynghorydd Clive Davies, aelod Cabinet Ceredigion sy'n gyfrifol am yr adran Economi ac Adfywio: "Mae'r categori newydd hwn, Caru'ch Cymuned, yn gyfle i ni ddathlu llawer o'n cymunedau ledled y sir o ran prosiectau cymunedol, gofal a chyflwr mannau cyhoeddus, digwyddiadau a mentrau, cyfathrebu effeithiol a gweithgareddau cymunedol. Edrychwn ymlaen at adeiladu ar lwyddiant y llynedd a dathlu ein cymunedau a'n hunigolion eto eleni yng Ngwobrau Caru Ceredigion 2025."

Y cam cyntaf wrth gymryd rhan yn y gystadleuaeth yw cwblhau a chyflwyno’r ffurflen Datgan Ddiddordeb. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno'r ffurflen Mynegi Diddordeb yw hanner nos ddydd Llun 7fed Gorffennaf 2025.

Mae canllawiau a ffurflenni cais ar gael ar y tudalen Caru'ch Cymuned, pe dymunir cysylltu gydag aelod o’r tîm e-bostiwch: ce.cynnalycardi@ceredigion.gov.uk.